Maniffesto Llafur yn canolbwyntio ar dwf economaidd

Syr Keir StarmerFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Syr Keir Starmer fod gan Lafur "gynllun hirdymor credadwy"

  • Cyhoeddwyd

Mae Syr Keir Starmer wedi datgelu maniffesto etholiadol Llafur, gan ganolbwyntio ar dwf economaidd.

Dywedodd arweinydd Llafur y byddai'r ddogfen - o'r enw 'Newid' - yn "troi'r dudalen" ar 14 mlynedd o lywodraeth Geidwadol.

Y brif thema yw ceisio hybu creu cyfoeth trwy symleiddio rheolau cynllunio a chynyddu buddsoddiad busnes.

Nid oedd yn cynnwys polisïau newydd y tu hwnt i’r rhai a gyhoeddwyd eisoes, ac fe geisiodd Syr Keir wneud rhinwedd o hynny gan ddweud ei fod yn sefyll “i fod yn brif weinidog, nid yn ymgeisydd i redeg y syrcas”.

Mae'r maniffesto yn bwriadu hybu gwariant mewn gwasanaethau cyhoeddus drwy godi mwy na £8bn mewn treth, cam mae’n dweud fyddai’n werth £195m i Lywodraeth Cymru erbyn 2028-29.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i'w weld yn rhyngweithiol. Yn agor mewn tab porwr newydd Mwy o wybodaeth am yr etholiadau hyn

Mae Llafur yn dweud y bydd yn edrych ar ddatganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf, ac mae'n addo adfer y penderfyniadau ar gymorth economaidd i Gymru.

Mae’n cyferbynnu â barn llywodraeth Lafur Cymru, sydd am gymryd rheolaeth dros blismona a’r system cyfiawnder troseddol - nid yw’r naill na’r llall yn cael ei gefnogi gan y ddogfen bolisi.

Rhagwelir mwy o rôl i Swyddfa Cymru - yr adran yn San Steffan sy'n cynrychioli Cymru yn llywodraeth y DU.

Mae'r maniffesto yn dweud y bydd Swyddfa Cymru "unwaith eto'n dod yn eiriolwr dros Gymru gartref a thramor, ac yn hwyluso cydweithio agosach" rhwng llywodraethau'r DU a Chymru.

Mae disgwyl mwy o fanylion pan fydd y blaid yn lansio fersiwn Gymreig ei maniffesto yn yr wythnosau nesaf.

Cyferbyniad â maniffesto 2019

Defnyddiodd yr arweinydd Llafur y lansiad ym Manceinion i arddangos polisïau sydd eisoes wedi’u cyhoeddi, y mae’n gobeithio fydd yn temtio pleidleiswyr i ddychwelyd ei blaid i rym.

Mae’r rhain yn cynnwys sefydlu cwmni buddsoddi a chynhyrchu ynni newydd sy’n eiddo i’r wladwriaeth, llogi mwy o swyddogion heddlu ac ail-wladoli bron pob un o’r rheilffyrdd.

Ceisiodd Syr Keir dynnu cyferbyniad â maniffesto etholiad diwethaf Llafur yn 2019, oedd yn cynnwys polisïau fel rhoi cyfran o 10% i weithwyr ym mhob cwmni mawr a band eang ffeibr llawn am ddim i bawb.

Ar ôl i heclo protestiwr hinsawdd wnaeth dorri ar draws ei araith am gyfnod byr, dywedodd: “Fe wnaethon ni roi’r gorau i fod yn blaid brotest pum mlynedd yn ôl.

“Pwrpas diffiniol fy arweinyddiaeth Lafur fu llusgo fy mhlaid i ffwrdd o ben draw gwleidyddiaeth ystumiau.

"Does gennym ni ddim ffon hud. Ond mae'r hyn sydd gennym ni, yr hyn y mae'r maniffesto hwn yn ei gynrychioli, yn gynllun hirdymor credadwy."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Syr Keir Starmer yn lansio maniffesto Llafur gyda rhai o aelodau blaenllaw'r blaid

Mae’r polisïau yn y maniffesto yn cynnwys:

  • cyflwyno clybiau brecwast am ddim ym mhob ysgol gynradd yn Lloegr;

  • £1.6bn i ariannu mwy o apwyntiadau yn ysbytai’r GIG, sganwyr CT newydd ac apwyntiadau deintydd ychwanegol;

  • recriwtio 8,500 o staff iechyd meddwl yn Lloegr;

  • sefydlu 80 o lysoedd arbenigol newydd i erlyn achosion o dreisio;

  • gwahardd rhai dan 16 oed yn Lloegr rhag prynu diodydd 'egni' sydd â llawer o gaffein;

  • gwahardd y "genhedlaeth nesaf" rhag prynu sigaréts.

Mae gwariant yn Lloegr ar feysydd sydd wedi eu datganoli, fel iechyd ac addysg, yn arwain at arian i Gymru o dan fformiwla Barnett.

'Gwastraff ac arbedion effeithlonrwydd'

Dywed y blaid y bydd yn talu am ei pholisïau drwy £8.5bn mewn codiadau treth blynyddol, a £1.5bn o arbedion o dorri "gwastraff ac arbedion effeithlonrwydd eraill" y llywodraeth.

Mae'r codiadau treth arfaethedig yn cynnwys cyflwyno TAW ar ffioedd ysgolion preifat, gordal treth stamp o 1% ar dramorwyr sy'n prynu eiddo, a chodi trethi ar fonysau i reolwyr rhai cronfeydd a chwmnïau ecwiti preifat.

Mae hefyd yn dweud y byddai'n codi refeniw ychwanegol trwy gau "tyllau" yng nghynlluniau presennol y llywodraeth i drethu pobl nad ydynt yn byw yn y DU yn barhaol, a chwmnïau olew a nwy.

Mae'n dweud y byddai benthyca ychwanegol gan y llywodraeth yn cael ei gyfyngu i £3.5bn y flwyddyn i ariannu ei chynllun i fuddsoddi mewn prosiectau ynni gwyrdd.

Ac mewn ymgais i dawelu ymosodiadau gan y Torïaid, mae wedi diystyru codi cyfraddau treth incwm, Yswiriant Gwladol, nac ychwaith TAW, sy'n cael ei gyflwyno fel “clo treth” i bleidleiswyr.