Ymgyrchwyr yn 'bositif' am ddyfodol i ysgol arbennig Sir Gâr

Ysgol Heol Goffa
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ysgol Heol Goffa yn darparu addysg ar gyfer dros 120 o blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol

  • Cyhoeddwyd

Mae ymgyrchwyr dros ddyfodol Ysgol Heol Goffa, Llanelli yn teimlo'n "bositif" ynglŷn â'r ffordd ymlaen, er yn rhybuddio Cyngor Sir Caerfyrddin y byddan nhw'n parhau i frwydro am adeilad newydd.

Daw hyn wedi i adroddiad llawn gael ei gyhoeddi fis diwethaf yn dilyn adolygiad annibynnol o'r ddarpariaeth arbenigol bresennol ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn Llanelli.

Mae'r adroddiad yn pwysleisio'r angen i ehangu'r ddarpariaeth ar gyfer Cyflyrau'r Sbectrwm Awtistig, ynghyd â chynnig chwe opsiwn ar gyfer dyfodol Ysgol Heol Goffa.

Mae'r awdurdod lleol wedi gofyn am i unrhyw sylwadau gael eu cyflwyno erbyn 13 Mawrth.

Bydd adroddiad terfynol yn cael ei gyflwyno i gabinet y cyngor sir er mwyn gwneud penderfyniad ffurfiol ar yr argymhellion cyn gwyliau'r haf eleni.

Becki Davies, Is-gadeirydd grŵp ymgyrchu Ysgol Heol Goffa
Disgrifiad o’r llun,

Mae merch Becki Davies ar y rhestr aros am le yn Ysgol Heol Goffa

Wrth drafod yr adroddiad terfynol dywedodd Becki Davies, is-gadeirydd grŵp ymgyrchu Ysgol Heol Goffa: "Rydym yn croesawu'r adroddiad oherwydd rwy'n credu ei fod yn dangos yn eglur y diffygion yn system addysg Cyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol.

"Rydym yn bositif, rydym yn optimistaidd, ond dyw'r droed ddim yn dod oddi ar y sbardun.

"Dydyn ni ddim yn stopio tan i ni gael ysgol newydd wedi'i hadeiladu ac ry'n ni eisiau hwnnw'n gynt yn hytrach nag yn hwyrach."

Pam comisiynu adolygiad annibynnol?

Yn 2017 cafodd adeilad newydd ar gyfer Ysgol Heol Goffa ei gymeradwyo - ysgol sydd ar hyn o bryd yn darparu addysg ar gyfer dros 120 o blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.

Ond fis Mai 2024 dywedodd Cyngor Sir Gâr nad oedd y cynllun bellach yn "hyfyw yn ariannol".

Wedi'u siomi â'r penderfyniad, mae ymgyrchwyr wedi galw'n ddyfal am dro pedol, gan gyhuddo Cyngor Sir Caerfyrddin o "sathru" ar hawliau ac urddas y disgyblion.

Mewn ymateb cafodd David Davies - cyn-bennaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Llesiant Cyngor Bro Morgannwg - ei gomisiynu gan Gyngor Sir Caerfyrddin i arwain adolygiad annibynnol o'r ddarpariaeth arbenigol bresennol ar gyfer ADY yn Llanelli.

ymgyrchwyr
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrchwyr dros ddyfodol yr ysgol wedi galw am dro pedol ers misoedd

Mae'r adroddiad, a gafodd ei gyflwyno i lywodraethwyr a staff Ysgol Heol Goffa ar 20 Chwefror, yn seiliedig ar wybodaeth a gasglwyd o amrywiaeth o ffynonellau dros gyfnod o bedwar mis ddiwedd 2024.

Ymysg y casgliadau, mae'r adroddiad yn nodi nad yw'r amgylchedd dysgu yn Ysgol Heol Goffa yn "addas i'r diben ar hyn o bryd ac mae'n rhaid mynd i'r afael â hyn".

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi'r "cynnydd cyflym" sydd wedi bod yn nifer y plant a'r bobl ifanc â chyflyrau sbectrwm awtistig (CSA) yn ystod y degawd diwethaf ledled Cymru a thu hwnt.

Mae hefyd yn nodi fod "pob awdurdod lleol yn wynebu heriau enfawr o ran diwallu anghenion y grŵp cynyddol hwn o blant a phobl ifanc".

Gporymdaith 7fed o Fedi

Er nad yw Ysgol Heol Goffa yn ddarpariaeth i blant a phobl ifanc â CSA, mae'r adroddiad yn nodi bod rhaid i'r cyngor ystyried mai mater o bwys mawr yn Llanelli ar hyn o bryd yw diffyg darpariaeth arbenigol ddigonol ar gyfer plant a phobl ifanc â CSA.

Wrth ystyried cynigion ar gyfer darpariaeth ADY newydd yn Llanelli felly, mae'r adroddiad yn pwysleisio ei bod hi'n "hanfodol" bod y cyfle i ystyried ac ehangu'r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion â CSA yn rhan o unrhyw gynigion yn y dyfodol.

Beth yw'r opsiynau?

Mae chwe opsiwn posib yn cael eu cynnig yn yr adroddiad:

  • Opsiwn 1: Adnewyddu'r ysgol bresennol;

  • Opsiwn 2: Adeiladu ysgol newydd sydd â'r un nifer o leoedd (120 o ddisgyblion) ond sydd â dyluniad mwy cost-effeithiol;

  • Opsiwn 3: Adeiladu ysgol newydd sydd â mwy o leoedd (150 o ddisgyblion);

  • Opsiwn 4: Yn ogystal â rhoi naill ai Opsiwn 2 neu Opsiwn 3 ar waith, datblygu cynigion newydd i adeiladu un Ganolfan Arbenigol gynradd ac un Ganolfan Arbenigol uwchradd ar gyfer disgyblion â Chyflyrau Sbectrwm Awtistig;

  • Opsiwn 5: Adeiladu ysgol newydd a'i ailddylunio i gynnwys darpariaeth ar gyfer disgyblion â Chyflyrau Sbectrwm Awtistig (CSA) sydd â mwy o leoedd (250 o ddisgyblion);

  • Opsiwn 6: Adeiladu un Ganolfan Arbenigol gynradd ac un Ganolfan Arbenigol uwchradd ar gyfer disgyblion ag anawsterau dysgu difrifol (ADD), anawsterau dysgu dwys a lluosog (ADDLl) ac Anhwylder Sbectrwm Awtistig.

Alex Dakin a'i fab Jac
Disgrifiad o’r llun,

Mae mab Alex Dakin, Jac, yn ddisgybl yn Heol Goffa ac mae'n ffafrio opsiwn 3 i gael ysgol newydd i 150 o blant

Dywedodd Becki Davies fod cynyddu'r capasiti yn hanfodol oherwydd "anghenion y plant" a'r "nifer o blant ag anghenion sy'n cynyddu bob blwyddyn".

"Mae pob plentyn yn haeddu addysg ac ni ddylai'r un ohonynt fod yn aros i gael mynediad at addysg, fel fy merch i," meddai.

"Yr eiliad y maent yn cyrraedd oedran ysgol, dylent allu cael addysg addas."

Mae mab Alex Dakin, Jac, yn ddisgybl yn Heol Goffa. Mae e'n ffafrio opsiwn 3.

"Mae angen i'r cyngor sir weithredu ar unwaith i symud ymlaen gyda dewis 3," meddai.

"Mae'r ysgol newydd wedi cael ei haddo ers blynyddoedd, ac ni allwn ganiatáu i'r broses gael ei hoedi eto."

Owen Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Mae Owen Jenkins, cadeirydd llywodraethwyr Heol Goffa, yn hyderus y bydd darpariaeth newydd o ryw fodd

Dywedodd cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Heol Goffa, Owen Jenkins, ei fod yn hyderus y daw'r awdurdod "i gasgliad a phenderfyniad terfynol fydd yn diwallu anghenion pawb yn y gymuned".

Ychwanegodd: "Y peth positif yw, mae nifer fawr o'r opsiynau yn golygu rhyw ddarpariaeth newydd, nid yn unig i'n carfan ni o blant, ond carfan ehangach hefyd."

Dim penderfyniad eto, medd y cyngor

Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Darren Price, ei fod yn "cydnabod y chwe opsiwn posib sydd yn yr adroddiad".

"Mae'n rhaid i mi bwysleisio nad oes penderfyniad wedi ei wneud eto," meddai.

"Fel cabinet, rydym yn aros am adroddiad terfynol yn dilyn adborth pellach, er mwyn i ni benderfynu ar y camau nesaf gan roi'r ystyriaeth bennaf i anghenion disgyblion Ysgol Heol Goffa a'r holl ddisgyblion ag ADY."

Pynciau cysylltiedig