Angen 'mwy o waith' i ddeall effaith treth etifeddiaeth ar ffermydd
- Cyhoeddwyd
Mae’r dirprwy brif weinidog wedi dweud bod angen gwneud “mwy o waith” i ddeall goblygiadau newid i dreth etifeddiaeth ar ffermydd Cymru.
Roedd yn wynebu cwestiynau gan ffermwyr yng nghynhadledd NFU Cymru yn Llandrindod, gydag un yn dweud wrtho y byddai’r sefyllfa’n golygu “marwolaeth y fferm deuluol”.
Dywedodd Huw Irranca-Davies, sydd hefyd yn ysgrifennydd dros gefn gwlad, ei fod yn awyddus i “symud oddi wrth y sŵn a deall y manylder yn llawn” o’r hyn a gafodd ei gyhoeddi gan y Canghellor Rachel Reeves.
“Be’ mae hyn yn ei olygu go iawn i ffermydd teuluol yng Nghymru, o ran dod â phobl newydd i mewn i’r diwydiant a chynllunio ar gyfer olyniaeth – mae’r meysydd yna i gyd angen dipyn bach yn fwy o waith,” meddai wrth y gynulleidfa.
- Cyhoeddwyd5 Tachwedd
- Cyhoeddwyd31 Hydref
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd
Ers iddo gael ei gyflwyno yn 1984, mae rhyddhad eiddo amaethyddol (APR), wedi caniatáu i dir a ddefnyddir ar gyfer cnydau neu fagu anifeiliaid, yn ogystal ag adeiladau fferm, bythynnod a thai – gael eu heithrio rhag treth etifeddiaeth.
Bellach mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd treth o 20% yn cael ei godi ar werth asedau fferm sy’n cael eu hetifeddu uwch £1m, o Ebrill 2026.
Dywedodd Ms Reeves mewn rhai achosion y byddai’r trothwy’n cynyddu £3m, lle bod modd i ffermwyr elwa o reolau eraill – gan olygu ei bod hi ond y targedu'r tirfeddianwyr mwyaf cyfoethog.
Ond mae’r undebau amaeth yng Nghymru yn herio dadansoddiad y Trysorlys – gan honni y bydd nifer o ffermydd teuluol yn cael eu taro gan y newid.
Dywedodd llywydd NFU Cymru Aled Jones wrth y gynhadledd nad oedd “unrhyw amheuaeth” y byddai’r penderfyniad yn “gadael nifer o ffermwyr heb y gallu, yr hyder na’r cymhelliant i fuddsoddi yn nyfodol eu busnesau".
“Mae’r newidiadau a gyhoeddwyd nid yn unig yn peryglu strwythur y ffarm deuluol, ond hefyd y sector ffermwyr tenant a diogelwch bwyd ein cenedl,” meddai.
Mae’r undeb yn gweithio ar ei ffigyrau ei hun o’r nifer o ffermydd allai gael eu heffeithio, a fydd yn cael ei gyflwyno i lywodraethau Cymru a’r DU, meddai.
'Ofn, poeni a dicter'
Wrth annerch y dirprwy brif weinidog, dywedodd Bernard Llewellyn, ffermwr o Sir Gaerfyrddin, mai un o sgil-effeithiau posib arall y sefyllfa oedd y byddai tir sy’n cael ei werthu i dalu trethi yn “cael ei gymryd lan gan gwmnïau o dros y ffin (i blannu coed) a lliniaru eu hôl-troed carbon".
Byddai hyn yn lle bod “y tir hwnnw’n cael ei ddefnyddio gan deulu ifanc i gynhyrchu bwyd sydd ddirfawr ei angen ar y wlad,” meddai.
Dywedodd Kate Miles, rheolwr elusen iechyd meddwl y DPJ Foundation bod y sefydliad yn dod i gysylltiad â ffermwyr sydd wir yn bryderus am y newid.
“Ry’n ni’n gweld y lefel yma o ofn, o boeni, o ddicter ar draws y wlad, a gyda’i gilydd mae hynny’n gyfuniad pwerus o emosiynau sy’n gallu cael effaith niweidiol dros ben ar iechyd meddwl,” meddai.
Wrth gael ei holi a oedd yn poeni ynglŷn â’r newidiadau i dreth etifeddiant, dywedodd Mr Irranca-Davies fod ganddo “bryderon am unrhywbeth allai beryglu” yr hyn yr oedd wedi’i ddisgrifio fel y “llwybr tuag at ddyfodol cynaliadwy i ffermio yng Nghymru”.
“Dwi’n credu bod angen i fynd i fanylder yr hyn sy’n cael ei gynnig,” meddai.
Roedd dadansoddiad y Trysorlys yn “dweud yn glir” mai bach iawn fyddai nifer y ffermydd teuluol Cymreig fyddai’n cael eu heffeithio – ond “mae’r undebau yn cyflwyno dadl wahanol iawn”, meddai.
“Dwi’n gwybod y bydd y trafodaethau’n parhau,” ychwanegodd.
Ond fe amddiffynnodd y Canghellor am orfod gwneud dewisiadau anodd i lenwi’r “twll gwerth £22bn” yng nghoffrau’r wlad.
“Bydd pob teulu yma [yn y gynhadledd] hefyd yn dibynnu ar yr NHS, ar leihau rhestrau aros, ar [gyllid ar gyfer] gwella trafnidiaeth – a ma' hynny i gyd yn rhan o’r penderfyniadau cyllidebol yma hefyd.”