Ymchwilio i bysgod marw mewn gwarchodfa natur

Bosherston Lily PondsFfynhonnell y llun, M J Roscoe/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae Pyllau Lili Bosherston ar warchodfa natur Stad Stagbwll yn Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cynnal ymchwiliad ar ôl i nifer o bysgod gael eu canfod yn farw mewn pyllau ar warchodfa natur yn Sir Benfro.

Cafodd yr ymchwiliad ei gynnal yn dilyn marwolaethau ym Mhyllau Lili Bosherstons ar Stad Stagbwll - gwarchodfa sy'n cael ei rhedeg gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mewn datganiad ar y cyd gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, dywedodd CNC bod eu canfyddiadau yn awgrymu mai prif achos y marwolaethau yw "lefelau ocsigen isel" yn y dŵr dros nos, sy'n cael ei achosi gan y tywydd poeth a thyfiant trwchus o blanhigion.

Ychwanegodd CNC nad oes unrhyw dystiolaeth bod llygredd yn achos, ac maen nhw wedi atal pysgota ar y llynnoedd am y tro fel mesur rhagofalus.

Mae'r llwybrau o gwmpas y llynnoedd yn parhau'n agor i ymwelwyr, ond mae gofyn iddyn nhw gadw'u cŵn i ffwrdd o'r dŵr ac i beidio â chyffwrdd ag unrhyw bysgod marw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.