'Nes i orfod dileu TikTok i osgoi gwaethygu fy anhwylder bwyta'

Eve Jones
Ffynhonnell y llun, Eve Jones
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Eve Jones ddileu TikTok i amddiffyn ei hiechyd

  • Cyhoeddwyd

Mae dynes a oedd yn cael trafferth gydag anorecsia yn dweud ei bod wedi gorfod dileu ap TikTok i amddiffyn ei hiechyd ar ôl gweld gormod o gyngor colli pwysau "niweidiol".

Mae skinnytok yn agwedd ddadleuol ar y cyfryngau cymdeithasol lle mae pobl yn hyrwyddo cyngor colli pwysau sy'n canolbwyntio ar fwyta llai, gyda'r nod o fod yn "denau".

Yn ddiweddar, mae TikTok wedi rhwystro'r term.

Ond er bod Eve Jones, 23 o Gaerdydd, yn cydnabod ei fod yn gam i'r cyfeiriad cywir, dywedodd mai dim ond "crafu'r wyneb" mae'r gwaharddiad - a gall pobl ddod o hyd i ffordd o'i gwmpas.

Dywedodd TikTok eu bod yn cyfyngu ar fideos ac wedi rhwystro'r term wrth iddo ddod yn gysylltiedig â chynnwys colli pwysau mewn modd sydd ddim yn iach.

Eve Jones Ffynhonnell y llun, Eve Jones
Disgrifiad o’r llun,

"Yr eiliad ti'n gwylio post fel 'na, mae dy ffrwd yn cael ei orlifo gyda phethau tebyg mor gyflym," meddai Eve

Er gwaethaf y gwaharddiad ar y term, mae llawer o fideos sy'n hyrwyddo skinnytok, sydd ddim yn defnyddio'r hashnod, yn dal i fod ar gael ar yr ap.

Mae Eve wedi bod i mewn ac allan o'r ysbyty ers roedd hi'n 13 oed, a dywedodd fod y gwaharddiad ar y term yn "rhy hwyr" gan fod y negeseuon eisoes yn gyhoeddus.

Mae Eve wedi tynnu ei hun oddi ar y cyfrwng cymdeithasol, gan ei bod hi wedi dweud bod defnyddwyr yn hyrwyddo bwyta "niweidiol".

Mae hi'n poeni am yr effaith y mae hyn yn ei gael ar genedlaethau iau.

"Yr eiliad ti'n gwylio post fel 'na, mae dy ffrwd yn cael ei orlifo gyda phethau tebyg mor gyflym," meddai.

Mae symbolau a rhifau hefyd yn cael eu defnyddio i guddio hashnodau niweidiol, meddai Eve, felly mae'r cynnwys yn dal yn "hawdd iawn" i'w ganfod.

Eve JonesFfynhonnell y llun, Eve Jones
Disgrifiad o’r llun,

"Dydi pobl sy'n chwilio am skinnytok ddim yn sylwi bod o'n ddrwg iddyn nhw," meddai Eve

Dywedodd Eve ei bod wedi rhwystro geiriau penodol rhag ymddangos ar ei ffrydiau ar y cyfryngau cymdeithasol, ond mae'n dal i weld y fideos.

Ychwanegodd bod pobl yn dweud y dylai rhywun osgoi unrhyw gynnwys niweidiol neu ddod oddi ar y cyfryngau cymdeithasol, ond nad yw hi mor syml â hynny.

"Dydi pobl sy'n chwilio am skinnytok ddim yn sylwi bod o'n ddrwg iddyn nhw. Dydyn nhw ddim am chwilio am gymorth am y peth," meddai.

Fe wnaeth elusen Beat holi pobl ag anhwylderau bwyta yn 2022 am eu profiadau ar-lein, a dywedodd 91% o'r ymatebwyr eu bod wedi gweld cynnwys niweidiol ar y pwnc.

Tom QuinnFfynhonnell y llun, Steve Copley
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn gallu gwaethygu anhwylder bwyta, meddai Tom Quinn o elusen Beat

Mae Tom Quinn o elusen Beat yn croesawu'r gwaharddiad ar yr hashnod skinnytok, ond dywedodd fod yn rhaid i TikTok a llwyfannau eraill ar y cyfryngau cymdeithasol "gymryd camau i sicrhau bod eu llwyfannau'n rhydd o bob cynnwys niweidiol".

"Er na fydd y cyfryngau cymdeithasol byth yr unig achos o anhwylder bwyta, rydyn ni'n gwybod ei fod yn gallu gwaethygu pethau i'r rhai sydd eisoes mewn perygl," meddai.

"Mae'n bwysig nodi y gallai rhai pobl sy'n creu'r math yma o gynnwys fod yn sâl eu hunain, felly dydyn nhw ddim yn bwriadu bod yn faleisus."

Dywedodd llefarydd ar ran TikTok fod y platfform yn cynnig nifer o adnoddau lles yn ogystal â "rheolau llym yn erbyn cywilyddio'r corff ac ymddygiad colli pwysau peryglus".

Mewn datganiad, ychwanegon nhw: "Mae'r platfform yn adolygu ei fesurau diogelwch yn rheolaidd i fynd i'r afael â risgiau sy'n esblygu.

"Rydym yn parhau i gyfyngu ar fideos o gyfrifon pobl ifanc ac yn darparu arbenigwyr iechyd a gwybodaeth yn TikTok Search."

Mae cymorth a gwybodaeth ar gael ar wefan BBC Action Line.