Pryder am ddyfodol ffermydd rhent Powys

Powys
  • Cyhoeddwyd

Mae yna bryder am ddyfodol ffermydd rhent Powys gyda thua 150 o bobl yn dod at ei gilydd nos Fawrth i drafod y mater.

Stad Ffermydd Sir Powys yw'r ystâd fwyaf o'i math yng Nghymru, a'r bumed fwyaf ym Mhrydain.

Mae'r awdurdod lleol wedi gwerthu pedair fferm ers Chwefror 2025, ar ôl i denantiaeth ddod i ben, ac mae 19 arall wedi derbyn rhybudd i adael.

Nod Cyngor Powys yw codi £10m bob blwyddyn trwy werthu asedau.

Dywedodd llefarydd mai'r "nod yw symleiddio ein daliadau eiddo" a "rhyddhau cyfalaf o asedau".

Cyfarfod Sarn
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd pleidlais ei gynnal ar ddiwedd y cyfarfod ar foratoriwm ar unrhyw werthiannau ffermydd pellach

Mewn cyfarfod yn Sarn ger Y Drenewydd nos Fawrth, roedd galwad gan ffermwyr, gwleidyddion ac undebau ar i Gyngor Powys oedi a chael polisi clir o ran dyfodol ffermydd rhent sydd i fod i gynnig cyfleoedd i'r rheiny sy'n methu prynu fferm eu hunain.

Cafodd pleidlais ei gynnal ar ddiwedd y cyfarfod ar foratoriwm ar unrhyw werthiannau ffermydd pellach hyd nes y bydd polisi newydd yn ei le ar sut y bydd stad y fferm yn cael ei rheoli.

Yn 2011, roedd gan Stad Ffermydd Sir Powys 163 o ddaliadau, erbyn hyn mae tua 130.

Er bod tua 25 o ddaliadau wedi eu gwerthu, dim ond 900 erw yn llai o dir sydd yn eu meddiant.

Mae Undebau Amaethyddol yn dweud y bydd hi'n anoddach i ffermwyr newydd ymuno a'r diwydiant gyda llai o ffermydd rhent ar gael.

Yn ogystal, mae'r rheiny sydd yn denantiaid ar hyn o bryd yn poeni am eu dyfodol.

Mae 19 wedi derbyn rhybudd i adael o fewn y 12 mis nesaf, ond dywedodd y Cyngor Sir nad pob tenant fydd yn gorfod gadael gyda rhai yn derbyn tymor newydd.

Mae mwyafrif ffermydd y Cyngor Sir yn yr hen Sir Drefaldwyn, sef gogledd Powys.

David Jones
Disgrifiad o’r llun,

"Mae ffermwyr yn teimlo yn anesmwyth iawn am y sefyllfa," meddai David Jones, cadeirydd Cyngor Cymuned Ceri

Yn neuadd bentref Sarn, ger Y Drenewydd, ddywedodd cadeirydd Cyngor Cymuned Ceri fod y gymuned wedi bod yn teimlo "yn anesmwyth am sefyllfa'r ffermydd cyngor ers 18 mis".

Meddai David Jones: "Mae ffermwyr yn teimlo yn anesmwyth iawn am y sefyllfa a mwyaf sydyn mae Cyngor Powys wedi penderfynu bod rhaid gwerthu asedau er mwyn gwneud arbedion o £10m y flwyddyn.

"Mae gan Bowys tua 130 o ffermydd, 30 o'r rheiny o fewn ein cymuned ni yma yng Ngheri felly mae'n mynd i gael effaith.

"Mae'n rhaid i ni gael atebion gan y Cyngor Sir o ran pa gyfeiriad maen nhw'n bwriadu mynd gyda'r ffermydd rhent."

Michael Davies
Disgrifiad o’r llun,

"Dydy gwerthu'r tŷ a chadw'r tir ddim yn gwneud dim i gefnogi ffermwyr newydd," meddai Michael Davies

Yn y cyfarfod, siaradodd Michael Davies am ei denantiaeth o 13 mlynedd gan ddweud ei fod "wedi gweithio'n ddiflino i drawsnewid fferm oedd yn anghynhyrchiol i un cynhyrchiol".

"Mae hynny i gyd yn wastraff llwyr achos tri mis yn ôl fe gefais rybudd i adael. Dydy Powys ddim yn cefnogi ffermwyr newydd, mae'n torri unig gyfle fy mhlentyn i ffermio.

"Dwi wedi ail-hadu dros 100 acer, ffensio 3000m o dir, gosod ystafell molchi newydd a wtra newydd. Dydy Powys heb wario ceiniog arno.

"Daeth fy myd i ben [pan dderbyniais y llythyr], fy mreuddwyd i oedd bod yn ffermwr.

"Dydy gwerthu'r tŷ a chadw'r tir ddim yn gwneud dim i gefnogi ffermwyr newydd, dim ond helpu ffermydd sefydledig i dyfu yn fwy.

"Mae'r lefel o esgeulustod dwi wedi ei dderbyn gan y Cyngor Sir yn afiach. Maen nhw wedi rhoi chwech wythnos i fi werthu holl asedau'r busnes a dod o hyd i gartref teuluol newydd."

Emyr Wyn Davies
Disgrifiad o’r llun,

"Dyma'r awdurdod lleol mwyaf gwledig a gyda'r ystâd fwyaf yng Nghymru," meddai Emyr Wyn Davies o Undeb Amaethwyr Cymru

Daeth cynrychiolwyr o'r Undebau Amaethyddol hefyd i'r cyfarfod ac meddai Emyr Wyn Davies o Undeb Amaethwyr Cymru bod y ffermydd rhent yn "hanfodol" i ddemograffeg Powys.

"Mae arian yn dyn ar y cynghorau i gyd. Dyma'r awdurdod lleol mwyaf gwledig a gyda'r ystâd fwyaf yng Nghymru.

"Mae'n destun hanesyddol mewn ffordd bod y ffermydd yma ym meddiant cyngor Powys yn y lle cyntaf. Mae'n bwysig bod y ffermydd yma'n cael eu cadw yn y sir."

Yn ôl NFU Cymru: "Byddai gennym bryderon sylweddol pe bai asedau unrhyw ffermydd cyngor yn cael eu gwerthu heb ail-fuddsoddi yn ôl i ystadau ffermydd eraill."

Llywydd NFU Cymru, Aled Jones
Disgrifiad o’r llun,

"Dylai'r ffermydd gael eu dathlu a'u hamddiffyn," meddai Llywydd NFU Cymru, Aled Jones

Yn dilyn y cyfarfod, dywedodd Llywydd NFU Cymru Aled Jones: "Mae cryfder y teimladau yn y cyfarfod yma heno yn glir.

"Mae Cyngor Powys o dan y chwyddwydr a dwi'n gofyn i chi ystyried effaith economaidd colli'r ffermydd yma.

"Peidiwch colli'r gemau sydd yn gennych chi yn eich coron. Dylai'r ffermydd gael eu dathlu a'u hamddiffyn."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Powys: "Mae'r cyngor yn cynnal proses ad-drefnu strategol o'i ystâd sydd yn cynnwys y portffolio ffermydd masnachol a sirol yn unol â'r Polisi Asedau Corfforaethol, sydd wedi'i gytuno gan y Cabinet.

"Mae hyn er mwyn sicrhau bod ein hasedau'n cael eu rheoli'n effeithlon, yn gynaliadwy ac yn cyd-fynd ag anghenion ein cymunedau sydd yn esblygu."

"Trwy adolygu a symleiddio ein daliadau eiddo, ein nod yw lleihau rhwymedigaethau cynnal a chadw, gwella effeithlonrwydd gweithredol, a rhyddhau cyfalaf o asedau sy'n cael eu tanddefnyddio neu asedau sydd dros ben.

"Bydd y cyfalaf a gynhyrchir trwy'r broses hon yn cael ei ail-fuddsoddi i gefnogi'r gwaith o gyflawni blaenoriaethau'r cyngor sef gwella gwasanaethau hanfodol, moderneiddio seilwaith a gyrru ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer Powys Gryfach, Tecach a Gwyrddach."

Pynciau cysylltiedig