£12m i warchod a datblygu'r Amgueddfa Lechi yn Llanberis

Y gobaith ydi y bydd yr Amgueddfa Lechi yn ail agor ymhen rhyw ddwy flynedd
- Cyhoeddwyd
Fe fydd yr Amgueddfa Lechi Genedlaethol yn Llanberis yn derbyn £12m mewn arian loteri i warchod a datblygu'r safle.
Yn ogystal â gwneud y safle yn haws i bobl gydag anableddau allu ymweld â hi, mae yna gynlluniau i ddatblygu canolfan sgiliau chwarelyddol, siop a chaffi.
Y disgwyl yw y bydd y gwaith wedi ei gwblhau ymhen dwy flynedd.
Dywedodd Pennaeth Safle Amgueddfa Llanberis, Elen Roberts ei bod hi'n "ddiwrnod cyffrous iawn" a'u bod "ar ben ei digon" o glywed y newyddion.

Bydd yr arian yn cael effaith fawr yn ôl Elen Roberts
Mae'r Amgueddfa Lechi wedi bod ar gau ers mis Tachwedd diwethaf wrth i waith gael ei wneud i gadw'r creiriau yno yn ddiogel cyn i'r amgueddfa gael ei hailddatblygu.
Fe fydd yr arian o Gronfa Treftadaeth y Loteri yn cael effaith fawr, yn ôl Elen Roberts.
"Ma'n golygu rŵan bod yr holl gynlluniau sydd gennym ni yn mynd i ddwyn ffrwyth ac mae'r ddwy flynedd nesa' yn mynd i fod yn rhai cyffrous ofnadwy," meddai.
"Un o'r prif bethau fydd yn digwydd ydi gwarchod yr adeiladau sydd yma ers dros gant a hanner o flynyddoedd.
"Mae 'na waith dehongli pwysig yn mynd i fod yn digwydd yma a 'da ni eisiau adlewyrchu lleisiau o ar draws cymunedau ardal y llechi o Blaenau i Ddyffryn Nantlle i Ddyffryn Ogwen ac Abergynolwyn… fe fydd lleisiau'r cymunedau yma yn llawer mwy amlwg trwy'r datblygiad yma."

Mae Helen Goddard yn credu ei bod hi'n bwysig gwella mynediad ar gyfer pawb sy'n ymweld â'r amgueddfa
Mi fydd yna siop a chaffi newydd yn cael eu hadeiladu yn ogystal â chanolfan addysg a hyfforddi yn ymwneud â'r diwydiant chwarelyddol.
Nod canolog arall i'r holl gynllun ydi ei gwneud hi'n haws i bobl ag anableddau gael mynediad i'r safle.
Dywedodd Helen Goddard, cyfarwyddwr y cynllun i ddatblygu'r amgueddfa, fod yr elfen yma'n hollbwysig.
"'Da ni'n gwella mynediad dros y safle i gyd efo'r prosiect hwn… mae'n rili rili pwysig i ni wella mynediad i bawb sydd yn ymweld â ni yn yr amgueddfa."

Llythrennau 'GT' wedi eu naddu ar rai o'r creiriau ar ôl taid Osian Thomas - Gwynfryn Thomas
Mae gweithio yn yr amgueddfa yn "fraint" i Osian Thomas, sy'n gweithio fel cynorthwyydd casgliadau.
Roedd ei daid Gwynfryn Thomas yn gweithio yn y ffowndri tan i Chwarel Dinorwig gau yn 1969, ac mae modd gweld y llythrennau 'GT' wedi eu naddu ar rai o'r creiriau.
"Yn sicr mae o'n bwysig, fy hanes i ydi o, felly mi oedd o'n deimlad rhyfedd iawn dogfennu'r casgliadau a'r tools yn y stafell yma (y ffowndri), digon posib (taid) fo oedd y diwethaf i'w cyffwrdd nhw," meddai Osian Thomas.
"Dwi'n teimlo'n agosach bron i'n nhaid wrth wneud y gwaith yma.
"Mae lot o'r straeon yma yn diflannu felly dwi'n teimlo bod 'na ddyletswydd fawr arnom ni i warchod yr amgueddfa yma a gweithdai Gilfach Ddu ond hefyd y straeon… dim jyst yn chwarel Dinorwig ond tu hwnt.
"Amgueddfa Cymru ydan ni wedi'r cwbl, mae gennym ni gyfrifoldeb mawr."

Mae Cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri yng Nghymru, Andrew White yn falch o allu cefnogi'r grant
Ychwanegodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri yng Nghymru a roddodd y nawdd, fod Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis o bwysigrwydd rhyngwladol.
"Yn gyntaf oll mae hyn yn rhan o dreftadaeth Cymru, treftadaeth Llanberis, treftadaeth Prydain Fawr, treftadaeth y byd.
"Mae hyn mor arwyddocaol â hynny ac wrth gwrs mae'n borth i safle treftadaeth y byd.
"Mae'n achub ac ail-ddehongli'r dreftadaeth yma yn yr amgueddfa a 'da ni'n falch iawn o allu cefnogi'r grant yma."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mai 2024
- Cyhoeddwyd25 Medi 2024
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd9 Medi 2022