Gemau Paralympaidd: Medal arian i Aled Siôn Davies
- Cyhoeddwyd
Medal arian gafodd y Cymro Aled Siôn Davies wrth daflu'r pwysau yn y Gemau Paralympaidd ym Mharis.
Dyma'r pedwerydd tro iddo gystadlu yn y gemau ac roedd yn anelu am yr aur eto.
Dywedodd: "Mae'n galed, mae wedi bod yn daith emosiynol i gyrraedd yma.
"Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd... wnes i ddim perfformio fel y dylwn i. Nid heno oedd fy noson i."
Cafodd yr athletwr o Ben-y-bont ar Ogwr fedal aur ar daflu disgen yn y Gemau yn Llundain yn 2012, ac yn y gemau yn Rio a Tokyo fe enillodd aur am daflu pwysau.
Ym mis Mai fe enillodd bencampwriaeth y byd am daflu pwysau am y chweched tro - ei nawfed fedal aur ym mhob cystadleuaeth.
Yn dilyn y gystadleuaeth ym Mharis nos Sadwrn, dywedodd: "Does dim esgusion, mae ennill a cholli'n rhan o'r byd chwaraeon a rydw i wedi edrych ers blynyddoedd pryd y bydd y cystadleuwyr ym ymddangos."
- Cyhoeddwyd27 Awst 2024
- Cyhoeddwyd25 Mai 2024
- Cyhoeddwyd24 Awst 2024
Ychwanegodd: "Rydw i mor falch o weld sut mae'r digwyddiad yma'n dod yn ei flaen.
"Ond rydw i dal i feddwl mai fi yw'r dyn gorau a heno, wnes i ddim perfformio fel y dylwn i. Nid heno oedd fy noson i.
"Mae'n anodd delio gyda hynny ond mae'n fater o edrych a gweld beth aeth o'i le.
"Fe ddes i yma a meddwl 'rydw i'n mynd i guro record byd heno, a thaflu dros 17'."
Mae'n dweud bod anafiadau wedi achosi problemau ond "nad yw hynny'n esgus, nes i ddim perfformio fel y dylwn i."
Yn y cyfamser, fe gipiodd y Gymraes, Laura Sugar fedal aur yn senglau caiacio KL3 200m.
Fe enillodd hi fedal aur yn y Gemau Paralympaidd yn Tokyo yn 2020.
Hi ydi'r person olaf o Gymru i gystadlu yn y Gemau Paralympaidd ym Mharis.
Cipiodd athletwyr o Gymru 16 o fedalau yn y gemau eleni - 7 aur, 5 arian a 4 efydd.
Dyma'r nifer fwyaf o fedalau aur ers y gemau yn Beijing yn 2008, pan gipiodd athletwyr o Gymru 10 aur a chyfanswm o 14 medal.