Llafur am weld yr heddlu'n 'gwrando ar gymunedau'
- Cyhoeddwyd
Mae'n rhaid i'r heddlu wrando ar y cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu a gwneud mwy i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn ôl Aelod Seneddol Llafur o Gymru.
Dywedodd y cyn-Weinidog Cabinet, Nia Griffith, bod y cyhoedd am weld "plismona gweledol iawn", gyda swyddogion "allan yn y gymuned".
Nododd Ms Griffith hefyd fod angen i heddluoedd ganolbwyntio ar leihau achosion o ddwyn o siopau a thrais yn y cartref.
Daw ei sylwadau ar drothwy'r etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd Cymru, fydd yn cael eu cynnal ddydd Iau.
Er nad yw Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yn gyfrifol am benderfyniadau ynglŷn â gwaith dydd i ddydd yr heddlu, maen nhw'n gosod blaenoriaethau a chyllideb flynyddol ar gyfer pob ardal.
Yng Nghymru mae pedwar Comisiynydd, un ar gyfer pob ardal blismona - De Cymru, Gwent, Dyfed-Powys, a Gogledd Cymru.
Mae'r prif bleidiau yng Nghymru - Llafur, y Ceidwadwyr, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol - i gyd yn cynnig ymgeiswyr ym mhob ardal.
Ar hyn o bryd ymgeiswyr Llafur sydd yn gomisiynwyr yng Ngwent, Gogledd Cymru a De Cymru, tra bod ymgeisydd Plaid Cymru yn gomisiynydd yn Nyfed Powys.
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2024
Dywedodd Ms Griffith, yr Aelod Seneddol dros Lanelli, fod pobl yn awyddus i weld mwy o swyddogion heddlu ar ein strydoedd.
"Yr hyn mae pobl eisiau ei weld yw plismona gweledol iawn. Hynny yw, maen nhw eisiau gweld swyddogion allan yng nghanol ein cymunedau."
Awgrymodd y byddai Llafur, pe bydden nhw'n ffurfio'r llywodraeth nesaf yn San Steffan, yn ariannu cynlluniau i gael 13,000 o swyddogion ychwanegol yng Nghymru a Lloegr.
"Yn y cyfamser, yr hyn sy'n bwysig yw bod blaenoriaethau comisiynwyr yn adlewyrchu blaenoriaethau ein cymunedau," meddai.
"Mae'r rhain yn cynnwys mynd i'r afael â phethau fel ymddygiad gwrthgymdeithasol, a thaclo materion fel trais yn y cartref."
Ychwanegodd Ms Griffith ei bod hi'n poeni nad yw rhai achosion o drais yn y cartref yn cael eu trin fel rhai difrifol.
"Ry'n ni'n clywed ystadegau ofnadwy bob wythnos am faint o ferched sy'n cael eu lladd ac ati, felly mae'n rhaid i ni leihau nifer yr achosion yn ogystal â sicrhau ein bod ni'n gwrando ar y rhai sy'n adrodd y troseddau difrifol yma.
"Mae modd i'n comisiynwyr ni osod y dôn o ran sut y mae mynd ati i ddelio â throseddau fel hyn.
"Os nad yw pobl yn teimlo fod pobl yn mynd i wrando ar eu pryderon, yna maen nhw'n llai tebygol o'u hadrodd.
"Felly mae hi'n bwysig fod pobl yn teimlo y bydd eu pryderon yn cael eu trin fel mater o flaenoriaeth."
Ychwanegodd: "Ry'n ni gyd yn gwybod sut y mae materion llai yn gallu troi i fod yn broblem fwy, ac mae'n rhaid trin bob achos fel mater difrifol."
Pwy sy'n sefyll y tro hwn?
Dyfed-Powys
Justin Griffiths, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Ian Harrison, Ceidwadwyr Cymreig
Dafydd Llywelyn, Plaid Cymru
Philippa Ann Thompson, Llafur Cymru
Gwent
Donna Cushing, Plaid Cymru
Mike Hamilton, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Hannah Jarvis, Ceidwadwyr Cymreig
Jane Mudd, Llafur Cymru
Gogledd Cymru
Andy Dunbobbin, Llafur Cymru
Ann Griffith, Plaid Cymru
Brian Jones, Ceidwadwyr Cymreig
David Richard Marbrow, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
De Cymru
Sam Bennett, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
George Carroll, Ceidwadwyr Cymreig
Dennis Clarke, Plaid Cymru
Emma Wools, Llafur Cymru