Is-etholiad Caerffili: Cyhuddo Llafur o 'ragrith' ynghylch llyfrgelloedd

Richard TunnicliffeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Richard Tunnicliffe yn gynharach wythnos yma y byddai'n "ymladd i gadw ein llyfrgelloedd ar agor"

  • Cyhoeddwyd

Mae ymgeisydd y Blaid Lafur yn is-etholiad Caerffili wedi cael ei gyhuddo o "ragrith" am addo brwydro dros lyfrgelloedd cyhoeddus, ar ôl mynegi cydymdeimlad â chynlluniau i'w cau yn y gorffennol.

Cafodd cynigion cyngor lleol y Blaid Lafur, wrth geisio delio â bwlch o £29m yn eu cyllideb, eu gohirio dros dro ym mis Awst yn dilyn ymateb chwyrn a her gyfreithiol.

Ar ddechrau'r ymgyrch, dywedodd Richard Tunnicliffe fod yr awdurdod yn "cyd-grynhoi" i geisio "gwneud y mwyaf o'r gwasanaethau y gallwn eu darparu", ond nad oedd "llawer o bobl" yn defnyddio llyfrgelloedd cymaint nawr.

Ond yn gynharach yr wythnos hon, dywedodd y byddai'n "ymladd i gadw ein llyfrgelloedd ar agor".

Dywedodd Reform ei fod yn rhagrith "syfrdanol", tra bod Plaid Cymru yn ei ddisgrifio fel gwleidyddiaeth "sinigaidd".

Ond yn ôl Llafur Cymru, roedd Mr Tunicliffe ond yn cydnabod pwysau ariannol ar wasanaethau yn y lle cyntaf, ac mae'n ymgyrchu nawr dros ddefnyddio arian newydd gan Lywodraeth y DU i warchod adnoddau fel llyfrgelloedd.

Daw'r is-etholiad, a fydd yn digwydd fis nesaf, yn dilyn marwolaeth Hefin David, yr aelod Llafur o'r Senedd, ym mis Awst.

Fe gaeodd y rhestr ar gyfer ymgeiswyr posib am 16:00 brynhawn Gwener.

Hefin DavidFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae is-etholiad Caerffili yn digwydd yn dilyn marwolaeth Hefin David ym mis Awst

Ar 8 Medi cafodd Richard Tunnicliffe, sy'n gyhoeddwr llyfrau, ei holi am ei farn ar bolisi'r cyngor ynglŷn â llyfrgelloedd.

Dywedodd wrth BBC Cymru fod "defnydd pobl o lyfrau wedi newid", bod "cyfryngau digidol wedi tyfu yn aruthrol" a bod "y strwythur cyfan" wedi newid.

Ychwanegodd nad oedd "llawer o bobl" yn defnyddio llyfrgelloedd "cymaint ag yr oeddent yn y gorffennol" a bod "llawer o adeiladau wedi bod yn mynd yn hŷn a mwy o waith cynnal a chadw yn digwydd".

Dywedodd ei fod yn credu bod y cyngor yn "cyd-grynhoi i geisio gwneud y mwyaf o'r gwasanaethau y gallwn eu darparu ar ôl 15 mlynedd o doriadau" - gan gyfeirio at benderfyniadau llywodraethau Ceidwadol blaenorol y DU.

"Rydym yn cyfarfod â'r cyngor yn ddiweddarach, felly byddwn yn parhau i geisio darparu cymaint o wasanaethau â phosibl mor agos at gymunedau pobl â phosibl," ychwanegodd.

'Cyfleusterau hanfodol'

Yna, mewn fideo ar y cyfryngau cymdeithasol yn gynharach yr wythnos hon, fe wnaeth Mr Tunnicliffe addo "brwydro i gadw ein llyfrgelloedd ar agor" a "gyda'ch cefnogaeth" i "wneud yn siŵr bod ein llyfrgelloedd yn aros ar agor am genedlaethau i ddod".

"Byddaf yn siarad â'r cyngor i wneud yn siŵr bod unrhyw gyllid ychwanegol yn mynd tuag at warchod y cyfleusterau hanfodol hyn," meddai.

Ddydd Iau, fe rannodd yr ymgeisydd Llafur fideo arall wedi'r cyhoeddiad y byddai Caerffili yn derbyn £20m yn ychwanegol dros 10 mlynedd, fel rhan o gynllun Llywodraeth y DU i roi hwb i strydoedd mawr, parciau a mannau cyhoeddus.

"Rydym wedi bod allan yn holi pobl am eu pryderon ac mae pobl eisiau i'w llyfrgelloedd, y cyfleusterau lleol allweddol hyn, gael eu hachub," meddai Mr Tunnicliffe.

"A dyna pam rydym yn ymgyrchu nawr. Felly ychwanegwch eich llais. Llofnodwch y ddeiseb fel y gallwn ddweud wrth y bwrdd mai fel hyn yr ydym ni am i'r arian gael ei wario."

Llŷr PowellFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

"Mae rhagrith yr ymgeisydd Llafur yn syfrdanol," medd Llŷr Powell

Dwedodd ymgeisydd Reform UK yn yr is-etholiad , Llŷr Powell, fod "rhagrith yr ymgeisydd Llafur yn syfrdanol".

"Er ei fod yn esgus bod yn bryderus am ein cymunedau, mae ei gyngor, dan reolaeth Llafur, yn ymladd yn galed i gau ein llyfrgelloedd a thynnu trigolion o wasanaethau hanfodol."

Byddai Reform, meddai Mr Powell, yn torri gwariant "gwastraffus" Llywodraeth Cymru ac yn gwthio cyngor Caerffili i ddefnyddio ei gronfeydd wrth gefn i gadw llyfrgelloedd ar agor.

'Gwleidyddiaeth sinigaidd'

Mae Plaid Cymru wedi beirniadu'r ymgeisydd Llafur hefyd, gyda llefarydd yn dweud: "Ychydig wythnosau yn ôl roedd Richard Tunnicliffe yn amddiffyn cynlluniau Cyngor Caerffili i gau ein llyfrgelloedd.

"Nawr, gydag etholiad ar y gorwel, mae Llafur yn lansio deisebau yn sydyn ac yn addo eu 'hachub' gyda phot ariannu newydd.

"Mae'n wleidyddiaeth sinigaidd, munud olaf, gan blaid sydd wedi cymryd Caerffili yn ganiataol ers degawdau."

Mae'r Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi derbyn cais am sylw.

Mewn datganiad yn ymateb i'r cyhuddiad, dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru fod Richard Tunnicliffe, "ag yntau'n gyhoeddwr... yn angerddol ers cyfnod hir ynghylch ein llyfrgelloedd".

"Tra ei fod yn cydnabod y pwysau ariannol ar y cyngor, mae cryfder teimlad y gymuned yn amlwg," meddai'r llefarydd.

"Mae arian newydd erbyn hyn wedi dod ar gael gan Lywodraeth y DU a ellir ei ddefnyddio i achub yr asedau cymunedol hyn, a dyna y mae Richard yn ymgyrchu drosto."

Gweddill ymgeiswyr yr is-etholiad sydd wedi'u cyhoeddi:

Ceidwadwyr - Gareth Potter

Democratiaid Rhyddfrydol Cymru - Steve Aicheler

Gwlad - Anthony Cook

Llafur - Richard Tunnicliffe

Plaid Cymru - Lindsay Whittle

Reform UK - Llŷr Powell

UKIP - Roger Quilliam

Y Blaid Werdd - Gareth Hughes

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig