Cyngor yn ymddiheuro am osod safle bws y tu fas i giatiau tŷ

Llun o'r safle bws
  • Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi ymddiheuro am osod safle bws y tu fas i giatiau tŷ.

Fe ddychwelodd Michelle Smith i'w chartref yn Y Beddau ger Pontypridd un prynhawn ddiwedd Awst a gweld arwydd ar gyfer safle bws y tu fas i'w giatiau.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi ymddiheuro am "fethu â chyrraedd y safonau disgwyliedig" wrth ymgynghori ar y cynllun, ac wedi addo tynnu'r safle bws oddi yno.

Yn ôl Michelle a'i phartner Christopher Harris, roedden nhw'n "gandryll" pan sylweddolon nhw beth oedd wedi digwydd, oherwydd eu bod yn disgwyl i'r safle bws newydd fod ar ran arall y ffordd.

Llun o Michelle Smith
Disgrifiad o’r llun,

Mae Michelle yn poeni am ddiogelwch ei hwyres

Mae Michelle hefyd yn dweud ei bod yn poeni am ddiogelwch ei hwyres 10 oed y tu fas i'w thŷ.

"Mae ganddon ni giatau i'r drive, ac mae ymyl y palmant yn isel, a dydyn ni ddim yn gallu gweld pwy sy'n sefyll wrth y giatiau ac hefyd dyw fy merch ddim yn gallu parcio y tu fas i'n tŷ ni bellach," meddai Michelle.

Mae'r cwpl yn dweud bod yr wythnosau diwethaf ers i'r safle bws ymddangos wedi bod yn "bryderus".

Dywedodd Christopher: "Mae'n beryglus - dywedon nhw wrtha i mai dyma'r lle mwya' diogel [i osod y safle bws] ond dyw e ddim.

"Gall fod 'na fws mawr wedi parcio yr ochr draw i'r giatiau wrth i fi adael yn fy nghar, felly mae'n rhaid i fi fod yn ofalus iawn.

"Ac fe all fod 'na griw o blant ysgol yn aros yno, reit y tu fas i fy nhŷ."

Llun o Christopher Harris
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Christopher nad oedd y cyngor wedi ymgynhori â nhw o gwbl

Dywedodd y cwpl eu bod wedi bod yn anfon e-byst i'r cyngor dros yr wythnosau diwethaf, a'u bod wedi derbyn ymddiheuriad yn gynharach y mis hwn.

"Fe ddywedon ni wrthyn nhw nad oedden nhw wedi ymgynghori â ni o gwbl ynglŷn â ble fyddai'r safle bws yn mynd," meddai Christopher.

"Dwi wedi cael addewid y bydden nhw'n rhoi pethau yn ôl fel oedden nhw, cyn i'r safle bws fod yno".

Mae'r cyngor wedi dweud wrthyn nhw hefyd y bydd y mesurau gostegu traffig oedd ar y ffordd o'r blaen, hefyd yn cael eu rhoi yn ôl yno.

Dydyn nhw ddim yn gwybod eto pryd yn union fydd y safle bws yn cael ei symud.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf eu bod yn "ymddiheuro'n ddiffuant i'r preswylwyr gafodd eu heffeithio.

"Ar ôl adolygu'r broses, fe ddarganfyddon ni nad oedd yn cyrraedd y safonau disgwyliedig yn ystod y cyfnod ymgynghori.

"O ganlyniad, fe fydd y safleoedd bws yn cael eu tynnu o'r briffordd".

Mae Christopher wedi disgrifio'r sefyllfa fel un "anghredadwy".

"Roedden nhw'n meddwl y gallen nhw ddod yma a rhoi'r safle bws yma, a doedden ni ddim yn mynd i wneud dim.

"Ond ry'n ni moyn pethe yn ôl i normal, fel oedden nhw."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig