Cynnydd 260% mewn ffioedd fflatiau yn 'wallgof'

Mae'r sefyllfa'n "dorcalonnus" i bobl yn y fflatiau, meddai Ben Murphy
- Cyhoeddwyd
Mae perchnogion fflatiau yng Nghasnewydd yn "grac" ac yn "rhwystredig" ar ôl derbyn biliau am £3,400 gan gwmni sy'n cynnal a chadw'r adeilad.
Dywedodd Ben Murphy, 29, bod y cwmni, FirstPort, wedi cynyddu'r ffioedd 262% ers 2020.
Mae rhaid i lesddeiliaid (leaseholders) dalu ffi blynyddol i gwmni rheoli sy'n gyfrifol am yswiriant yr adeilad a chynnal a chadw mannau sy'n cael eu rhannu.
"Mae'n dorcalonnus" meddai Mr Murphy. "Mae ffrindiau yn arbed arian i gael cegin newydd neu i fynd ar wyliau ond ni'n gorfod arbed arian i dalu'r biliau."
Yn ôl FirstPort, sydd wedi bod o dan chwyddwydr gan aelodau seneddol yn ddiweddar, ei fod yn gweithio gyda phreswylwyr i sicrhau bod costau'n synhwyrol "heb effeithio ar safon y gwasanaeth".

Mae pob preswylwr yn gorfod talu un bil ar gyfer yr adeilad (£2,509) ac ail fil ar gyfer yr ystâd (£869)
Llynedd, fe dalodd Mr Murphy bron i £4,000 ar ôl derbyn bil "annisgwyl" hanner ffordd trwy'r flwyddyn.
Fe wnaeth yr athro mathemateg gysylltu â FirstPort i ddadlau bod y cynnydd mewn costau yn "wallgof".
Mae'n "frwydr" ceisio cael esboniad ganddyn nhw, meddai Mr Murphy.
"Does dim manylion i esbonio beth yn union rydyn ni'n talu amdano. Dydyn ni ddim yn derbyn unrhyw "perks" ychwanegol, a'r unig mannau sy'n cael eu rhannu o fewn yr adeilad yw darn o garped wrth y drws ffrynt."
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd3 Chwefror
- Cyhoeddwyd5 Chwefror
Dywedodd preswylwr arall, Dan Willis, bod e a'i wraig hefyd yn gorfod talu £3,379 i FirstPort eleni.
Ychwanegodd Mr Willis bod y ffi yn 2024 yn uwch na'i daliadau morgais am y flwyddyn, a fuodd yn rhaid iddyn nhw fenthyg arian gan eu rhieni er gwaetha'r ffaith bod y cwpl yn gweithio llawn amser.
'Dim dewis ond symud'
Ar ddatblygiad Victoria Wharf yng Nghaerdydd, mae preswylwyr yn gobeithio disodli FirstPort fel rheolwyr y safle yn sgil ffioedd cynyddol hefyd.
Mae yswiriant y blociau o fflatiau wedi saethu i fyny yn sgil trychineb Grenfell, medden nhw.
Mae perchnogion y fflatiau yn talu mwy na £500,000 ar y cyd i gwmni FirstPort er mwyn yswirio'r adeiladau, yn ogystal â £150,000 y flwyddyn ar gyfer warden tân.
"Roeddwn ni'n talu just o dan £900 bob chwe mis cyn Awst 2019, ond erbyn hyn mae hi geiniogau'n fyr o £2,000 bob chwe mis", meddai Alison Steele, sydd wedi perchen â fflat ar y safle ers 12 mlynedd.
"Mae'n cael effaith fawr.
"Siwr bod gen i ddwy flynedd o bres ar ôl i dalu'r costau, ond ar ôl hynny fyddai'n gorfod symud fel mae lot o bobl eraill wedi gorfod gwneud yn barod yn anffodus."

Dywedodd Alison Steele ei bod hi ac eraill yn gobeithio "cael ein cymuned yn ôl"
Gobaith grŵp o breswylwyr Victoria Wharf yw sefydlu cwmni rheoli ei hunain er mwyn lleihau eu biliau ac i gael mwy o ddylanwad dros benderfyniadau sy'n ymwneud â'r datblygiad.
Dywedodd Ms Steele: "Ni angen i 75% o breswylwyr bleidleisio o blaid cael gwared ar FirstPort.
"Ni'n agos iawn at y niferoedd a'r bwriad wedyn yw sefydlu cwmni 'Victoria Wharf Residents Management'.
"Mae gyda ni gwmni arall mewn cof hefyd i fod yn gyfrifol am wneud y gwaith o redeg y safle o ddydd i ddydd.
"Rydyn ni just yn gobeithio fel lesddalwyr y gawn ni ein cymuned yn ôl, a gwybod beth yn union mae ein pres ni yn cael ei wario arno."
'Mae opsiynau ar gael'
Yn ôl ymchwil gan gwmni gwerthu tai Hamptons, roedd costau cynnal a chadw bloc o fflatiau yn 2024 yn llai na £2,000 yng Nghymru ar gyfartaledd.
Fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU fwriad i wahardd unrhyw ddatblygiadau prydles newydd.
Dywedodd hefyd y byddai'n parhau i "amddiffyn lesddalwyr rhag gwmniau rheoli sy'n cymryd mantais o'r system ac yn cynnig gwasanaeth gwael".
Mae cynnydd amlwg wedi bod mewn costau o'r fath, meddai'r cyfreithiwr Sion Fôn.

Mae modd mynd i dribiwnlys i herio costau cynnal a chadw, meddai'r cyfreithiwr, Sion Fôn
"Dwi'n credu mae 'na lot o bobl sy'n prynu rhywle sy'n leasehold neu fflatiau sydd ddim yn ymwybodol pa mor gostus mae'n gallu bod ac mae'n gallu bod yn dipyn o sioc i rai pobl.
"Mae yna ffordd o gael mwy o reolaeth dros y safle a mae modd mynd i driwbiwnlys i herio'r costau mae preswylwyr yn eu hwynebu.
"Mae hefyd modd prynu'r adeilad yn ei gyfanrwydd fel tenantiaid. Mae yna opsiynau ar gael ond mae hi sicr gwerth cymryd cyngor cyfreithiol."
'Ffactorau allanol' yn gyrru cynnydd
Mae FirstPort wedi bod o dan y chwyddwydr dros y misoedd diwethaf wedi i ddwsinau o aelodau seneddol ysgrifennu llythyr yn galw ar brif weithredwr y cwmni i fynd i San Steffan i ateb cwestiynau am gostau cynyddol.
Dywedodd FirstPort, sy'n rheoli 1,700 o ddatblygiadau preswyl dros y DU, bod cynnydd i gostau yswiriant ac ynni mewn blynyddoedd diweddar.
"Bob blwyddyn rydyn ni'n amcangyfrif yr arian i dalu am waith sydd wedi ei drefnu a chynnal a chadw, gan rannu cyllidebau gyda pherchnogion ymlaen llaw.
"Mae ffactorau allanol wedi golygu bod pob diwydiant sy'n gwasanaethu wedi gorfod delio â chynnydd mewn rhai mannau, ond mae'r gyllideb ar gyfer Ymyl yr Afon [Casnewydd] yn adlewyrchu cwymp ar gyfanswm cost y llynedd."