Jac Morgan ar y fainc ar gyfer ail gêm brawf y Llewod yn Awstralia

Jac Morgan yn chwarae i'r LlewodFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddechreuodd Morgan i'r Llewod yn y fuddugoliaeth yn erbyn First Nations and Pasifika XV ddydd Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae capten Cymru, Jac Morgan wedi ei gynnwys yng ngharfan y Llewod ar gyfer yr ail gêm brawf yn erbyn Awstralia.

Ar ôl perfformiadau addawol mewn sawl gêm gyfeillgar yn ystod y daith, mae'r blaenasgellwr wedi hawlio ei le ar y fainc ar gyfer y gêm ym Melbourne ddydd Sadwrn.

Nid oedd Morgan wedi ei gynnwys yn y 23 ar gyfer y gêm brawf gyntaf - y tro cyntaf i Gymro beidio gael ei ddewis mewn carfan gêm brawf ers y daith i Dde Affrica yn 1896, yn ôl un ystadegydd rygbi.

Dau Gymro yn unig, Morgan a Tomos Williams, gafodd eu cynnwys yn y garfan ar gyfer y daith i Awstralia - y nifer lleiaf ers yr Ail Ryfel Byd.

Ond bu'n rhaid i Williams ddychwelyd adref ar ôl cael anaf ym muddugoliaeth y Llewod dros Western Force.

Cafodd Morgan ei eilyddio wedi 51 o funudau yn ystod y fuddugoliaeth yn erbyn First Nations and Pasifika XV ddydd Mawrth.

Roedd nifer yn tybio fod hyn yn arwydd fod Andy Farrell yn rhoi cyfle iddo orffwys rhywfaint cyn herio'r Wallabies.

Tîm y Llewod

Keenan, Freeman, Jones, Aki, Lowe, Russell, Gibson-Park; Porter, Sheehan, Furlong, Itoje, Chessum, Beirne, Curry, Conan

Eilyddion: Kelleher, Genge, Stuart, Ryan, Morgan, Mitchell, Farrell, Kinghorn

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig