Clybiau Cymru yn darganfod pwy fydd eu gwrthwynebwyr yn Ewrop

Y Seintiau Newydd yn erbyn FiorentinaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y Seintiau wynebu Fiorentina fel rhan o'u hymgyrch yng Nghyngres UEFA y llynedd

  • Cyhoeddwyd

Bydd y Seintiau Newydd yn wynebu KF Shkëndija o Ogledd Macedonia yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr.

Daeth yr enwau o'r het mewn seremoni yn Nyon, Y Swistir brynhawn Mawrth.

Bydd y cymal cyntaf yn stadiwm Neuadd y Parc ar 8/9 Gorffennaf, gyda'r ail gymal oddi cartref yng Ngogledd Macedonia yr wythnos ganlynol.

Y Seintiau Newydd oedd y clwb dynion cyntaf erioed o Gymru i gyrraedd un o brif gystadlaethau Ewrop ar ôl iddyn nhw gystadlu yng Nghyngres UEFA y llynedd.

Bydd Penybont yn wynebu FK Kauno Zalgiris o Lithwania yn rowndiau rhagbrofol Cyngres UEFA, a bydd Hwlffordd yn herio Floriana FC o Malta.

Fe fydd Penybont a Hwlffordd oddi cartref yn y cymal cyntaf ar 10 Gorffennaf, cyn croesawu eu gwrthwynebwyr i Gymru ar gyfer yr ail gymal ar 17 Gorffennaf.

Pynciau cysylltiedig