Llafur wedi 'chwythu ei phlwc' yn y cymoedd, meddai Plaid Cymru

Dywedodd Lindsay Whittle mai Reform oedd y prif fygythiad i Blaid Cymru yn yr etholiad
- Cyhoeddwyd
Mae Llafur wedi chwythu ei phlwc yn y cymoedd, meddai ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer is-etholiad Caerffili ar gyfer Senedd Cymru.
Mae plaid Eluned Morgan wedi ennill pob etholiad yn yr etholaeth ers dechrau datganoli ym 1999.
Ond dywedodd Lindsay Whittle mai plaid Reform - ac nid Llafur - oedd y bygythiad gwirioneddol i'w blaid yn yr etholaeth.
Mae'r Blaid Lafur wedi cael cais am sylw.
'Llafur ddim yn fygythiad'
Yn y cyfamser, nid yw arweinydd plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, wedi diystyru gweithio gyda Llafur ar gyllideb yn y dyfodol, ar ôl i'r prif weinidog rybuddio am doriadau sylweddol.
Mae Llafur yn amddiffyn sedd Caerffili mewn etholiad a sbardunwyd gan farwolaeth yr Aelod o'r Senedd Llafur Hefin David ym mis Awst.
Gofynnwyd i Mr Whittle, cyn-arweinydd cyngor Caerffili a chyn-aelod Cynulliad dros dde ddwyrain Cymru rhwng 2011 a 2016, beth oedd y bygythiad mwyaf i'w blaid yn yr etholiad.
"Byddwn i'n dweud mai plaid Reform... dyw Llafur ddim yn fygythiad erbyn hyn. Mae wedi chwythu ei phlwc yn y cymoedd.
"Mae hynny i'w glywed ar garreg y drws yn uchel ac yn glir. Dydw i erioed wedi gweld hyn yn fy mywyd."
"Mae pobl yn ofni mewnfudo anghyfreithlon," meddai, gan ychwanegu "Dydw i ddim yn cefnogi mewnfudo anghyfreithlon chwaith, nid yw Plaid Cymru yn ei gefnogi.
"Yn Abertridwr, lle rwy'n byw, fe wnaethon ni groesawu plant o Wlad y Basg yn ystod rhyfel cartref Sbaen.
"Ar ôl y rhyfel, ar ystad y cyngor lle roeddwn yn byw, roedd gennym ni lawer o deuluoedd Pwylaidd, teuluoedd Eidalaidd.
"Rydym yn genedl groesawgar. Gobeithio bod pobl yn cofio hynny - byddwch yn falch o'ch hanes o groesawu pobl."
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd13 Awst
Dywedodd fod rhaid gwneud rhywbeth ynglŷn â mewnfudo anghyfreithlon "ond nad oes gan y Senedd y pŵer hwnnw", ac ychwanegodd fod rhaid atal pobl rhag dod ar draws y Sianel mewn cychod.
"Os yw Rhun ap Iorwerth yn brif weinidog ar ôl mis Mai nesaf, efallai y gallai gynnig rhai syniadau ar sut y gallai Cymru helpu yn ystod ei gyfarfodydd â phrif weinidog Prydain."
Cwestiynodd Mr Whittle pa mor berthnasol oedd y mater i'r is-etholiad, a dywedodd ei fod am siarad am doriadau i wasanaethau lleol yng Nghaerffili, gan gynnwys i lyfrgelloedd.
Mae'r cynllun i gau 10 llyfrgell wedi'i ohirio ar ôl gwaharddeb llys.

Mae Lindsay Whittle yn gyn-arweinydd cyngor
Dechreuodd Eluned Morgan o Lafur ymgyrch ei phlaid ddydd Llun drwy rybuddio am doriadau sylweddol pe bai'n colli.
Dywedodd y byddai Llafur yn ei chael hi'n "anodd" cael cyllideb drwy'r Senedd, gyda'i niferoedd yn gostwng i 29 AS pe na bai'n gallu cadw'r sedd.
Gwrthododd Plaid Cymru gefnogi cyllideb Llafur yn gynharach eleni, gan arwain Llafur i gyhuddo'r blaid dro ar ôl tro o beryglu biliynau mewn toriadau - er na ddigwyddodd hynny oherwydd cytundeb gyda'r unig Ddemocrat Rhyddfrydol yn y Senedd, Jane Dodds.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, mai gwaith i'r llywodraeth Lafur yw cyflwyno cyllideb, gan ychwanegu bod Llafur yn gwneud "llu" o doriadau yng Nghaerffili.
Ni wnaeth Mr ap Iorwerth ddiystyru gweithio gyda Llafur ar gyllideb, fodd bynnag.
"Mae'n gyfrifoldeb ar Lafur i gyflwyno cyllideb. Rhaid pasio cyllideb. Mae'n gyfrifoldeb arnyn nhw i ddarganfod sut i wneud hynny."
'Opsiwn amgen, o blaid Cymru'
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru fod yr is-etholiad yn gyfle i "ailosod gwleidyddiaeth Cymru cyn etholiad cyffredinol Cymru ym mis Mai nesaf".
"Mae'n ymwneud â dweud bod 26 mlynedd o lywodraethau dan arweiniad Llafur yn ddigon."
Dywedodd mai Plaid Cymru oedd "yr unig blaid sy'n cynnig opsiwn amgen, o blaid Cymru".
"Mae hyn yn ymwneud â chyflwyno neges gadarnhaol gan Blaid Cymru ynglŷn â sut rydym yn mynd i'r afael â pholisïau a wnaed yng Nghymru ar iechyd, addysg, a'r economi."
Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Mae Plaid wedi dangos eisoes na fydden nhw'n cefnogi cyllideb, a phe bydden nhw'n cael eu ffordd eu hunain, fe fyddech chi wedi gweld toriadau enfawr i ysgolion, iechyd a gwasanaethau lleol i'n cymunedau.
"Mae Llafur Cymru yn canolbwyntio ar y pethau sy'n bwysig i bobl: lleihau rhestrau aros, adeiladu mwy o dai, gwella trafnidiaeth leol a chreu mwy o swyddi yn lleol."
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Darren Millar, mai ei blaid oedd yr "unig ddewis arall credadwy" i Lafur a Phlaid Cymru.
Meddai: "Mae Plaid Cymru wedi bod yn gyd-gynllwynwyr Llafur yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac maen nhw wedi torri Cymru.
"Fe wnaethon nhw gefnogi cynlluniau ar gyfer mwy o wleidyddion ym Mae Caerdydd, terfynau cyflymder 20mya, a hwyluso deddfwriaeth a chyllidebau Llafur."