Abertawe fydd cartref cwmni theatr cenedlaethol newydd Michael Sheen

Michael Sheen
Disgrifiad o’r llun,

Michael Sheen ydy sylfaenydd a chyfarwyddwr artistig cwmni newydd Welsh National Theatre

  • Cyhoeddwyd

Bydd cwmni theatr newydd sy'n cael ei ariannu gan yr actor Michael Sheen yn cael ei leoli yn y ddinas lle ddechreuodd ei daith theatrig.

Bydd Welsh National Theatre yn sefydlu eu pencadlys ym Mae Abertawe, yn y ganolfan ddinesig.

Dywedodd Sheen yn gynharach eleni ei fod yn ariannu'r cwmni theatr newydd i lenwi'r bwlch a adawyd ar ôl i National Theatre Wales ddod i ben.

Daeth gwaith y cwmni Saesneg ei iaith i ben ddiwedd y llynedd ar ôl toriadau i'w cyllid craidd gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Wrth siarad â BBC Cymru yn gynharach eleni, fe wnaeth Sheen addo y byddai'n ariannu'r cwmni newydd am "gyhyd ag sydd angen".

Dywedodd ei fod yn "gyffrous" y bydd y cwmni'n ymsefydlu mewn dinas o "greadigrwydd, gwydnwch ac ysbrydoliaeth".

"Dechreuodd fy nhaith theatrig ar y llwyfan yn Abertawe fel aelod o Theatr Ieuenctid Gorllewin Morganwg, felly mae'n teimlo'n briodol i gau'r cylch a lleoli Welsh National Theatre yn y ddinas," meddai.

"Nid dim ond swyddfa yw hon, ond canolfan ddiwylliannol sy'n croesawu pobl greadigol."

'Ysgogi cenhedlaeth newydd o dalent'

Fe wnaeth Canolfan Ddinesig Abertawe agor yn 1982 ac mae'n gartref i siambr y cyngor sir, yn ogystal â swyddfeydd a'r llyfrgell ganolog.

Dywedodd y cyngor y byddai hwb sector cyhoeddus, dolen allanol sydd wedi ei gynnig ar gyfer canol y ddinas yn galluogi ailddatblygu'r adeilad yn y dyfodol.

Dywedodd Sheen fod gwaith ar y gweill i wneud i'r gofod "ddod yn fyw" cyn i'r perfformio ddechrau.

Bydd y cynhyrchiad cyntaf, Our Town, yn ymddangos am y tro cyntaf yn Theatr y Grand, Abertawe ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf, cyn teithio o gwmpas Cymru.

Bydd Sheen yn serennu ar y llwyfan ym mis Ionawr yn ogystal ag mewn cyd-gynhyrchiad â Chanolfan Mileniwm Cymru yn ddiweddarach yn y flwyddyn, lle bydd yn portreadu Owain Glyndŵr.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Rob Stewart, ei bod yn "foment falch" i Abertawe gan y bydd yn cynnig cyfleoedd swyddi ac yn denu ymwelwyr.

"Mae hyn yn dod â chyfleoedd i'r rhai sy'n gweithio ar draws y sector perfformio – o actorion i gerddorion, artistiaid ac awduron i ddylunwyr, cynhyrchwyr a thechnegwyr – i fod yn rhan o rywbeth o'r radd flaenaf, wedi'i wreiddio yn Abertawe ac yng Nghymru," meddai.

"Mae ganddo'r potensial i ysgogi cenhedlaeth newydd o dalent lleol ac ysbrydoli hyd yn oed mwy o ymwelwyr i ddod i'n dinas."

Ychwanegodd Sharon Gilburd, prif weithredwr sefydlu Welsh National Theatre, y bydd yn helpu i greu sîn ddiwylliannol "ffyniannus" ar gyfer cenedlaethau i ddod.

Pynciau cysylltiedig