Un cais yn unig i droi enw tŷ Cymraeg i Saesneg yng Ngheredigion
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun i geisio annog pobl i gadw enwau tai yn Gymraeg yng Ngheredigion yn helpu, yn ôl y cyngor sir.
Y llynedd, dim ond un cais a dderbyniodd y cyngor i newid enw cartref o'r Gymraeg i'r Saesneg.
Mae’r cynllun yn golygu bod llythyr yn cael ei anfon at unrhyw un sydd eisiau newid enw eu cartref newydd o enw Cymraeg i un Saesneg a gofyn iddynt aros 10 diwrnod ac “ailystyried”.
Mae niferoedd y ceisiadau wedi gostwng bob blwyddyn ers 2020, yn ôl adroddiad fydd yn cael ei roi gerbron aelodau Pwyllgor Iaith Cyngor Sir Ceredigion ddydd Mercher.
'Ystyried cyd-destun newid enw'r eiddo'
Mae’r polisi, gafodd ei gyflwyno yn 2015, yn annog pobl sydd wedi symud i'r sir i gadw enw eu cartref newydd i ddangos "parch at draddodiadau lleol", i "hwyluso'r broses integreiddio" ac i helpu i "gryfhau cysylltiadau gyda'r gymuned".
Mae unrhyw un sy'n rhoi gwybod i Gyngor Ceredigion am eu bwriad i ailenwi eu cartref bellach yn cael llythyr safonol yn eu hannog i ailystyried a rhoi "cyfnod seibiant o 10 diwrnod" iddynt i newid eu meddyliau ac i "ystyried cyd-destun newid enw'r eiddo".
Yn ôl y cyngor, mae’r Polisi Enwi a Rhifo Stryd wedi'i ddiweddaru i annog perchnogion tai i ystyried fod enwau Cymraeg â gwreiddiau ieithyddol, ac yn cyfeirio at rywbeth hanesyddol neu ddiwylliannol o fewn yr ardal ddaearyddol.
Croeso gan ymgyrchwyr iaith
Mae’r cynllun wedi cael ei groesawu gan ymgyrchwyr fel Cymdeithas yr Iaith, ond mae lle i fynd ymhellach, yn ôl Cadeirydd Rhanbarth Ceredigion, Dr Jeff Smith.
“Rydym yn gweld enwau tai a llefydd Cymru fel eiddo cymunedol a rhan greiddiol o’n treftadaeth Gymraeg, a dylent gael eu hamddiffyn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
"Rydym yn croesawu’r ffaith bod Cyngor Ceredigion wedi dechrau mynd i’r afael gyda’u gwarchod ac hoffen ni weld mwy o gynghorau yn gweithredu mewn ffyrdd tebyg.
"Ond rhaid pwysleisio nad oes awdurdodaeth yn y pen draw gan y cyngor i wneud hyn, a dim ond annog gallen nhw ei wneud gan nad yw Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno deddfwriaeth i warchod ein henwau lleoedd go iawn.
“Oherwydd y diffyg deddfwriaeth, rydym yn parhau i weld enghreifftiau chwerthinllyd o golli enwau lleoedd Cymraeg, fel newid Faerdre Fach ger Llandysul i Happy Donkey Hill, neu Glan y Môr yng Nghlarach i Aber Bay Holiday Park."
'Colli rhan o etifeddiaeth ardal leol'
Yn ôl Dylan Foster Evans, Cadeirydd Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, mae'r cynllun o anfon llythyr yn arfer da ac fe hoffai'r gymdeithas weld cynghorau eraill yn dilyn esiampl Cyngor Sir Ceredigion.
Dywedodd ei fod yn "dda gweld nad oes llawer o drigolion Ceredigion yn dymuno newid enwau eu heiddo".
"Rhaid cofio bod gan bob enw hanes unigryw, ac y gall un newid olygu colli rhan o etifeddiaeth ardal leol."
Aeth ymlaen i ddweud: "Ni ddylem wneud gormod o ystadegau un flwyddyn o un sir, wrth gwrs, ac mae Cyngor Sir Ceredigion yn nodi nad yw'r ffigyrau hyn yn wahanol iawn i'r arfer."
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi sefydlu cynllun gwirfoddol o'r enw 'Diogelwn' i helpu gwarchod enwau lleoedd.
Yn ôl Dr Jeff Smith, mae'n gynllun lle "gall perchnogion tir neu eiddo ddefnyddio cymalau drafft a dogfennau cyfreithiol enghreifftiol er mwyn cofrestru a gwarchod enwau llefydd Cymraeg pan fo eiddo’n cael ei werthu neu ei etifeddu.”
Yn 2016/17, pan gafodd y polisi newydd ei gyflwyno gyntaf, roedd Cyngor Ceredigion wedi derbyn 93 cais i enwi tai newydd yn Gymraeg, a 17 cais i enwi tai newydd yn Saesneg.
Fe dderbynion nhw 28 cais bryd hynny i newid enw tŷ o'r Saesneg i'r Gymraeg, a gwnaed saith cais i newid enw cartref o'r Gymraeg i'r Saesneg.
Eleni, dim ond un cais a gafodd Ceredigion i newid enw cartref sir o'r Gymraeg i'r Saesneg, gyda'r mwyafrif o geisiadau wedi eu derbyn rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024 yn newid o'r Saesneg i'r Gymraeg neu ailenwi enw tŷ Cymraeg i enw Cymraeg arall.
Yn yr adroddiad, dywedodd y cyngor fod ganddynt “enghreifftiau o drigolion o Loegr, sydd wedi symud i'r ardal yn ddiweddar, yn gwneud cais i newid enw eu heiddo Saesneg i'r Gymraeg.
"Eu rhesymeg dros hyn yw cefnogi traddodiadau lleol a ffurfio cyswllt gyda'r gymuned leol," meddai'r adroddiad.
Ar gyfer cartrefi newydd, cafodd saith yng Ngheredigion eu henwi yn Saesneg, o'i gymharu â 102 yn Gymraeg.
Yn ôl yr adroddiad, "mae'n ymddangos bod y llythyr i ystyried cyd-destun newid enw'r eiddo wedi dylanwadu ar bobl" ond mae nhw'n pwysleisio bod gan berchennog yr eiddo yr hawl i enwi eu heiddo yn unrhyw beth o fewn rheswm ac mewn iaith o'u dewis.
O ran strydoedd, mae gan y cyngor bolisi i roi enwau Cymraeg i unrhyw strydoedd newydd, ar ôl ymgynghori gyda chynghorau cymuned.
Mae nhw’n dweud eu bod wedi gweld cynnydd yn nifer y datblygwyr tai yn trafod gydag ysgolion neu grwpiau lleol i greu neu ddewis enwau newydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mehefin
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2020