Cau lôn ar Bont y Borth am bum diwrnod oherwydd gwaith adfer

Pont y Borth o ochr y tir mawr tua glannau arfordir Ynys Môn gyda'r Fenai'n llifo oddi tani Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Daeth i'r amlwg ym mis Hydref bod angen adfer rhai o'r trawstiau o dan Bont y Borth, neu Bont Menai

  • Cyhoeddwyd

Fe fydd mesuriadau traffig mewn lle unwaith yn rhagor ar Bont y Borth cyn diwedd yr wythnos oherwydd gwaith adfer, medd Llywodraeth Cymru.

Fe fydd "gwaith rhagarweiniol" yn dechrau ddydd Iau 27 Tachwedd "i hwyluso'r atgyweiriad parhaol i'r broblem ddiweddar gyda thrawstiau croes" y bont grog.

Mae hynny'n dilyn "cyngor brys" gan beirianwyr ym mis Hydref wedi i ymchwiliad amlygu bod angen ailosod rhai o'r bolltau ar drawstiau o dan y bont".

Mae disgwyl i'r gwaith bara am bum diwrnod, rhwng dydd Iau 27 Tachwedd a dydd Mercher 3 Rhagfyr, ar ddyddiau wythnos yn unig.

Yn ystod y dyddiau dan sylw fe fydd un lôn ar gau rhwng 07:30 a 17:00.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd yna wybodaeth bellach ynghylch amserlenni'r gwaith adfer parhaol unwaith y bydd y rheiny wedi cael eu cadarnhau gan y cwmni sy'n gyfrifol am gynnal a chadw'r bont, UK Highways A55 Limited.

Yn eu datganiad mae'r llywodraeth hefyd yn diolch i ddefnyddwyr y bont "am eich amynedd wrth i'r gwaith hanfodol hwn gael ei wneud".