Dadl am ganeuon sarhaus cynghorydd yn 'cadw'r sylw ar Reform'

Y Cynghorydd David ThomasFfynhonnell y llun, Nikita Singh
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd David Thomas o Reform y dylai'r BBC wneud stori am ei gysylltiad â chaneuon sy'n sarhau menywod er mwyn "cadw'r sylw arnom ni"

  • Cyhoeddwyd

Mae un o gynghorwyr Cymreig Reform UK yn dweud fod stori am ei gysylltiad â chaneuon sy'n sarhau menywod yn rhoi sylw i'w blaid.

Mae enw David Thomas yn ymddangos gydag enw unigolyn arall ar ganeuon dawns ar Spotify a YouTube, gan yr artist "Dowster and Vagabond".

Mae rhai o'r caneuon yn cynnwys iaith sarhaus tuag at fenywod.

Dywedodd llefarydd ar ran Reform bod y caneuon wedi eu creu gan yr ail unigolyn, "ac nid y cynghorydd Thomas".

Mae'r Blaid Lafur wedi galw ar y cynghorydd i ymddiheuro ac ymddiswyddo am y geiriau "hynod o sarhaus".

Fe gyfeiriodd Thomas BBC Cymru at ddatganiad Reform ond ychwanegodd y dylai'r BBC adrodd y stori achos ei bod "yn cadw'r sylw arnom ni".

Mae'r caneuon sydd ar Spotify a YouTube yn disgrifio'r aelod o Gyngor Torfaen fel cyfansoddwr a chynhyrchydd.

Roedd Thomas, sy'n gyn-gynghorydd Llafur, yn un o dri cynghorydd annibynnol yn Nhorfaen a ymunodd â Reform y llynedd.

Mae ei hefyd wedi ei restru fel llywodraethwr ar wefan ysgol gynradd yn ei ward.

Dywedodd Reform UK nad y cynghorydd David Thomas greodd y caneuon, er eu bod nhw wedi eu cyhoeddi o dan ei enw.

Ychwanegodd llefarydd: "Mae'r geiriau a'r samplau i gyd yn dod o draciau ac artistiaid eraill, does dim wedi dod gan y cynghorydd Thomas.

"Mae Reform yn disgwyl ac yn cynnal y safonau uchaf gan ein ymgeiswyr a swyddogion etholedig."

Gofynnodd BBC Cymru pam fod enw Thomas yn ymddangos ar y caneuon ond ni chafwyd ateb.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Torfaen bod aelod o'r cyhoedd wedi cysylltu â'r cyngor ac wedi cael gwybod y dylai eu cwyn fynd at swyddfa Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Dywedodd hefyd bod yr awdurdod lleol wedi rhoi cyngor i'r ysgol ble mae Thomas yn lywodraethwr.

Pynciau cysylltiedig