Cymru'n enghraifft o beth sydd i ddod gan Lafur - Farage

Nigel FarageFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nigel Farage wedi lansio ei fersiwn o faniffesto etholiad cyffredinol ym Merthyr Tudful ddydd Llun

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymru yn dangos beth sy'n digwydd i wlad pan fo Llafur mewn grym, meddai Nigel Farage wrth iddo ryddhau cynlluniau ei blaid ar gyfer llywodraethu.

Mae Reform UK wedi lansio ei fersiwn o faniffesto etholiad cyffredinol – y mae’n ei alw’n “gontract” – ym Merthyr Tudful ddydd Llun.

Dewiswyd y lleoliad oherwydd bod Mr Farage yn honni i'r ardal gael ei “gadael i lawr” gan lywodraeth Llafur yng Nghaerdydd.

Mae blaenoriaethau'r blaid ar draws y DU yn cynnwys rhewi mewnfudo sydd ddim yn hanfodol, toriadau i dreth incwm a gwariant uwch ar amddiffyn.

Roedd Reform yn cael ei hadnabod fel Plaid Brexit tan 2021. Mae cyn-wleidydd Plaid Brexit yn y Senedd, Caroline Jones, ymhlith y rhai sy'n sefyll dros y blaid eleni.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i'w weld yn rhyngweithiol. Yn agor mewn tab porwr newydd Mwy o wybodaeth am yr etholiadau hyn

Dywedodd Mr Farage, dan lywodraeth Lafur yng Nghymru, fod pobl yn talu mwy o drethi, ac mae amseroedd aros y GIG 50% yn hirach yma.

Ychwanegodd fod Cymru wedi disgyn ymhellach y tu ôl i Loegr ym myd addysg a bod y llywodraeth Lafur yn "lleihau eich rhyddid".

"Un o’r rhesymau yr ydym yn lansio ein cytundeb gyda phobl Prydain yng Nghymru yw oherwydd ei fod yn dangos i bawb yn union beth sy’n digwydd i wlad pan fo Llafur mewn pŵer," meddai.

Fe wnaeth Mr Farage droi at y polisi terfyn cyflymder 20mya, gan honni ei fod yn “hynod amhoblogaidd”.

Dywedodd hefyd fod y Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn wrthblaid "wan".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nigel Farage yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o "leihau rhyddid" pobl

Gyda'i safle yn y polau piniwn yn gwella, mae arweinydd Reform yn honni ei fod yn wrthblaid i Lafur ar draws y DU, gydag atal mewnfudo yn ffocws allweddol.

Mae Reform yn dweud y dylai’r DU adael y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, ac atal ceiswyr lloches sy'n ceisio croesi'r Sianel trwy eu tynnu o gychod a’u dychwelyd i Ffrainc.

Byddai gweithwyr yn cael ennill £20,000 cyn dechrau talu unrhyw dreth incwm a byddai gostyngiad treth hefyd i’r rhai sy’n cymryd yswiriant iechyd preifat yn lle defnyddio’r GIG.

Mae siarter y blaid yn nodi sut y gellid talu am hyn drwy gael gwared â thargedau sero net a lleihau costau'r llywodraeth 5%, yn ogystal â chael gwared â rheilffordd HS2 yn llwyr.

Roedd gan Blaid Brexit grŵp o Aelodau’r Senedd am gyfnod byr – yn cynnwys cyn-wleidyddion UKIP a etholwyd yn 2016.

Ni lwyddodd i ennill seddi yn etholiad y Senedd yn 2021 ond mae wedi trafod gwneud ymgais newydd i gyrraedd Senedd Cymru ymhen dwy flynedd.

Dadansoddiad ein gohebydd gwleidyddol Daniel Davies

Mae gan Reform UK fynydd i’w ddringo os am ennill seddi yng Nghymru.

I gadw’r ddelwedd ddaearyddol, fe fyddai’n ddaeargryn gwleidyddol pe bai un o’u hymgeiswyr yn cael ei ethol.

Ond dyw hynny ddim yn golygu nad os modd i’r blaid gael argraff fawr ar yr etholiad.

Mae’r arolygon barn yn awgrymu bod cefnogaeth Reform UK wedi cynyddu yn ystod yr ymgyrch ar draul y Ceidwadwyr.

Os ydy Nigel Farage yn tanseilio’r bleidlais Geidwadol, mi all hynny 'neud e’n anoddach i’r Torïaid ddal eu tir yng Nghymru.

Nid dwyn pleidleisiau oddi ar y Ceidwadwyr yn unig ydy gobaith Reform UK.

Bydd etholiad i Senedd Cymru yn 2026, a’r blaid yn gobeithio ail-greu llwyddiant UKIP yn 2016 pan etholwyd saith aelod o gyn-blaid Mr Farage i Fae Caerdydd.