Cannoedd mewn rali yn Nefyn yn galw am 'dai lleol i bobl leol'

Cafodd y rali yn Nefyn ei threfnu gan fudiad Cymdeithas yr Iaith
- Cyhoeddwyd
Daeth cannoedd ynghyd yn Nefyn brynhawn Sadwrn er mwyn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i reoli'r farchnad dai.
Wedi ei threfnu gan fudiad Cymdeithas yr Iaith, roedd rali 'Nid yw Cymru ar Werth' yn gyfle, medd y trefnwyr, i lansio ymgyrch newydd sy'n galw am dai lleol i bobl leol.
Yn ôl ymchwil gan Gyngor Gwynedd, mae 65% o bobl yn y sir wedi eu prisio allan o'r farchnad dai, gyda'r awdurdod eisoes yn gosod premiwm treth o 150% ar ail gartrefi.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod sicrhau bod gan "bawb yng Nghymru le gweddus, fforddiadwy a ddiogel i'w alw'n gartref yn uchelgais allweddol".
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd24 Mawrth
- Cyhoeddwyd27 Chwefror
Bwriad y rali, medd Cymdeithas yr Iaith, ydi parhau i roi pwysau ar Lywodraeth Cymru ar drothwy Etholiadau'r Senedd ymhen blwyddyn.
Mae'r protestwyr yn galw am ddeddf eiddo fyddai'n "grymuso cymunedau lleol i drefnu eu datblygiadau tai yn ôl anghenion pobl yr ardal".

Dylid trin tai "fel hawl sylfaenol yn hytrach nag ased ariannol," meddai Walis George
Yn ôl Wallis George, sy'n aelod o'r gymdeithas a fu'n siarad yn y digwyddiad, mae'r rali yn galw am drin tai "fel hawl sylfaenol yn hytrach nag ased ariannol sy'n cael ei brynu a'i werthu am elw".
"Ond yn fwy na hynny, mae angen cynyddu'r nifer o dai sydd mewn perchnogaeth gyhoeddus neu gymunedol," meddai.
"Mae hyn fel bod pobl leol, yn enwedig yn ein cymunedau Cymraeg ni, yn cael blaenoriaeth i brynu tai neu wrth iddyn nhw gael eu gosod gan landlordiaid preifat."

Yn ôl Iwan Rhys Evans, mae hi bron yn "amhosib" iddo brynu tŷ yn ei ardal leol
Mae Iwan Rhys Evans yn 23 oed ac yn dod o ardal Nefyn yn wreiddiol.
Mae'n aelod o gyngor tref Nefyn ac yn dweud ei fod yn ei gweld hi'n anodd, os nad amhosib prynu tŷ yn lleol.
"Mae cael tŷ rownd ffordd 'ma, a chael tŷ sydd yn ddigon mawr i ddechrau teulu bron yn amhosib", meddai.
"Mae mam yn byw ym Morfa Nefyn ac mae 'na dy yno sydd ar werth am £1.2m - felly i rywun fel fi mae o jest yn amhosib."
'Cymunedau yn cael eu gwthio allan'
"Mae'n bechod gweld cymunedau bach Cymraeg sydd â theuluoedd sydd wedi byw yma ers canrifoedd yn cael eu gwthio allan," ychwanegodd.
"'Da ni eisiau byw yma, aros yma a dechrau teulu yma."

Mae'r BBC yn amcangyfrif bod tua 350 o bobl yn rhan o'r orymdaith brynhawn Sadwrn
Yn ôl data o Fedi 2024, roedd gostyngiad o 5% yn nifer yr ail gartrefi yng Ngwynedd.
Ond dweud mae ymgyrchwyr nad yw'r gostyngiad hwnnw, o reidrwydd, yn arwain at dai i bobl leol mewn cymunedau Cymraeg.
Yn ôl yr ystadegau o 2024, ar y pryd roedd 4,373 o ail gartrefi wedi'u cofrestru yn y sir, o'i gymharu â 4,605 yn y flwyddyn flaenorol.
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mae'r rali brynhawn Sadwrn wedi ei threfnu yn Nefyn i ddiolch i'r Cyngor Tref lleol am eu gwaith o bwyso ar Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Llywodraeth Cymru mewn datganiad: "Mae sicrhau bod gan bawb yng Nghymru le gweddus, fforddiadwy a ddiogel i'w alw'n gartref yn uchelgais allweddol gan y Llywodraeth hon.
"Mae'r egwyddor bod gan bawb yr hawl i gartref digonol yn un yr ydym yn ei chefnogi'n llwyr.
"Mae ein Papur Gwyn ar Dai Digonol, Rhenti Teg a Fforddiadwyedd yn gam pwysig tuag at gyflawni'r uchelgais hwn ac wedi'i lywio gan y dystiolaeth a gawsom i'n hymgynghoriad ar y Papur Gwyrdd y llynedd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Chwefror
- Cyhoeddwyd19 Chwefror
- Cyhoeddwyd17 Chwefror