'Breuddwyd' gweld Ffion yn cynrychioli Cymru yn Euro 2025
"Mae'n golygu popeth i ni gyd", meddai capten Cymru, Angharad James
- Cyhoeddwyd
Mae rheolwr Cymru Rhian Wilkinson yn hyderus na fydd eu paratoadau ar gyfer y gêm yn erbyn Ffrainc yn Euro 2025 wedi cael eu heffeithio ar ôl i fws y tîm fod mewn gwrthdrawiad.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ddydd Mawrth pan oedd y garfan ar y ffordd i'r stadiwm yn St Gallen i ymarfer.
Doedd neb ar y bws wedi eu hanafu, ond fe gafodd gyrrwr y cerbyd arall ei gludo mewn ambiwlans i ysbyty ar ôl dioddef mân anafiadau.
"Tydi'r digwyddiad ddim wedi newid dim byd o'n safbwynt ni," meddai Wilkinson.
"Dwi wedi bod mewn twrnament lle'r oedd 'na lifogydd. Mae'r pethau yma'n digwydd weithiau yn anffodus.
"Mi oedden ni wedi cwblhau ein paratoadau ar gyfer y gêm beth bynnag."

Mae Cymru ar waelod eu grŵp ar ôl colli 3-0 yn erbyn Yr Iseldiroedd
Ar ôl colli yn erbyn Yr Iseldiroedd yn eu gêm gyntaf, yn barod mae 'na dalcen caled yn eu hwynebu os ydyn nhw am fynd drwodd i rownd yr wyth olaf.
Os fydd Cymru yn colli'n erbyn Ffrainc, ac Yr Iseldiroedd yn cael o leiaf pwynt yn erbyn Lloegr, yna mi fydd eu gobeithion nhw o gyrraedd rownd yr wyth olaf ar ben.
"'Da ni'n gwybod nad oes 'na lot o bobl yn rhoi unrhyw obaith i ni," ychwanegodd Wilkinson.
"Mi o'n i'n hapus efo lot o elfennau o'r perfformiad yn erbyn Yr Iseldiroedd, ond yn amlwg mae 'na lot o bethau 'da ni angen eu gwneud yn well.
"Mae ganddo ni gyfle arall i ddangos cystal tîm ydyn ni nos Fercher."

Dydd Sadwrn diwethaf yn Lucerne - Ffion Morgan (chwith) a'i rhieni, Phylip a Ruth
Er yr her sy'n wynebu'r tîm i aros yn y gystadleuaeth, cyrraedd prif lwyfan pêl-droed y byd oedd bwysicaf i rai.
Dywedodd tad yr ymosodwr Ffion Morgan, Phylip, gweld ei ferch yn chwarae yn yr Euros yn "freuddwyd" iddyn nhw fel rhieni.
"O'dd Ffion yn bedair oed pryd ddechreuodd hi gicio pêl yn yr ardd tu ôl i'r tŷ," meddai ar Dros Frecwast.
"Wedyn yn wyth oed, penderfynu ei bod hi moyn chwarae i Gymru! O'dd hynny ar ôl cwrdd gyda Loren Dykes mewn community event."
Ychwanegodd Phylip fod cyrraedd "fan hyn rai blynyddoedd wedyn – mas o'r byd i ddweud y gwir".

Dywedodd Phylip, tad Ffion Morgan (dde), ei bod hi'n benderfynol o chwarae dros Gymru ar ôl cyfarfod gyda Loren Dykes (chwith) yn wyth oed
Aeth ymlaen i ddweud fod Cymru "wedi cael y fraint sawl gwaith o gael breuddwydie yn dorcalonnus ar y diwedd yndyn ni?"
"Ond i fod 'ma, ni wedi ennill y fraint i fod 'ma," meddai.
Ychwanegodd Phylip nad yw rhai yn bositif am obeithion Cymru yn y bencampwriaeth, ond bod rhaid edrych heibio hynny.
"Ma' rhai yn gweud am y sgôr yn erbyn yr Iseldiroedd, ni'n chwarae Ffrainc a Lloegr a ni mewn grŵp caled.
"Ond ma' rhaid i ni gymryd y profiadau o'r tournaments hyn, a deall ni wedi ennill y fraint o fod yma – felly da iawn Cymru."
Y gwrthwynebwyr
Yn rhyfeddol, tydi merched Ffrainc erioed wedi ennill Cwpan y Byd na'r Euros, er eu bod nhw'n un o dimau gorau'r byd ers dros 20 mlynedd.
Fe gafon nhw ddechrau gwych i'w hymgyrch yn Euro 2025, yn ennill 2-1 yn erbyn y pencampwyr presennol Lloegr nos Sadwrn.
Marie-Antoinette Katoto sgoriodd y gôl gyntaf yn y gêm honno, ac mae'n cael ei chydnabod fel un o ymosodwyr gorau'r byd.

Marie-Antoinette Katoto yn dathlu sgorio'n erbyn Lloegr nos Sadwrn
Ar ôl dweud hynny, mae Cymru'n gallu cymryd hyder o'r ffaith iddyn nhw gael dwy gêm agos yn erbyn Ffrainc yn eithaf diweddar yn rowndiau rhagbrofol Cwpan Y Byd 2023.
Fe gollon nhw 2-1 ar Barc Y Scarlets yn Llanelli, ond mi fyddai Cymru'n hawdd wedi gallu cael gêm gyfartal.
Yr un oedd y stori yn y gêm oddi cartref yn Guingamp.
Er i Ffrainc ennill 2-0, fe wnaeth Jess Fishlock daro'r postyn eiliadau'n unig cyn i Ffrainc sgorio eu hail gôl.
Newyddion timau
Y newyddion da i Gymru ydi fod y chwaraewr canol cae Ceri Holland wedi gwella o anaf, ac yn holliach i chwarae.
Bu'n rhaid i Holland adael y cae yn erbyn Yr Iseldiroedd gyda chramp yn ei choes, ond mae hi wedi ymarfer yn iawn dros y dyddiau diwethaf.

Mae Ceri Holland wedi ennill 44 cap dros Gymru
Mae'n bosibl y gwelwn ni Wilkinson yn gwneud newidiadau i'r tîm - gyda chwaraewyr fel Rachel Rowe, Carrie Jones ac Elise Hughes yn gobeithio cael y cyfle i ddechrau.
Mi fydd hi'n ddiddorol hefyd gweld a fydd Sophie Ingle yn chwarae unrhyw ran yn y gêm.
Er ei bod hi wedi ei chynnwys yn y garfan ar gyfer y bencampwriaeth ar ôl gwella o anaf hir-dymor i'w phen-glin - chafodd hi ddim y cyfle i ddod ymlaen fel eilydd yn erbyn Yr Iseldiroedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl