Morgan ar y fainc eto ar gyfer trydedd gêm brawf y Llewod

Jac MorganFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Jac Morgan ar y fainc ar gyfer yr ail brawf ym Melbourne ddydd Sadwrn diwethaf hefyd

  • Cyhoeddwyd

Mae capten Cymru Jac Morgan wedi cael ei enwi ar fainc y Llewod ar gyfer y drydedd gêm brawf yn erbyn Awstralia.

Mae'r prif hyfforddwr Andy Farrell wedi gwneud dau newid i'w dîm ar gyfer y gêm yn Sydney ddydd Sadwrn.

Gyda'r gyfres eisoes wedi'i hennill, mae Farrell wedi dewis 11 o'r chwaraewyr i gychwyn pob un o'r tair gêm.

Dau Gymro yn unig – Jac Morgan a Tomos Williams - oedd wedi eu cynnwys yng ngharfan y Llewod i deithio Awstralia yr haf hwn, ond bu'n rhaid i Williams adael gydag anaf.

Ni chafodd un Cymro ei ddewis yn nhîm y Llewod ar gyfer y gêm brawf gyntaf.

Y timau

Awstralia: Wright; Jorgensen, Suaalii, Ikitau, Pietsch, Lynagh, White; Slipper, Porecki, Tupou, Frost, Skelton, Hooper, McReight, Wilson

Eilyddion: Pollard, Bell, Nonggorr, Williams, Gleeson, McDermott, Donaldson, Kellaway

Y Llewod: Keenan, Freeman, Jones, Aki, Kinghorn, Russell, Gibson-Park; Porter, Sheehan, Furlong, Itoje, Ryan, Beirne, Curry, Conan

Eilyddion: Kelleher, Genge, Stuart, Chessum, Morgan, Earl, Mitchell, Farrell

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.