Aled Siôn Davies 'ddim wedi gorffen' er gwaethaf anaf difrifol
- Cyhoeddwyd
Mae'r athletwr Aled Siôn Davies yn mynnu nad yw ei yrfa ar ben, er iddo orfod delio ag anaf difrifol i'w goes.
Yn ystod gyrfa hynod lwyddiannus mae wedi llwyddo i ennill sawl medal mewn pencampwriaethau byd, yng Ngemau'r Gymanwlad ac yn y Gemau Paralympaidd.
Ond ar hyn o bryd mae'n cael trafferth gydag anaf i'w goes sy'n gwrthod gwella ac mae'n wynebu llawdriniaeth bellach mewn ymgais i ddatrys y broblem.
Dywedodd fod yr anaf yn un sy'n gallu dod a gyrfaoedd i ben, ond fod ganddo "dân yn fy mol i ddod yn ôl a chystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad 2026".
- Cyhoeddwyd27 Awst 2024
- Cyhoeddwyd25 Mai 2024
- Cyhoeddwyd8 Medi 2024
Mae'r anaf diweddaraf wedi bod yn achosi problemau iddo ers dros ddwy flynedd erbyn hyn.
"Dair wythnos cyn Gemau'r Gymanwlad 2022 roeddwn i'n gyrru adref ac fe deimlais i boen yn llosgi yng nghesail fy morddwyd (groin)," meddai.
"Cefais i ddiagnosis o Osteitis Pubis, sy'n datblygu o ganlyniad i or-hyfforddi.
"Dyma'r anaf mwyaf cyffredin sy'n dod â gyrfa pêl-droedwyr a chwaraewyr rygbi i ben.
"Doedd e ddim yn rhywbeth roeddwn i eisiau ei glywed."
Er gwaetha'r boen, mae Aled Siôn Davies wedi parhau i gystadlu yn rhai o brif gystadlaethau'r byd.
Fe enillodd fedal aur yng Ngemau'r Gymanwlad yn Birmingham, medal arian yn y Gemau Paralympaidd ym Mharis yn ogystal â medal aur ym Mhencampwriaethau Para'r Byd yn Japan y llynedd.
Ond er iddo orffwys am gyfnod estynedig wedi Gemau'r Gymanwlad, roedd y boen yn parhau.
"Roedd y driniaeth cyn y Gemau Paralympaidd yn golygu cael pigiadau i gymal rhwng esgyrn y pelfis, ac ar ôl Paris ges i lawdriniaeth," esboniodd.
"Yn anffodus doedd e ddim yn llwyddiannus ond gobeithio y bydd llawdriniaeth bellach yn ei sortio am byth," meddai.
'Gwaith heb ei orffen'
Ychwanegodd ei fod yn benderfynol o gystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad yn Glasgow y flwyddyn nesaf, a'i fod yn targedu medal aur arall.
"Mae llawer o bobl yn gofyn i mi am fy nyfodol ond dwi ddim wedi gorffen eto," meddai.
"Mae llawer o egni gyda fi o hyd ac mae gen i dân yn fy mol i ddod yn ôl a chyrraedd lefel ffitrwydd 100% a chystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad 2026.
"Mae gen i waith heb ei orffen yno, oherwydd fe wnes i gystadlu yn yr un gemau yn 2014 a wnes i ddim ennill aur."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2024