Dyn o'r Bala â HIV yn galw am well cymorth i gleifion cefn gwlad

Disgrifiad,

Fe gafodd Gary Jones o'r Bala ddiagnosis o HIV fis Mai y llynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae person sy'n byw â HIV yn galw am fwy o gymorth i'r rhai sy'n byw â'r cyflwr yng nghefn gwlad Cymru.

Mae Gary Jones yn byw yn Y Bala ac fe gafodd ddiagnosis o HIV ym Mai 2023.

Dywedodd y byddai'n hoffi gweld "mwy o gefnogaeth, yn enwedig mewn llefydd gwledig yng ngogledd Cymru".

Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, mae'r "Cynllun Gweithredu HIV yn nodi sut y byddwn yn cefnogi'r rhai sy'n byw gyda HIV a sut rydym yn anelu at ddileu achosion newydd erbyn 2030".

Mae ystadegau diweddaraf Llywodraeth y DU yn dangos cynnydd yn nifer y bobl gafodd ddiagnosis o HIV yng Nghymru yn 2023.

Beth ydi HIV?

Feirws ydi HIV sydd yn gwanhau'r system imiwnedd.

Os nad ydi'r feirws yn cael ei drin, gall arwain at AIDS - enw sy'n cael ei roi ar sawl salwch all gael eu hachosi gan y feirws.

Yn y 1980au, pan ddaeth y feirws i amlygrwydd, roedd ofn mawr yn ei gylch.

Ond erbyn heddiw, gall gael ei drin gyda meddyginiaeth sy'n golygu bod modd byw gyda'r feirws yn hir ac yn iach - a golygu, yn ei dro, nad oes modd heintio rhywun arall chwaith.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gary Jones yn gorfod cymryd tabledi o'r enw Delstrigo yn ddyddiol

Soniodd Mr Jones am yr adeg pan gafodd ddiagnosis positif o HIV gan ddweud ei fod yn cael llawer o symptomau.

Dywedodd ei fod wedi dechrau "teimlo'n flinedig ofnadwy a chael heintiau yn fy ngheg fatha thrush, oedd hynny'n rhywbeth oedd yn dragwyddol.

"Oni'n cael infections mwyaf od ar fy nwylo ac ati... es i at y meddyg ac awgrymu i gael prawf.

Fe dderbyniodd Mr Jones brawf positif yn 2023. Dywedodd ei fod yn brofiad "swreal"

"Mae'n teimlo fel dy fod di yna, ond ti ddim chwaith. Mae o fel ryw out of body experience a ti'm yn gwybod os ydi o'n wir neu beidio, ond ti'n dod i ddysgu a dygymod efo hynny, ond ti ddim yn gwybod lle i droi nesaf, dyna oedd y broblem."

Roedd Mr Jones yn mynd i apwyntiadau ysbyty yn rheolaidd, ac yn awyddus i dderbyn cymorth yn dilyn ei brawf positif.

"Mi oedd y staff yn yr ysbyty yn rili da a meddygfa Bala yn wych" meddai.

"Mae nhw'n neud y gorau o'r sefyllfa."

Mae Mr Jones, ar hyn o bryd, yn gorfod teithio o'r Bala i Ysbyty Maelor Wrecsam bob tri mis i gael prawf gwaed a derbyn ei feddyginiaeth.

"Mae'n awr a hanner bob ffordd ar y bws, y cwbl mae nhw'n neud ydi'r gwaed a'r feddyginiaeth a dyna ni"

'Yr hen stigma yn dal i fodoli'

Mae Mr Jones wedi bod yn chwilio am gymorth ychwanegol ers y diagnosis, ond yn ei ôl o, mae'r gefnogaeth yn brin.

"'If only you lived in England' - dyna'r cwbl dwi'n ei gael yn dragwyddol," meddai.

"Dros y ffin mae ganddyn nhw unedau arbennig lle maen nhw'n gallu trafod, achos mae canran uchel o bobl sydd efo HIV efo problemau iechyd meddwl hefyd."

Mae Gary yn awyddus i weld mwy o gefnogaeth i unigolion sy'n byw gyda HIV mewn mannau gwledig yng Nghymru.

"Mewn pentrefi bach mewn trefi bach hefyd... lleoliadau i bigo fyny ryw fath o testing, bod o mwy agored a bod pobl ddim yn anwybyddu'r ffaith oherwydd mae'r hen stigma 'na o'r wythdegau yn dal i fodoli hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Dydi agweddau pobl tuag at y feirws ddim wedi newid llawer ers y 90au, yn ôl Dr Olwen Williams

Mae Dr Olwen Williams yn arbenigwr ar HIV ac yn Gadeirydd ar gymdeithas Fast Track Cymru sy'n ceisio lleihau nifer yr achosion.

Dywedodd Dr Williams, sydd wedi gweithio ym maes HIV ers y 1990au: "'Dw i wedi gweld newid aruthrol dros Cymru ac yn enwedig yn ngogledd Cymru, achos yn enwedig yn y 90au, doedd 'na ddim gwasanaeth o gwbl i bobl oedd yn byw â HIV, felly oedd pobl yn mynd i Loegr."

Er bod cefnogaeth ar gael yn y 1990au, dywedodd bod "dim digon".

"Ond rŵan, beth 'da ni'n ei weld ydi clinigau ym Mangor, Glan Clwyd ac yn Wrecsam Maelor efo arbenigwyr sy'n edrych ar ôl pobl sydd wedi'u heintio â'r feirws," meddai.

"Er bod lot o wahaniaeth wedi bod gyda'r driniaeth, dydi agweddau pobl tuag at y feirws, tuag at bobl sy'n byw efo HIV, a sut mae pobl sy'n byw efo HIV yn teimlo atyn nhw'i hunain - dydi hynny ddim wedi newid.

"Dyna'r peth 'da ni'n trio dargedu ar y funud - bod pobl yn deall, fedrwch chi ddim cael eich heintio gan bobl sydd ag HIV pan maen nhw ar feddyginiaeth."

Sefyllfa 'anodd iawn'

Wrth ymateb i'r ffaith fod cleifion fel Mr Jones yn gorfod teithio o'u hardaloedd bob ychydig fisoedd i ysbyty i gael profion gwaed a derbyn meddyginiaeth, dywedodd Dr Williams fod hyn yn rhywbeth "pwysig iawn i bobl ddeall".

"Mae rhai pethau fel y viral load a'r CD4 count - y viral load yn edrych faint o'r feirws sydd yn y gwaed, a'r CD4 count yn edrych ar system imiwnyddol y person, mae'r profion yna'n gorfod mynd i'r labordy yr un diwrnod.

"Dydi o ddim yn rhywbeth alla nhw fynd at eu meddyg teulu i'w sortio, oherwydd efallai mai'r diwrnod canlynol eith y prawf gwaed i'r labordy.

Ychwanegodd: "Hefo'r antiretrovirals (triniaeth HIV), mae rhain yn feddyginiaethau dim ond yr ysbyty allai roi presgripsiwn iddyn nhw, felly mae'n anodd iawn, fedrith y meddyg teulu ddim 'sgwennu'r sgript yna."

Er hyn, dywedodd Dr Williams fod yna gynlluniau yn cael eu trafod i edrych ar y sefyllfa, a bod "yna system lle mae meddyginiaeth yn cael ei gludo i dŷ'r person, felly does dim rhaid i rywun fynd i'r ysbyty bob ryw ddau neu dri mis."

Targed 2030

Mae gan Sefydliad Iechyd y Byd, the Global Fund ac UNAIDS strategaethau sy'n cyd fynd a tharged y Cenhedloedd Unedig i ddod ag epidemig HIV i ben erbyn 2030.

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i ymrwymo i atal achosion newydd erbyn 2030, ac er yn cydnabod yr her, mae modd cyrraedd y targed yn ôl Dr Williams.

"Rydyn ni eisoes wedi gweld gostyngiad blynyddol yn y nifer o achosion newydd yng Nghymru, mae 'na rai achosion o bobl yn symud i Gymru a chael prawf yma sy'n ychwanegu at yr ystadegau."

Dywedodd fod angen mwy o addysgu ac ymgyrchoedd i ledaenu’r neges, a bod angen rhoi gwybod i bobl sydd â risg o gael HIV "fod yna gyffuriau fel PrEP iddyn nhw... sy'n atal iddyn nhw gael HIV yn y lle cyntaf".

Ond yn ôl Gary Jones, fe fydd targed Llywodraeth Cymru yn anodd ei chyrraedd heb fwy o gefnogaeth i gleifion.

Yn ôl ffigyrau diweddar gan Lywodraeth y DU, roedd yna gynnydd yn nifer y bobl gafodd ddiagnosis o HIV ar draws gwledydd y DU y llynedd.

Roedd cynnydd o 16% yng Nghymru, 40% yn yr Alban a 51% yn Lloegr.

Ond yn fwy calonogol, mae cyfran y bobl a gafodd ddiagnosis hwyr o HIV yng Nghymru wedi gostwng yn sylweddol.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod "pob bwrdd iechyd yn gyfrifol am ddarparu gofal i gleifion a gwasanaethau iechyd rhywiol o fewn ei ardal.

"Mae gwasanaeth profi gartref ar-lein Iechyd Rhywiol Cymru wedi gwella mynediad at brofion HIV i lawer.

"Mae ein Cynllun Gweithredu HIV yn nodi sut y byddwn yn cefnogi'r rhai sy'n byw gyda HIV a sut rydym yn anelu at ddileu achosion newydd erbyn 2030."

Pynciau cysylltiedig