Oedi cyn ailagor Porthladd Caergybi yn llawn unwaith eto

Porthladd CaergybiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae dwy filiwn o deithwyr yn teithio trwy Borthladd Caergybi pob blwyddyn

  • Cyhoeddwyd

Mae ailagor un o borthladdoedd prysuraf y DU yn llawn wedi cael ei ohirio eto, ddiwrnod cyn y dyddiad ailagor.

Cafodd dwy o angorfeydd Caergybi, sy'n cysylltu gogledd Cymru â Dulyn, eu difrodi ar 7 Rhagfyr gan Storm Darragh.

Effeithiodd ar filoedd o deithwyr a pharseli dros y Nadolig, yn ogystal â busnesau'r dref ei hun.

Ailagorodd un angorfa ar 15 Ionawr - roedd y llall i fod i ailagor ar 1 Gorffennaf ond cafodd ei ohirio tan ddydd Mawrth, 15 Gorffennaf.

Bellach mae cwmni Stena Line, perchnogion y porthladd, yn dweud y bydd yn agor ddydd Sadwrn oherwydd bod "amodau tywydd garw" yn oedi'r atgyweiriadau gorffenedig.

Porthladd Caergybi
Disgrifiad o’r llun,

Mae 1,200 o lorïau a threlars yn croesi bob dydd

Mae Stena Line ac Irish Ferries wedi bod yn gweithredu eu pedwar gwasanaeth dyddiol arferol o un angorfa, yn hytrach na'r ddwy arferol.

Dywedodd masnachwyr yng Nghaergybi eu bod wedi gweld gostyngiad enfawr yn yr elw ac yn y nifer y bobl sy'n ymweld yno ers y difrod i'r porthladd.

Mae dwy filiwn o deithwyr y flwyddyn a 1,200 o lorïau a threlars yn croesi bob dydd.

Dywedodd Stena Line eu bod yn "ymddiheuro am unrhyw anghyfleuster", a'u bod yn gwerthfawrogi amynedd a dealltwriaeth eu cwsmeriaid.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig