Gwenallt Llwyd Ifan yw enillydd Cadair Eisteddfod AmGen

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
gwenallt llwyd ifanFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

Gwenallt Llwyd Ifan yw enillydd Cadair Eisteddfod AmGen 2021.

Daeth y bardd o Dregaron i'r brig am ei awdl mewn cynghanedd gyflawn, hyd at 200 o linellau ar y pwnc 'Deffro'. Mae Gwenallt yn derbyn Cadair hardd, a gynlluniwyd a chrëwyd gan grefftwr yr Eisteddfod, Tony Thomas.

Y beirniaid eleni oedd Jim Parc Nest, Guto Dafydd a Caryl Bryn.

Cynhaliwyd y seremoni yn Sgwâr Canolog BBC Cymru yng Nghaerdydd, gydag enillydd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy, 2019, Jim Parc Nest yn traddodi'r feirniadaeth gyfansawdd.

Dywedodd: "Mae awdl 'Gwyliwr' [ffugenw Gwenallt Llwyd Ifan] wedi ei chanu yn y wers rydd gynganeddol. Yn agos at agoriad yr awdl, wele linell drawiadol: 'Un ar erchwyn hanes yn chwilio am awch eiliad.'

"Sôn y mae am redwr wedi cyrraedd copa mynydd Gwylwyr, yn sefyll i syllu ar y wawr. Erbyn diwedd y gerdd y mae'r un rhedwr yn canfod gwawr arall, y wawr sy'n dynodi deffroad cenedlgarwch y Cymry.

"Rhwng y ddwy wawr ceir cyfres o nosau neu fachludoedd gormesol, a'r darlunio yn gyson gelfydd a chyffrous. Fe dynnaf sylw yn fy meirniadaeth ysgrifenedig at un gwendid, sef y gorhoffedd o glystyru llinellau o gynganeddion sain, ynghyd â manylu ar y rheswm pam yr ystyriaf y gorddefnydd hwn yn wendid yn y wers rydd. Mae'n deg dweud nad yw Guto Dafydd o'r un farn â mi yn y cyswllt hwn, ac fe barchaf y farn honno.

"Ond y mae'r tri ohonom yn cytuno bod awdl 'Gwyliwr' yn cyrraedd safon teilyngdod eleni.

"Oherwydd y cyfwng a orfodwyd arnom cyn i Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2020 droi'n rhith, bydd y cadeirio hwn yn un hanesyddol. A gobeithio na welir mo'i debyg.

"Ond gobeithiwn hefyd y bydd gwefr y cadeirio mor wefreiddiol ag erioed i'r bardd buddugol, oherwydd haeddiant yr awdl arbennig hon ar y testun 'Deffro'."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod

Yn wreiddiol o Dregaron, bu Gwenallt Llwyd Ifan yn athro a phennaeth bioleg mewn ysgolion yn y gogledd am rai blynyddoedd, a thra'n byw yn Ninbych, mynychodd ddosbarthiadau cynganeddu John Glyn Jones.

Enillodd nifer o gadeiriau am ei farddoniaeth ac yn 1999, enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Môn am ei awdl 'Pontydd'. Ef yw capten tîm Talwrn y Beirdd Tal-y-bont. Mae hefyd yn aelod o dîm Ymryson y Beirdd Ceredigion.

Yn 2009, penodwyd ef yn Bennaeth Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig, Aberystwyth. Yn dilyn ei ymddeoliad o swydd y Pennaeth yn 2018, daeth yn hyfforddwr athrawon Gwyddoniaeth, Cemeg a Bioleg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cyhoeddwyd nifer o'i gerddi mewn gwahanol gyhoeddiadau a chasgliadau. Cyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, DNA, yn 2021. Yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy yn 2019 enillodd Gwenallt dlws coffa John Glyn Jones, ei hen athro barddol, am englyn y dydd gorau'r wythnos.

Ei ddiddordeb mawr arall yw pysgota â phlu. Cynrychiolodd Gymru nifer o weithiau ar lynnoedd ac afonydd ledled yr ynysoedd hyn a thramor a bu'n bencampwr rhyngwladol Prydain ac Iwerddon ar ddau achlysur.

Mae'n rhedwr brwd a gwelir ef yn aml yn rhedeg ar hyd llwybrau ardal Tal-y-bont. Mae'n briod gyda Delyth ac mae ganddynt fab a merch, Elis ac Esther.

Cafodd y Gadair ei chreu yng ngweithdy'r Eisteddfod Genedlaethol ei hun yn Llanybydder, gan y crefftwr, Tony Thomas, allan o bren onnen. Noddir y Gadair gan gwmni J&E Woodworks Ltd, Llanbedr Pont Steffan, a chafodd ei chreu o fewn ychydig filltiroedd i le syrthiodd y coed ychydig flynyddoedd yn ôl.

Gallwch ddarllen y feirniadaeth yn llawn yn y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau a fydd ar gael fore Sadwrn 7 Awst.