Ann Davies AS yn ymddiswyddo fel cynghorydd

Cafodd Ann Davies ei hethol i gynrychioli sedd Caerfyrddin yn yr etholiad cyffredinol y llynedd
- Cyhoeddwyd
Mae Ann Davies, AS Plaid Cymru, wedi cyhoeddi ei bod yn ymddiswyddo fel cynghorydd er mwyn rhoi ei "holl egni" i'w gwaith fel aelod seneddol.
Bu'n gynghorydd sir dros ward Llanddarog ar Gyngor Sir Caerfyrddin ers 2017.
Cafodd ei hethol i gynrychioli sedd Caerfyrddin yn yr etholiad cyffredinol y llynedd.
Dywedodd: "Nawr yw'r amser i mi sefyll i lawr er mwyn i mi allu cysegru fy holl egni i gynrychioli cymunedau ar draws etholaeth Caerfyrddin yn San Steffan fel eu AS."
Roedd eisoes wedi ymddiswyddo fel aelod cabinet dros faterion gwledig, cydlyniant cymunedol a pholisi cynllunio ar Gyngor Sir Caerfyrddin yn dilyn ei hethol i Dŷ'r Cyffredin.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2024