Diolch i'r Wal Goch, 'ein llysgenhadon gorau ni' wedi gêm Liechtenstein

Y gred ydy bod tua 3,000 o gefnogwyr Cymru wedi teithio i Liechtenstein ar gyfer y gêm
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas Bêl-droed Liechtenstein wedi canmol ymddygiad cefnogwyr Cymru yn dilyn y gêm rhwng y ddwy wlad ar 15 Tachwedd, yn ôl Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Mewn neges ar blatfform X dywedodd Noel Mooney, dolen allanol ei fod wedi derbyn "neges hyfryd" gan Gymdeithas Bêl-droed Liechtenstein oedd yn rhannu eu "gwerthfawrogiad diffuant" ynghylch ymddygiad cefnogwyr Cymru.
Yn ôl Mooney dywedodd cymdeithas Liechtenstein eu bod wedi derbyn "sawl adroddiad cadarnhaol" am ymddygiad y cefnogwyr, gan gynnwys yr heddlu.
Diolchodd i "bawb yn Y Wal Goch, ein llysgenhadon gorau ni".
Cymru enillodd y gêm yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd o 1-0, gyda Jordan James yn sgorio ei gôl ryngwladol gyntaf i sicrhau'r canlyniad oddi cartref.
Roedd yn ganlyniad hollbwysig gan gadw gobeithion y tîm cenedlaethol o orffen yn y ddwy safle uchaf yn fyw.
Aeth Cymru ymlaen i drechu Gogledd Macedonia tridiau'n ddiweddarach, gan orffen yn ail eu grŵp rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2026.

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Liechtenstein ei bod nhw wedi derbyn 'adroddiadau cadarnhaol ynghylch ymddygiad y cefnogwyr'
Bydd Cymru yn wynebu Bosnia a Herzegovina gartref yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle i gyrraedd Cwpan y Byd 2026.
Fe fydd carfan Craig Bellamy yn croesawu Bosnia a Herzegovina i Stadiwm Dinas Caerdydd ar nos Iau, 26 Mawrth 2026.
Os ydyn nhw'n llwyddo i ennill y gêm honno, bydd Cymru wedyn yn chwarae yn erbyn yr enillydd rhwng Yr Eidal a Gogledd Iwerddon yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Bydd rownd derfynol y gemau ail gyfle yn cael ei gynnal ar nos Fawrth, 31 Mawrth.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.