Gwrthod tocynnau pêl-droed am ddim wedi 'gwawdio' ar TikTok

Dywedodd Jessie Yendle ei bod hi'n teimlo fod y fideos ar TikTok wedi gwawdio ei hatal dweud
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o Gymru yn dweud ei bod hi'n teimlo "llawn cywilydd" ar ôl i glwb pêl-droed o'r Almaen ddefnyddio clip ohoni ar TikTok, a'i bod hi wedi gwrthod eu cynnig o docynnau am ddim fel ymddiheuriad.
Roedd y fideo yn dangos Jessie Yendle yn cael trafferth gyda'i hatal dweud, cyn i'r clip newid i fod yn gân TikTok boblogaidd dros luniau o'r chwaraewr Serhou Guirassy.
Cafodd clip tebyg ei bostio gan Ironman, y trefnwyr triathlon, ond er eu hymddiheuriadau mae Ms Yendle yn teimlo eu bod wedi defnyddio ei nam lleferydd fel "clickbait".
"I gael fy ngwawdio ar lwyfan cyhoeddus fel yna, ro'n i fel, 'dim diolch, gewch chi gadw eich tocynnau pêl-droed," meddai.
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2024
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd15 Mehefin
Ffrind i Ms Yendle, sydd o Bontypridd yn Rhondda Cynon Taf, wnaeth dynnu ei sylw at y clip gan Ironman, cyn iddyn nhw ei ddileu yn dilyn beirniadaeth ar-lein.
Roedd Borussia Dortmund hefyd wedi postio fideo tebyg ym mis Awst i'w 17.3m o ddilynwyr TikTok, oedd wedi ei wylio 765,000 o weithiau cyn cael ei ddileu.
"Fi wedi treulio cymaint o flynyddoedd yn codi ymwybyddiaeth, dwi ar y cyfryngau cymdeithasol am fy mod i wedi cael fy nghamddeall drwy fy mywyd," meddai Ms Yendle.
"Ac i weld cwmnïau yn gwawdio'r ffordd fi'n siarad – ro'n i just yn teimlo llawn cywilydd."

Dywedodd Jessie Yendle ei bod wedi gwrthod cynnig Borussia Dortmund o fynd i gêm am ddim fel ymddiheuriad
Dywedodd y clwb pêl-droed fod "wir ddrwg" ganddynt, gan wahodd Ms Yendle i gêm o'i dewis hi yng Nghynghrair y Pencampwyr "er mwyn ei darbwyllo hi fan hyn ein bod ni yn Borussia Dortmund yn bobl dda".
Fe wnaeth Ironman hefyd ddisgyn ar eu bai, gan ychwanegu y dylen nhw fod wedi "gwneud ein hymchwil yn iawn cyn neidio ar beth roedden ni'n ei gredu oedd trend ar y cyfryngau cymdeithasol".
Ond dydy Ms Yendle, sy'n cael ei hadnabod ar-lein fel Mimidarlingbeauty â chyda 3.5m o ddilynwyr ar TikTok, ddim wedi ei darbwyllo.
"Maen nhw wedi ymddiheuro i mi yn breifat, ond mae'n fath o ymddiheuriad gewch chi pan 'dych chi'n mynd rhywle a chael gwasanaeth cwsmer gwael," meddai.
"Nes i ddim hyd yn oed ymateb, achos do'n i ddim yn meddwl fod e ddigon da. Dydych chi heb ddangos diddordeb go iawn... i addysgu eich tîm am nam ar leferydd."
'Defnyddio fi fel clickbait'
Mae Ms Yendle yn cael miliynau o bobl yn gwylio ei fideos TikTok sy'n codi ymwybyddiaeth o atal dweud, rhywbeth sy'n effeithio ar tua 450,000 o bobl ym Mhrydain.
Ers 2021 mae hi'n gosod heriau i'w hun a'u postio ar-lein, gan gynnwys archebu bwyd neu ofyn am argymhellion.
Mae hi hefyd wedi galw am gyflwyno symbol er mwyn i bobl â nam lleferydd allu nodi hynny mewn sefyllfaoedd cyhoeddus.
Ond mae ei phrofiad diweddar gyda'r cyfryngau cymdeithasol wedi gwneud iddi deimlo bod pethau'n "mynd yn ôl mewn amser".

Mae Jessie Yendle yn dweud y bydd yn parhau i ymgyrchu ar-lein dros bobl sydd â nam lleferydd
"Ro'n i'n teimlo bod nhw'n defnyddio fy lleferydd fel clickbait, ac nid dyna beth dwi'n ei wneud o gwbl," meddai.
"Fi eisiau iddyn nhw ymddiheuro i fy nghymuned i, achos mae cymaint o bobl gyda nam lleferydd ac wedi gorfod gweld y fideo yna.
"Mae gennych chi blant a phobl ifanc, yn sgrolio drwy'r cyfryngau cymdeithasol ac wedi gweld y clip, falle bod ganddyn nhw atal dweud."
Dylai cwmnïau ac unigolion ar y cyfryngau cymdeithasol ystyried yn ofalus, meddai, cyn dynwared neu gopïo fideos poblogaidd.
"Fi'n teimlo os chi'n defnyddio wyneb rhywun a chi'n meddwl fod e'n trend, os yw e'n anabledd, crefydd, hil, rhywioldeb, yna fi ddim yn meddwl fod e'n trend a ddylech chi ddim neidio arnyn nhw," meddai Ms Yendle.
"Mae hyn yn sicr wedi fy ngwneud i'n fwy penderfynol o daflu goleuni a dangos i bobl pam fod e mor bwysig i gael y sgyrsiau yma yn 2025."