Y Gymraeg i'w chlywed ar lwyfan theatr y Globe am y tro cyntaf

Mae'r cynhyrchiad newydd yn plethu Saesneg gwreiddiol Shakespeare gyda chyfieithiad Cymraeg J T Jones
- Cyhoeddwyd
Mae'r ddrama serch Romeo a Juliet yn gyfarwydd ar draws y byd, ac wedi ei dehongli a'i pherfformio dro ar ôl tro dros y 400 mlynedd diwethaf.
Ond bydd darn bach o hanes yn cael ei greu nos Fercher pan fydd actorion Theatr Cymru yn camu i lwyfan y Globe yn Llundain.
Dyma fydd y tro cyntaf erioed i'r Gymraeg gael ei chlywed yn y theatr fyd enwog ar lan afon Tafwys, a hynny fel rhan o gynhyrchiad dwyieithog o'r ddrama.
Dywedodd y cyfarwyddwr Steffan Donnelly fod y cynhyrchiad yn "garreg filltir arwyddocaol i'r iaith Gymraeg, Theatr Cymru a phoblogrwydd cynyddol a chreadigrwydd theatr ddwyieithog".

Mae'r cynhyrchiad eisoes wedi bod ar daith ar draws Cymru
I lawer dyma'r 'stori gariad orau erioed' gyda'r ddau gariad ifanc wedi eu dal ynghanol gwrthdaro a ffrae ffyrnig rhwng eu teuluoedd - y Montagiw a'r Capiwlet.
Adlewyrchu realiti dwyieithog Cymru gyfoes yw'r nod gyda'r ddrama newydd, yn ôl y cyfarwyddwr Steffan Donnelly.
"Yn ein fersiwn ni, Cymry ydy'r ddau deulu ac maen nhw'n deall y ddwy iaith, ond Cymraeg mae'r teulu Montagiw yn ei siarad fwyaf a Saesneg mae'r teulu Capiwlet yn ei siarad fwyaf," esboniodd.
"Mae hyn yn caniatáu i ni glywed a gweld y gwahaniaeth rhwng y teuluoedd."

Mae rhai golygfeydd wedi cael eu hail-lunio ar gyfer y perfformiadau yn theatr y Globe oherwydd maint y llwyfan, meddai Steffan Donnelly
Yn y cynhyrchiad newydd mae'r actorion yn plethu Saesneg gwreiddiol Shakespeare gyda chyfieithiad Cymraeg J T Jones (1983) i adlewyrchu'r gwahaniaethau rhwng y teuluoedd.
J T Jones oedd un o'r ffigyrau mwyaf blaenllaw yng Nghymru yng nghyd-destun cyfieithu dramâu Shakespeare gan iddo gyfieithu pump o'i ddramâu yn gyflawn i'r Gymraeg.
Yr actor Steffan Cennydd o Langynnwr ger Caerfyrddin sy'n chwarae Romeo.
Dywedodd ei fod wedi mwynhau'r her o ganfod sut y gall fersiwn ddwyieithog helpu i ddweud stori'r ddau gariad.
"Mae bod yma yn brofiad anhygoel. Am wn i dyma fydd y cyfle cynta i lawer yn y gynulleidfa heno glywed Shakespeare yn y Gymraeg," meddai.
"Mae pobl yn gyfarwydd â chlywed geiriau'r bardd a llinellau mwyaf cyfarwydd y ddrama ond pan ti yn clywed nhw yn y Gymraeg ti yn clywed nhw am y tro cyntaf fel petai."

Dim ond ers tair blynedd y mae Isabella Colby Browne, sydd yn chwarae rhan Juliet, wedi bod yn dysgu Cymraeg
Isabella Colby Browne, actores o Sir y Fflint - sydd wedi dysgu Cymraeg ers tair blynedd - yw Juliet, ac mae'n gobeithio y bydd pawb yn canfod rhywbeth i'w fwynhau yn y cynhyrchiad.
"Mae yna dipyn o bwysau ynglŷn â chwarae rôl mor eiconig a dwi yn teimlo yn lwcus bo fi ddim wir yn yn arbenigwr ar y sioe cyn hyn.
"Ond, dwi wedi archwilio cymeriad Juliet ac felly dwi yn gallu 'neud pob llinell fel dwi eisiau dehongli fe, yn hytrach na fel fi wedi clywed rhywun yn arall yn gneud.
"A thrwy cyflwyno rhannau yn Gymraeg mae e lot yn haws i neud Juliet newydd ac arbennig - a hi yw'r Juliet cynta yn y Sam Wanamaker i siarad Cymraeg. Mae yn anhygoel!"
Ymateb 'anhygoel'
Mae'r cynhyrchiad eisoes wedi bod ar daith ar draws Cymru ac wedi cael ymateb "anhygoel", yn ôl Steffan Donnelly, gyda'r gynulleidfa yn dangos llawer iawn o ddiddordeb yn yr elfen ddwyieithog.
Cafodd Theatr y Globe ei sefydlu gan yr Americanwr, Sam Wanamaker, yn benodol i ddangos dramâu Shakespeare.
Erbyn hyn mae dwy theatr yn yr adeilad, y theatr 'in the round' yn yr awyr agored, a Theatr Sam Wanamaker sydd dan do ac wedi ei oleuo gan olau cannwyll fel byddai perfformiadau yn ystod oes Elisabeth.

Mae'r llwyfan yn theatr y Globe yn lawer llai o'i gymharu â maint y llwyfannau eraill y mae'r cast wedi eu defnyddio yn ystod y daith
Ond mae dod â'r sioe i Lundain yn dipyn o her, yn enwedig o ystyried bod maint llwyfan y Sam Wannamaker tua hanner maint y llwyfannau y mae'r cast yn gyfarwydd â nhw.
Dywed y cyfarwyddwr fod rhaid "ail-ymweld a phob golygfa ac ail-lunio a gweithio ambell olygfa o'r newydd er mwyn cwrdd â gofynion a maint y llwyfan".
"Mae'n rhaid i chi bwyso i mewn i'r Wannamaker," meddai Mr Donnelly, "a gadael iddo lifo drosto chi i gyd."
Dywedodd Elin Steele, y cynllunydd set a gwisgoedd fod "y llwyfan yma yn wahanol iawn i bob llwyfan cyn hyn".
"Mae'r canhwyllau go iawn yn elfen newydd i ni a dim golau trydanol. Mae'r actorion yn gweithio mewn ffordd wahanol."
Dywedodd Michelle Terry, Cyfarwyddwr Artistig Shakespeare's Globe: "Rydym mor falch a chyffrous i groesawu Steffan a'i gwmni eithriadol i'r Globe gyda'r cynhyrchiad arloesol yma, sydd o ran ffurf a chynnwys yn gofyn i ni ddod at ein gilydd i ddathlu'r hyn sy'n wahanol amdanom.
"Mae'n anrhydedd hefyd fod Steffan wedi dewis y Globe fel y brif theatr gyntaf yn Llundain i rannu gwaith pwysig Theatr Cymru."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Medi

- Cyhoeddwyd15 Medi

- Cyhoeddwyd15 Medi
