Oedi pellach cyn ailagor Porthladd Caergybi yn llawn

Porthladd CaergybiFfynhonnell y llun, Chris Willz Photography
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y porthladd ar gau ar gyfer y cyfnod prysur cyn y Nadolig

  • Cyhoeddwyd

Bydd oedi pellach cyn y bydd Porthladd Caergybi yn ailagor yn llawn, wedi i ddwy angorfa gael eu difrodi fis Rhagfyr.

Cafodd y difrod i'r porthladd, sy'n cysylltu gogledd Cymru â Dulyn, ei wneud yn ystod Storm Darragh ar 7 Rhagfyr.

Cafodd Terfynfa 5 ei hailagor ganol Ionawr, a'r bwriad oedd y byddai Terfynfa 3 yn ailagor ar 1 Gorffennaf.

Ond mae Stena Line, sy'n rhedeg y porthladd, yn dweud bellach mai ar 15 Gorffennaf y bydd Terfynfa 3 yn ailagor.

Cafodd y porthladd ei ailagor yn rhannol ar 16 Ionawr
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y porthladd ailagor yn rhannol ar 16 Ionawr

Mae cau'r porthladd wedi effeithio ar drefniadau miloedd o deithwyr, cwmnïau cludo nwyddau a busnesau lleol.

Mewn datganiad dywedodd Stena Line "er bod y gohiriad bach hwn yn anffodus, nid yw'n tynnu oddi wrth y cynnydd sydd wedi'i wneud".

Fe ddywedon nhw fod gwaith wedi bod yn cael ei gyflawni "bob awr o'r dydd" pan roedd y tywydd a'r llanw'n caniatáu.

Ychwanegon nhw: "Dros y chwe mis diwethaf, mae Stena Line ac Irish Ferries wedi gweithredu nifer arferol o fordeithiau yn llwyddiannus o angorfa Terfynfa 5 a rennir yng Nghaergybi, a bydd hyn yn parhau nes y bydd Terfynfa 3 yn ôl yn gwasanaethu."

Mae rheolwyr y porthladd yn diolch i staff a chwsmeriaid am eu cefnogaeth a'u dealltwriaeth.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig