Bragdy Torri Syched: O farddoni i fragu yn Nhregaron

Cyn dechrau bragu, roedd Gwenallt Llwyd Ifan yn hyfforddi athrawon ym Mhrifysgol Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Mae bardd a chyn-brifathro wedi troi at fragu cwrw ac yn mentro drwy agor bragdy bychan newydd yn Nhregaron.
Bydd Bragdy Torri Syched yn agor ei drysau y penwythnos hwn, gyda'r cwmni'n dweud eu bod "am gynnig cwrw modern gyda gogwydd Gymraeg".
Y dyn tu ôl y fenter yw Gwenallt Llwyd Ifan, sy'n frodor o Dregaron ei hun.
Mae'n dweud mai'r nod ydi "agor cyrchfan lle mae pobl yn gallu dod i flasu gwahanol gwrw a chael 'chydig o hanes cwrw a'r broses o'i greu".
Gwenallt Llwyd Ifan yw enillydd Cadair Eisteddfod AmGen
- Cyhoeddwyd6 Awst 2021
Pum munud gyda'r bardd Gwenallt Llwyd Ifan
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2021
Y ddwy o Gaerdydd sy'n beirniadu cwrw cartref
- Cyhoeddwyd11 Awst
Cyn dechrau bragu, roedd Gwenallt Llwyd Ifan yn hyfforddi athrawon Gwyddoniaeth, Cemeg a Bioleg ym Mhrifysgol Aberystwyth, a chyn hynny yn brif-athro yn Ysgol Gyfun Penweddig yn Aberystwyth.
Mae hefyd yn fardd, gan ennill cadair Eisteddfod Genedlaethol 1999 a 2021.
'Bragu ers bo' fi'n fachgen ifanc'
"Gradd mewn bio-cemeg wnes i ac yn rhan o'r radd honno, roedd uned ar bio-technoleg a math o fio-thechnoleg yw bragu, a dwi 'di bod yn bragu ers bo' fi'n fachgen ifanc," meddai.
Ond fe drodd y diddordeb o fragu cwrw cartref yn fusnes pan ddaeth yn ffrindiau gyda chriw oedd wedi sefydlu cwmni arall, Cwrw Llŷn.
"Nhw ddaru fy ysbrydoli i, mewn ffordd, achos o'n i'n gweld sut roedd pobl yn gallu creu busnes cwbl Gymraeg, cwbl Gymreig, a gwneud iddo fe lwyddo, felly hwnnw oedd y sbardun."
Roedd hefyd wedi ymddeol y llynedd ac yn chwilio am rywbeth i lenwi'i amser.
"Mae 'na dwf aruthrol 'di bod mewn diddordeb mewn cwrw cartref, cwrw go iawn, traddodiadol dros y blynyddoedd diwethaf, ac ro'n i'n gweld bwlch i greu rhywbeth unigryw, Cymreig."

Y bwriad yw "troi Tregaron yn gyrchfan," meddai Gwenallt
Mae Gwenallt wedi sefydlu Bragdy Torri Syched mewn uned ar glos Twm Sion Cati, sydd y tu ôl i westy'r Talbot yng nghanol Tregaron.
"Bragdy bach, bach iawn sy' gen i," meddai, "fyswn i ddim yn ei alw'n meicro-fragdy, nag yn nano-fragdy, falle mai pigo-fragdy ydi o, ac fel gwyddonydd, dwi'n gwybod pa' mor fach ydi pigo!"
Mae'n dweud ei fod yn cynhyrchu digon i gynnal bar bychan ble fydd yn cynnal nosweithiau blasu, a'r bwriad hefyd yw gwerthu casgenni bychain i fusnesau eraill a phecynnau o ganiau yn uniongyrchol o'r safle.
Drwy gynnal nosweithiau i fudiadau a chreu digwyddiadau, y bwriad yw "troi Tregaron yn gyrchfan".
"Dwi'n gobeithio wedyn unwaith byddan nhw 'di cael blas ar y cwrw fan hyn, falle â'n nhw i'r tafarndai yn y dre a'r bwytai sydd yma i wario'u pres ac i gefnogi busnesau eraill."
Gweld busnesau newydd yn agor yn 'gyffrous'
Dyna yw gobaith y cynghorydd lleol, Catherine Hughes, hefyd.
"Mae gyda ni sawl busnes bach wedi dechrau yn y pedair neu bum mlynedd ddiwethaf, ac mae pobl leol yn gefnogol iawn yma," meddai.
"Mae unrhyw fusnes yn ei gweld hi'n anodd ar hyn o bryd, hyd yn oed y rhai sydd wedi bod yn mynd ers sawl blwyddyn.
"Mae pobl yn ddewr iawn i ymgymryd â dechrau busnes newydd o'r cychwyn fel mae Gwenallt yn ei wneud, yn enwedig o feddwl bod nhw'n agor yr amser hyn o'r flwyddyn.
"Dyma'r ail fusnes i agor yn ddiweddar yn yr ardal hon ac mae'r darn bach yma o'r dref fel tae 'di cael adnewyddiad newydd yn Nhregaron, mae'n eithaf cyffrous."

Mae cwrw 'Twm Sion Cati' wedi cael ei enwi ar ôl y lleidr pen ffordd o Dregaron, a 'Pegi Jonin' a 'Beti Bont' ar ôl gwrachod lleol
Yn ôl Gwenallt, mae'r pedwar math o gwrw gyda "thema Gymraeg yn rhedeg drwy bob un, mae nhw'n ddigyfaddawd Gymraeg".
Mae 'Beti Bont' wedi cael ei enwi ar ôl gwrach o Bontrhydfendigaid, 'Twm Sion Cati' ar ôl y lleidr pen ffordd o Dregaron, a 'Pegi Jonin', gwrach arall o ardal Bronant.
Y pedwerydd yw 'Mynji mynji man', ac mae Gwenallt, fel bardd, wrth ei fodd bod "hwn yn gwneud cynghanedd sain berffaith!".
"Mae'r stori yn mynd yn ôl i pan ro'n i'n blentyn bach ac roedd fy nhad, oedd yn ffermwr, un diwrnod, yn ceisio croesi'r da dros yr afon i ddod i odro.
"Ro'n i'n grwt bach, rhyw bedair neu bump mlwydd oed ar y pryd, yn uniaith Gymraeg, wrth gwrs, a rhyw ddyn yn pelto cerrig at y da achos bo nhw'n amharu ar ei bysgota fe, wrth groesi'r afon, a dyma Dad yn gweiddi rhyw bethau a phregethu ar y dyn.
"Dwi ddim yn gwybod, hyd heddi, beth oedd o'n gweiddi, siwr bod 'na regfeydd o bosib, ond es i nôl adref a dweud wrth Mam bod Dad wedi bod yn dweud 'mynji mynji man'!"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2020

- Cyhoeddwyd3 Mai 2017
