Y Ceidwadwyr yn addo dileu cyfraith 20mya Cymru

Rishi SunakFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe lansiodd y Ceidwadwyr eu maniffesto ar gyfer etholiad cyffredinol bnawn Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Byddai llywodraeth Geidwadol yn San Steffan yn dileu cyfraith 20mya Cymru – er ei fod mewn maes polisi sydd wedi ei ddatganoli.

Ym maniffesto etholiad cyffredinol y blaid, mae’r Torïaid yn dweud mai pobl leol ddylai benderfynu ar y terfyn cyflymder yn eu hardaloedd nhw.

Byddai angen “caniatâd lleol” ar gyfer ardaloedd 20mya, meddai’r maniffesto, gyda chymunedau yn cael “hawl gyfreithiol” i herio parthau presennol.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Vaughan Gething fod y Ceidwadwyr yn ymosod ar ddatganoli.

Mae maniffesto'r Ceidwadwyr yn ymosod ar Lywodraeth Lafur Cymru ac yn eu cyhuddo o adael i safonau gwasanaethau cyhoeddus ostwng.

Dan reolau datganoli, Llywodraeth Cymru a’r Senedd sy’n gyfrifol am bolisïau trafnidiaeth.

Roedd newid y terfyn cyflymder yn addewid ym maniffesto Llafur Cymru – ac fe wnaeth mwyafrif o Aelodau’r Senedd bleidleisio o blaid y polisi cyn ei gyflwyno fis Medi llynedd.

Ond mae’r polisi wedi bod yn ddadleuol, gan arwain at benderfyniad llywodraeth Mr Gething i’w adolygu.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i'w weld yn rhyngweithiol. Yn agor mewn tab porwr newydd Mwy o wybodaeth am yr etholiadau hyn

Yn Senedd Cymru ddydd Mawrth, oriau ar ôl i’r Ceidwadwyr gyhoeddi eu maniffesto, dywedodd Mr Gething fod y Torïaid eisiau tynnu pwerau o Gymru.

Mae eu maniffesto “yn ymosodiad enfawr ar ddatganoli” ac yn “warth llwyr”, meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen i Lywodraeth Cymru "wrando ar lais y bobl", meddai David TC Davies

Gwrthod yr awgrym fod y bwriad i ddileu cyfraith 20mya Cymru yn "tanseilio datganoli" wnaeth Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies.

Mewn cyfweliad gyda rhaglen Y Byd yn ei Le ar S4C, dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi “tresmasu” ar gyfrifoldebau San Steffan drwy greu trosedd o dorri’r terfyn 20mya.

“Mae rhaid i Lywodraeth Cymru wrando ar lais y bobl yng Nghymru,” meddai.

Parhau 'i dorri trethi'

Wrth gyhoeddi’r maniffesto, fe wnaeth Rishi Sunak addo rhagor o doriadau i’r yswiriant gwladol sy’n cael ei dalu gan weithwyr.

Dywedodd ei fod yn gwybod “fod pobl yn rhwystredig gyda'n plaid ac yn rhwystredig gyda mi", gan gyfaddef "nid ydym wedi cael popeth yn iawn".

Ond addawodd y byddai ei blaid, pe bydden nhw'n cael eu hailethol, yn “dal i dorri trethi yn y blynyddoedd i ddod”, gan gynnwys trwy leihau yswiriant gwladol 1c fis Ebrill nesaf a 2c erbyn Ebrill 2027.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae maniffesto'r Ceidwadwyr yn "ymosodiad ar ddatganoli", yn ôl Mr Gething

Mae rheolau datganoli yn golygu nad yw rhai o'r prif addewidion ym maniffestos y pleidiau Prydeinig yn berthnasol i Gymru.

Mae cyfrifoldeb dros wasanaethau cyhoeddus – gan gynnwys iechyd ac addysg – wedi’u datganoli i’r Senedd.

Yn eu maniffesto, mae’r Torïaid yn ymrwymo i wahardd ffonau symudol mewn ysgolion - rhywbeth fyddai’n cael ei benderfynu fel arfer ym Mae Caerdydd.

Mae datganoli’r gwasanaeth iechyd yn golygu mai penderfyniad i Lywodraeth Cymru fyddai creu mwy o apwyntiadau deintyddol – rhywbeth sy’n cael ei addo gan y Ceidwadwyr.

Nid yw cynllun y Torïaid i gael gwared ar y Dreth Stamp – y dreth a delir wrth brynu cartref yn Lloegr a Gogledd Iwerddon – ar eiddo hyd at £425,000 i bobl sy’n prynu eu tŷ cyntaf yn ymestyn i Gymru, lle mae’r dreth wedi’i disodli gan y Dreth Trafodiadau Tir.

Mae maniffesto'r Ceidwadwyr hefyd yn addo dod â fersiwn o'r polisi 'Help to Buy' yn ôl.

Daeth y cynllun i ben yn Lloegr y llynedd, ond mae Llywodraeth Cymru wedi dal ati, gan gynnig cyllid i bobl sy’n prynu cartrefi newydd.

O ran trafnidiaeth, mae arian ar gael i lenwi tyllau yn y ffyrdd – ond mae ffyrdd Cymru yn cael eu cynnal gan gynghorau lleol neu, ar gyfer ffyrdd mawr, gan Lywodraeth Cymru ei hun.

Mae polisïau eraill yn y maniffesto yn cynnwys £1bn ar gyfer trydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru ac ymrwymiad i adeiladu gorsaf ynni niwclear yn Wylfa ar Ynys Môn.

Ar ran Plaid Cymru, dywedodd Liz Saville Roberts bod maniffesto’r Ceidwadwyr “yn cynnig dim i Gymru ond cyhoeddiadau wedi’u hailwampio ac addewidion gwag”.