Capel oroesodd y Blitz yn dathlu 200 mlwyddiant

Yr olygfa yn 1941 yn AbertaweFfynhonnell y llun, Capel Mount Pleasant
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd rhannau helaeth o Abertawe eu dinistrio yn y Blitz, ond nid y capel

  • Cyhoeddwyd

Mae capel hanesyddol a oroesodd y Blitz yn Abertawe - pan gafodd rhannau helaeth o'r ddinas ei dinistrio gan fomiau'r Natsïaid - yn paratoi i ddathlu 200 mlwyddiant dros y Pasg.

Y gred yw mai'r organ yng nghapel Mount Pleasant oedd un o'r ychydig oedd yn dal i ganu yn addoldai y ddinas ar ôl y bomio yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Dywed John Davies, 85, sydd wedi bod yn organydd yng nghapel Mount Pleasant ers 61 o flynyddoedd, bod yr organ yn dal i ganu hyd heddiw.

"Roedd y capel yma yn dal i sefyll ar ôl y bomio, ac mae'r organ yma wedi dal i ganu oddi ar hynny.

"Roedd popeth o gwmpas y capel wedi ei ddistrywio, ond roedd y Mount dal i fynd ac mae'r organ wedi bod yn canu hyd heddi."

John Davies yr organydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywed John Davies, 85, bod yr organ yn dal i ganu hyd heddiw

Mae Capel Mount Pleasant yn un o adeiladau mwyaf adnabyddus Ffordd y Brenin, un o strydoedd prysuraf canol Abertawe.

Fe gafodd ei adeiladu yn 1825, ac fe gostiodd y gwaith £4,510, oedd yn swm sylweddol ar y pryd i'r 54 o aelodau.

Un o bregethwyr enwocaf Cymru, Christmas Evans, oedd y cyntaf i bregethu yn y pulpud yno.

Capel Mount Pleasant
Disgrifiad o’r llun,

£4,510 oedd y gost i adeiladu'r capel yn 1825

Ychydig iawn o newid sydd i'w weld y tu fas i'r capel ers y dyddiau cynnar yna, ond mae newid mawr wedi bod tu mewn gyda yr hen seddau wedi eu tynnu allan a'r gofod nawr yn un aml bwrpas, ac yn gartref i gaffi poblogaidd sy'n cael ei redeg gan yr aelodau.

Un o'r gwirfoddolwyr yw Mari Jones: "Ni yn agor i'r cyhoedd yn y capel a'n caffi stryd yn gwerthu teisennau, toasties a choffi a the.

"Ma pobl yn dod mewn a gweld bod e yn gartrefol ac ma' nhw gallu ishte o gwmpas a sgwrsio.

"Chi'n gallu cael bach o gwmni sy'n really neis. Ma fe yn lle neis i fod."

Tu mewn i'r capel
Disgrifiad o’r llun,

Er nad oes llawer wedi newid y tu allan, mae'r tu mewn bellach yn wahanol iawn

Mae 200 o aelodau yn y capel, ac maen nhw'n weithgar iawn yn y ddinas.

Mae nifer o ardaloedd difreintiedig yn y rhan yma o Abertawe.

Dywed un o'r bugeiliaid yn yr Eglwys, Dafydd Taylor, eu bod yn helpu nifer o bobl sy' â phroblemau fel alcoholiaeth, digartrefedd neu gyffuriau.

"Ma' lot o ddiodde' yng nghanol Abertawe, lot o bobl yn gaeth i gyffurie ac alcohol, yn byw ar y stryd a mewn a mas o'r carchar.

"Ma' lot ohonyn nhw yn dod ar nos Sul i'r gwasanaeth ac wedyn cael pryd o fwyd am ddim. Ni yn gweld gwahaniaeth.

"Mae o leia' pedwar aelod gyda ni oedd arfer bod yn gaeth i gyffuriau ac alcohol, ac ma' rôl i ni yn yr Abertawe gyfoes."

Mae aelodau Mount Pleasant yn dweud fod y capel wedi bod "wrth galon y gymuned am 200 mlynedd" ac maen nhw yn gobeithio y bydd y drysau yn "dal yn agored am genedlaethau i ddod i bobl Abertawe.

Pynciau cysylltiedig