Plaid Reform yn diystyru cwestiynau am arweinydd yng Nghymru

Logo plaid Reform UK
Disgrifiad o’r llun,

Mae Reform UK wedi ennill is-etholiad am y tro cyntaf, ac etholiad ar gyfer maer yn Sir Lincoln

  • Cyhoeddwyd

Mae cwestiynau ynglŷn â phwy fydd yn arwain plaid Reform UK yn etholiad Senedd Cymru yn 2026 wedi cael eu diystyru gan y dyn sy'n gyfrifol am gyfathrebu ar ran y blaid yng Nghymru.

Dywedodd Llyr Powell mai Nigel Farage ydi'r arweinydd ar hyn o bryd, ac nad oes "rhywun rydyn ni'n mynd i'w gael fel arweinydd y blaid [yng Nghymru]".

Roedd Mr Powell yn siarad ar BBC Radio Cymru ar ôl i Reform ennill is-etholiad am y tro cyntaf yn y DU, gan gipio sedd Runcorn a Helsby oddi ar Lafur, ac ennill etholiad maer yn Sir Lincoln.

Mae Reform yn gobeithio ennill eu seddi cyntaf yn y Senedd fis Mai 2026, gydag arolwg barn diweddar yn awgrymu bod y blaid yn agos y tu ôl i Lafur o ran cefnogaeth, ac ochr-yn-ochr â Phlaid Cymru.

'Sôn am arweinydd dim ond i dynnu sylw'

Wrth gael ei holi ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru ynglŷn ag a oes gan Reform arweinydd yng Nghymru dywedodd Mr Powell:

"Arweinydd y blaid yw Nigel Farage, ond yng Nghymru mae lot o bobl sydd yn sefyll lan i fod yn candidates yn yr etholiad nesa'."

"Yn yr etholiad nesa' bydd pobl yn gweld pwy sy'n mynd i sefyll lan, ond distractions yw geiriau fel 'arweinydd y blaid' yng Nghymru."

"Ar hyn o bryd, does dim rhywun rydyn ni'n mynd i'w gael fel arweinydd y blaid [yng Nghymru].

Ym mis Ebrill, fe ddywedodd Reform na fydd Oliver Lewis, a wnaeth gynrychioli'r blaid yng Nghymru mewn dadleuon a chyfweliadau yn ystod etholiad cyffredinol 2024, yn ymgeisydd yn etholiad y Senedd, ac nad ydi o bellach yn llefarydd y blaid yng Nghymru.

Mae Caroline Jones, cadeirydd Reform ym Mro Morgannwg a Phen-y-bont, wedi disgrifio'r canlyniadau yn Lloegr dros nos fel rhai "rhyfeddol".

Dywedodd ei bod yn "edrych ymlaen at etholiadau'r Senedd, ac fe fyddwn ni'n gwneud yn dda iawn, iawn."

Yn ôl llefarydd y Ceidwadwyr ar Gymru yn San Steffan, Mims Davies, mae canlyniadau Reform yn golygu eu bod bellach yn wynebu brwydr.

Wrth siarad â BBC Cymru dywedodd: "Mae hyn ynglyn â phwy sy'n rhedeg gwasanaethau, pwy sy'n darparu i bobl yn lleol."

"Mae Reform yn mynd i orfod gwneud hynny - newid o fod yn blaid brotest i fod yn blaid sy'n symud pethau yn eu blaenau, a gweld os gallan nhw gyflawni hynny."

'Rhaid i Lafur feddwl yn ofalus'

Wrth siarad am golled Llafur yn is-etholiad Runcorn, dywedodd eu haelod o'r Senedd, Mick Antoniw bod "llawer o bobl mor flin gyda'r Ceidwadwyr yn yr etholiad cyffredinol, ond ddim yn teimlo eto bod yna unrhyw ysbrydoliaeth na newid yn dod gan Lafur".

"Ond mae'n ddyddiau cynnar iawn i lywodraeth Lafur y DU," meddai.

"Mae'n sefyllfa economaidd anodd, mae pob math o bethau'n digwydd yn rhyngwladol, a dim ond naw mis i mewn ydyn ni."

Ond mae yna "glychau rhybudd" yn canu i Lafur, ac mae'n rhaid i'r blaid "feddwl yn ofalus", meddai Mr Antoniw.

Pynciau cysylltiedig