'Blwyddyn gythryblus arall i'r byd amaethyddol'

Ffermwyr yn protestio tu allan i'r Senedd ym mis ChwefrorFfynhonnell y llun, PA
  • Cyhoeddwyd

'Shwt ni'n teimlo? Fel bob ffarmwr arall - yn grac'.

Dyna'r math o sylwadau oedd i'w clywed ar raglenni newyddion wrth i amaethwyr godi llais yn erbyn gofynion y cynllun ffermio cynaliadwy ddechrau'r flwyddyn, ac yn benodol yr angen i orchuddio tir gyda 10% o goed.

Mae rheolau newydd ynglyn â chadw slyri hefyd yn poeni nifer, ond mae'n siŵr mai cysgod parhaus y diciâu mewn gwartheg oedd yn achosi'r mwyaf o bryder.

Ar ben hynny, ym mis Tachwedd, cyhoeddodd canghellor y Trysorlys, Rachel Reeves, newid i'r dreth etifeddiant ar gyfer tir ac eiddo amaethyddol.

Ar raglen Newyddion y Flwyddyn S4C, Iwan Griffiths sy'n edrych 'nôl dros y 12 mis diwethaf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Aled Rees yn teimlo bod yr ymdrechion hynny i siarad a thrafod wedi gweithio i raddau

Mae Aled Rees yn ffermio ym Mhenparc ger Aberteifi ac wedi bod yn rhan o'r ymgyrch 'Digon yw Digon' er mwyn ceisio trafod pryderon y diwydiant gyda gwleidyddion.

"Fe ddechreuo' ni gyda'r cynllun ffermio cynaliadwy a roadshows y llywodraeth ar ddechrau'r flwyddyn yn corddi'r ffermwyr lan.

"A hynny'n arwain wedyn at y protestiadau fuodd, a'r cyfarfodydd mawr gethon ni yn Trallwng a Caerfyrddin, ac wedyn ar steps y Senedd."

Mae Aled yn teimlo bod yr ymdrechion hynny i siarad a thrafod wedi gweithio i raddau ond bod tipyn o waith i wneud eto yn 2025 o ran cytuno ar fanylion y cynllun ffermio.

"Mae'n rhaid cael y cyllid" meddai,

"Ac mae'n rhaid gweld beth yw'r elfen nesaf o'r cynllun, ond mae wedi bod yn frwydr eithaf caled. Maen nhw wedi gwrando, a ni wedi cael tamaid o symudiad ar y 10% o goed."

Erbyn diwedd y flwyddyn serch hynny, cyhoeddiad y Canghellor Rachel Reeves, a'r gofyn i dalu treth etifeddiant ar eiddo amaethyddol â thir gwerth dros £1m ar raddfa o 20% oedd y pwnc trafod.

Yn ôl Llywydd Undeb NFU Cymru Aled Jones, bydd y newid yn y dreth yn effeithio ar ffermydd am flynyddoedd i ddod.

"Bydd hefyd yn cael effaith ar hyder y diwydiant i barhau i gyflenwi bwyd y mae'r wlad yma yn ei ddymuno i weld" meddai.

"Mae'r egwyddor o drethi yr ased sy'n galluogi chi i gyflogi a chreu incwm, ac i gynhyrchu bwyd yn hollol anghywir."

Dywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog Keir Starmer bod y llywodraeth yn deall cryfder y teimladau ynglyn â'r newidiadau, ond eu bod yn glir mai nifer fach o stadau fydd yn cael eu heffeithio.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Llywydd Undeb NFU Cymru Aled Jones, bydd y newid yn y dreth yn effeithio ar ffermydd am flynyddoedd i ddod

Wrth i 2025 nesáu, ac er yr holl faterion dadleuol, mae'n bosib mai'r diciâu mewn gwartheg yw'r cwmwl du sy'n taflu'r cysgod mwyaf dros y diwydiant.

Mae 'na adroddiadau emosiynol niferus wedi llenwi rhaglenni newyddion dros y flwyddyn ddiwethaf wrth i ffermwyr ddisgrifio'r boen o weld degau o wartheg yn cael eu cludo o'u ffermydd er mwyn cael eu difa.

"Mae'n fywyd amaethyddol i, i gyd wedi bod o dan gysgod y diciâu mor belled"

Dyna oedd sylw plaen Aled Rees ddaeth allan o gyfyngiadau TB ddechrau'r flwyddyn cyn cael profion positif pellach erbyn diwedd y flwyddyn.

Disgrifiad o’r llun,

Dyw Huw Irranca-Davies ddim yn gwadu bod angen edrych ar fywyd gwyllt, ond mae'n rhoi'r pwyslais ar y ffordd y mae'r clefyd yn lledu o fewn gwartheg

Y ddadl ymhlith nifer o ffermwyr yw bod yn rhaid mynd i'r afael â'r clefyd o fewn y bywyd gwyllt er mwyn ei rheoli o fewn buches.

Dyw'r Ysgrifennydd Cabinet dros Faterion Gwledig Huw Irranca-Davies ddim yn gwadu bod angen edrych ar fywyd gwyllt, ond mae'n rhoi'r pwyslais ar y ffordd y mae'r clefyd yn lledu o fewn gwartheg.

"Mae'n rhaid i ni edrych ar y problemau mewn gwartheg, ac o fewn bywyd gwyllt. Mae'r ddau yn bwysig.

"Ond rydym ni'n gwybod mai'r ffordd y mae'n lledu o fuwch i fuwch yw'r peth pwysicaf i'r broblem, a hefyd i'r ateb."

Beth felly sydd i ddisgwyl i ffermwyr yn 2025?

Os yw'r cymunedau y tu allan i ffiniau'r diwydiant gwledig yn teimlo bod ffermwyr yn rhy barod i gwyno am eu trafferthion, mae Aled Rees yn eu gwahodd i droedio am wythnos mewn sgidiau amaethwr;

"Mae'r ffordd y' ni'n cael ein trafod a'n trin yn gywilyddus i feddwl am beth y' ni'n ei roi nôl i'r cyhoedd."

Pynciau cysylltiedig