Plaid Reform i sefyll ym mhob etholaeth yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae plaid Reform yn dweud y bydd ymgeiswyr yn sefyll ym mhob sedd yng Nghymru yn yr etholiad cyffredinol ar 4 Gorffennaf.
Mae'r blaid yn bwriadu ymgyrchu ar hyd y gogledd ddwyrain, i lawr y ffin â Lloegr ac o gymoedd y de hyd at Sir Benfro - yn siâp "C tu chwith Cymru".
Dywedodd llefarydd ar ran y blaid ei bod hi am fod yn her i ennill seddi yn yr etholiad yma, ond ei fod yn hyderus y bydd modd "adeiladu" a thargedu seddi yn etholiadau Senedd Cymru yn 2026.
Mae'r blaid wedi bod yn feirniadol o safbwynt y Ceidwadwyr ar fewnfudo ac eisiau gweld rheolau llymach yn cael eu cyflwyno.
- Cyhoeddwyd23 Mai
- Cyhoeddwyd4 Mehefin
Dywedodd llefarydd y blaid, Gawain Towler: "Ar hyd arfordir y gogledd ddwyrain, y Fflint, Clwyd, Wrecsam, Sir Drefaldwyn, Aberhonddu, Mynwy, ar draws cymoedd de Cymru i Sir Benfro - yr C tu chwith Cymru yw ein hardal gryfaf ond byddwn yn ymladd ym mhobman.
Ychwanegodd y bydd hi'n "galed" i'r blaid ennill seddi dan y system cyntaf i'r felin - sy'n golygu mai'r ymgeisydd sydd â'r nifer fwyaf o bleidleisiau sy'n dod yn Aelod Seneddol ar gyfer yr ardal honno.
Ond os allai'r blaid "adeiladu" a sicrhau "perfformiad cryf ar draws Cymru" yna mae'n hyderus y bydd modd ennill seddi yn etholiadau nesaf Senedd Cymru.
System bleidleisio cynrychiolaeth gyfrannol fydd yn cael ei defnyddio yn yr etholiadau hynny.
Dywedodd arweinydd plaid Reform UK, Richard Tice wrth BBC Cymru mai prif fater yr etholiad oedd mewnfudo.
"Dylai hwn fod yn etholiad am y pwysau enfawr sy'n dod yn sgil mewnfudo - sy'n gwneud pawb o amgylch y Deyrnas Unedig yn dlotach yn ariannol ac yn effeithio ar brisiau tai, rhent a'n gwasanaethau iechyd.
"Mae'r ddwy brif blaid yn sefyll am drethi uwch, mewnfudo torfol a does ganddyn nhw ddim cynllun i wella amseroedd aros y gwasanaeth iechyd.
"Mae democratiaeth yn well pan fod fwy o ddadl a mwy o ddewis. Dydy'r dewis rhwng Llafur a'r Ceidwadwyr ddim yn ddewis mewn gwirionedd.
"Os ydych chi eisiau polisi mewnfudo doeth, yna'r peth doeth i wneud ydy pleidleisio dros Reform UK."
- Cyhoeddwyd24 Mai
- Cyhoeddwyd24 Mai
Mae Reform yn mynnu eu bod nhw'n targedu pleidleiswyr Llafur a'r Ceidwadwyr, ond mae tystiolaeth o isetholiadau yn awgrymu mai'r Ceidwadwyr sydd yn fwyaf tebygol o golli pleidleisiau i Reform.
Ar hyn o bryd nid oes gan Reform unrhyw aelodau yn Senedd Cymru.
Roedd y blaid yn cael ei harwain gan Nigel Farage rhwng 2019 a 2021, pan oedd yn cael ei hadnabod fel Plaid Brexit.
Fe fydd Cymru yn anfon 32 aelod i San Steffan, yn hytrach na'r 40 sydd wedi bod ym mhob etholiad ers 1997.
Mae hyn yn golygu y bydd newidiadau mawr i rai ardaloedd o Gymru, gyda rhai etholaethau yn uno, ac eraill yn diflannu'n llwyr.