Carwyn Jones: 'Reform yn fygythiad i'r Blaid Lafur yng Nghymru'

Carwyn JonesFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Dyw Carwyn Jones ddim yn credu y bydd unrhyw blaid yn ennill mwyafrif yn yr etholiad yn 2026

  • Cyhoeddwyd

Mae angen i Lafur adennill ei statws fel y blaid ar gyfer pobl sy'n gweithio er mwyn gwrthsefyll bygythiad plaid Reform yng Nghymru, yn ôl Carwyn Jones.

Mae cyn-Brif Weinidog Cymru hefyd yn dweud ei fod am ddefnyddio ei rôl newydd yn Nhŷ'r Arglwyddi i fod yn "lais i Gymru" ac yn gefnogwr o ddatganoli.

Dywedodd yr Arglwydd Jones ei bod hi'n annhebygol y bydd unrhyw blaid yn ennill mwyafrif yn etholiadau'r Senedd yn 2026 oherwydd y system bleidleisio newydd.

"Dyw unrhyw un sydd yn credu bod hynny yn mynd i ddigwydd ddim yn bod yn onest gyda nhw ei hunain," meddai.

Ychwanegodd: "Rwy'n credu mai'r cwestiwn yw pwy sy'n dod yn gyntaf, a pha blaid sydd â'r mwyaf o seddi."

"Nhw fydd y blaid fydd y ceffyl blaen yn y ras i ddewis y Prif Weinidog nesaf.

"Yna mae'n gwestiwn o bwy fydd yn gweithio gyda phwy? Dydw i ddim yn gallu gweld Llafur a Phlaid Cymru yn gweithio gyda Reform."

Yr etholiad yn 'anodd ei ddarogan'

Mewn cyfweliad gydag asiantaeth newyddion PA, dywedodd yr Arglwydd Jones er ei bod hi'n anodd darogan sut fydd pobl yn pleidleisio yn yr etholiad nesaf, dylai Llafur fod yn ystyried pam eu bod yn colli "canran o'u pleidlais" i Reform, a beth yw'r ffordd orau i ymateb i hynny.

"Mae'n rhaid i ni ateb y cwestiwn yna a cheisio adennill y pleidleisiau hynny," meddai.

"Yn y bôn, miliwnyddion sy'n eu hariannu a'u harwain ond eto maen nhw'n (Reform) honni bod yn blaid i bobl sy'n gweithio."

Nigel FarageFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl arweinydd Reform, Nigel Farage, fe fydd ei blaid yn lansio eu hymgyrch ar gyfer etholiadau'r Senedd ar 11 Mai

Ymhlith y rhanbarthau y gallai Reform UK ennill tir mae cadarnleoedd Llafur yng nghymoedd y de, a rhannau o gefn gwlad canolbarth Cymru - sydd fel arfer yn frwydr rhwng y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Dywedodd yr Arglwydd Jones fod Reform, hyd yma, wedi cynnig "pleidlais gwrth-wleidyddiaeth" i bobl sy'n byw yng Nghymru ond "dim byd y tu hwnt i hynny".

Hyd yma, nid yw Reform wedi rhannu unrhyw bolisïau penodol yn ymwneud a'r etholiad ym Mai 2026, ond pan ofynnwyd i arweinydd y blaid, Nigel Farage am faniffesto Cymreig, awgrymodd y byddai'n lansio ymgyrch swyddogol y blaid ar 11 Mai.

Mae Caroline Jones, llefarydd ar ran Reform UK, yn credu y bydd y blaid yn gwneud "yn dda iawn, iawn" yn yr etholiad nesaf, gan honni ei bod wedi "dal y pleidiau eraill yn cysgu" gan "nad ydyn nhw wedi gwrando ar beth y mae'r cyhoedd eisiau".

"Rwyf am i ni fod y brif blaid yn y Senedd," meddai.

Wrth ymateb i feirniadaeth am ddiffyg polisïau ei phlaid, ychwanegodd: "Bob tro y byddwn yn rhoi polisi allan mae plaid arall yn ei gymryd, dydyn ni ddim yn dangos ein cardiau i gyd fel rydyn ni wedi'i wneud yn y gorffennol. Rydyn ni'n edrych ar gael set dda o bolisïau Cymraeg yn barod ar gyfer etholiadau'r Senedd."

'Llais dros Gymru ddatganoledig'

Roedd yr Arglwydd Jones yn Brif Weinidog ar Gymru rhwng 2009 a 2018.

Fe wnaeth ei ragflaenydd, Rhodri Morgan, wrthod cael ei urddo'n arglwydd ar ddau achlysur, ac mae ei olynydd Mark Drakeford wedi dweud y byddai yntau hefyd yn gwrthod cynnig o'r fath.

Er ei fod yn parhau i gefnogi argymhellion y cyn-brif weinidog Llafur, Gordon Brown, i'r system Arglwyddi gael ei diwygio i fod yn un etholedig, dywedodd ei fod wedi derbyn yr arglwyddiaeth gan ei bod hi'n "bwysig cael llais gan Lafur Cymru oedd wedi eistedd yn y senedd ddatganoledig" yn y siambr.

"Dwi eisiau bod yn llais dros Gymru, ac yn llais dros Gymru ddatganoledig," ychwanegodd.

Pynciau cysylltiedig