Cyn-Archesgob Cymru'n cyfaddef iddo wybod am gŵyn yn ei esgobaeth

Andrew John
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Andy John ymddeol fel Archesgob ar unwaith fis diwethaf yn sgil adroddiadau beirniadol

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-Archesgob Cymru wedi cadarnhau ei fod e'n ymwybodol o gŵyn am ddigwyddiad diogelu meddwol o fewn ei esgobaeth - er iddo ddatgan yn ddiweddar nad oedd e'n gwybod am "y math yna o ymddygiad".

Fe roddodd cyn-Archesgob Cymru ateb sydd i weld yn gamarweiniol mewn cyfweliad wrth drafod yr hyn roedd e'n ei wybod am wendidau diogelu yn ei esgobaeth.

Ymddeolodd Andrew John ar unwaith fel Archesgob Cymru ar 27 Mehefin. Bydd yn ymddeol fel Esgob Bangor ddiwedd Awst.

Ddydd Sadwrn diwethaf, cyhoeddodd BBC Cymru adroddiad yn honni i ddyn oedd yn ceisio dod yn offeiriad ymosod yn rhywiol ar aelod o gôr Cadeirlan Bangor tra yn feddw yn 2022.

Dywedodd y dioddefwr honedig i'r dyn ymddiheuro wrthi.

Ni aeth hyfforddiant y dyn i fod yn offeiriad ymhellach.

Ddydd Sul diwethaf, darlledwyd cyfweliad gyda'r cyn-Archesgob ar raglen Bwrw Golwg.

Gofynnodd cyflwynydd y rhaglen, John Roberts: "Mae Wales Investigates unwaith eto wedi cael tystiolaeth gan un aelod o'r côr yn dweud fod 'na glerigwr, yn feddw, wedi bod yn yfed efo'r côr, wedi ymosod arni a'i bod hi wedi adrodd y peth drannoeth a'i fod o wedi ymddiheuro. Oeddech chi'n gwybod am y math yna o ymddygiad?"

Atebodd yr Archesgob: "Na, na. Sa'i byth wedi gweld clerigwyr gyda'r côr neu yn y gadeirlan yn cambihafio o gwbl.

"So dw'i ddim yn siŵr beth sydd tu ôl y stori yna ond y buchedd fi wedi gweld yw pobl sydd wedi cael amser da i ymlacio ond o fewn ffiniau derbyniol."

Cadeirlan Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Aelod o'r cyhoedd yn credu ei bod hi'n debygol bod Andy John yn "dweud anwiredd" wrth wadu ei fod yn ymwybodol o gwynion

Ar ôl i'r cyfweliad gael ei ddarlledu, cysylltodd aelod o'r cyhoedd gyda Newyddion S4C, gan ddweud ei bod hi'n "debygol iawn" y byddai Andrew John wedi bod yn ymwybodol o'r penderfyniad i beidio â pharhau â hyfforddiant dyn i fod yn offeiriad.

Yn eu barn nhw felly "mae'n debygol fod Andrew John yn gwybod am y diwylliant o yfed yn y Gadeirlan yn hwyr yn 2022, a'i fod yn dweud anwiredd wrth wadu".

Pan ofynnodd Newyddion S4C i Esgob Bangor a oedd e'n ymwybodol o'r digwyddiad honedig, ymatebodd llefarydd ar ran Cadeirlan Bangor gan ddweud: "Gall Esgob Bangor gadarnhau i'r mater gael ei ddwyn i'w sylw yn 2022.

"Adolygodd y Tîm Diogelu Taleithiol y digwyddiad ac argymell na ddylai'r unigolyn fynychu'r Gadeirlan ac y byddai angen cytundeb diogelu iddo gael mynychu unrhyw un o addoldai'r Eglwys yng Nghymru.

"Gweithredwyd yr argymhellion rheiny.

"Hoffai'r Esgob egluro nad oedd yr unigolyn dan hyfforddiant ond ei fod yn hytrach yn offeiriad ordeiniwyd yn Eglwys Loegr. Symudodd i Gymru ac roedd am ddychwelyd i'r offeiriadaeth.

"Ar adeg y digwyddiad, doedd dim trwydded na chaniatâd ganddo i weinyddu gan yr Eglwys yng Nghymru."

Cynnal ymchwiliad mewnol

Cadarnhaodd yr Eglwys yng Nghymru hefyd y "cynhaliwyd ymchwiliad mewnol a chyflwynwyd casgliadau a chyngor i'r Archesgob eu hystyried".

Pan ofynnwyd am esboniad ynglŷn â sylwadau'r cyn-Archesgob ar Bwrw Golwg, dywedodd llefarydd ar ran yr Eglwys yng Nghymru: "Roedd yr Esgob yn cyfeirio at glerigwyr a oedd yn gwasanaethu gyda'i drwydded neu a oedd yn gwasanaethu gyda'i ganiatâd i weinyddu.

"Nid oedd gan y person yn y digwyddiad hwn drwydded na chaniatâd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig