Beth yw heriau'r hydref i Eluned Morgan a llywodraeth Lafur Cymru?

Bydd sesiwn holi cyntaf y prif weinidog o'r hydref yn digwydd ar brynhawn ddydd Mawrth
- Cyhoeddwyd
Wedi haf hir a thwym, bydd tymor gwleidyddol newydd yn dechrau yn Senedd Cymru ddydd Mawrth.
Felly beth sydd i'w ddisgwyl dros y misoedd nesaf?
Is-etholiad Caerffili
Mae am fod yn ddechrau emosiynol i'r tymor newydd.
Brynhawn Mawrth fe fydd y cyfarfod llawn cyntaf yn cychwyn gyda theyrngedau i'r diweddar Hefin David.
Ond hen fusnes didrugaredd yw gwleidyddiaeth.
Chafodd ffrindiau Mr David braidd dim amser i'w alaru cyn dechrau'r ymgyrch i lenwi ei sedd yn y Senedd.
Gall canlyniad is-etholiad Caerffili osod cywair ar gyfer y flwyddyn wleidyddol i ddod.

Bu farw Hefin David, yr aelod Llafur dros Gaerffili, fis Awst
Llafur sydd wedi ennill y sedd hon ym mhob etholiad i'r Senedd ers dechrau datganoli, a phob etholiad i San Steffan ers 1918.
Nawr mae'r blaid yn wynebu bygythiadau difrifol ar y naill asgell wleidyddol.
Dyma'r union fath o sedd y byddai Reform UK yn gobeithio'i hennill os am ddangos eu bod nhw o ddifrif ynglŷn ag ennill etholiad y Senedd fis Mai nesaf.
Ar yr un pryd, mae'r arolygon barn yn awgrymu bod Llafur yn colli cefnogaeth ar ei hasgell chwith, yn enwedig i Blaid Cymru, sydd hefyd yn gobeithio gwthio Llafur allan o rym.
Cytuno ar gyllideb
Y gyllideb yw'r prawf pwysicaf i unrhyw lywodraeth.
Heb fwyafrif, mae'n rhaid i Lafur ddibynnu ar bleidiau eraill y Senedd i gymeradwyo'u cynlluniau trethi a gwario.
Bwriad Mark Drakeford, yr ysgrifennydd cyllid, yw cyflwyno'r un gyllideb y gaeaf hwn â llynedd, gan obeithio osgoi dadlau di-angen.
Cytundeb gyda Jane Dodds, y Democrat Rhyddfrydol, wnaeth ganiatáu i'r gyllideb ddiwethaf basio.
Ond does dim sicrwydd bydd y cynllun yn llwyddo - ac os colli yng Nghaerffili gall fod yn anoddach fyth iddo ddod o hyd i'r pleidleisiau sydd eu hangen yn siambr y Senedd.
Talu'r pris
I raddau helaeth, y Canghellor Rachel Reeves, nid Mr Drakeford, sy'n penderfynu faint o arian sydd gan Lywodraeth Cymru i'w wario.
Ar 26 Tachwedd fe fydd hi'n cyhoeddi cyllideb nesaf Llywodraeth y DU, gyda rhai yn rhagweld y bydd yn rhaid iddi lenwi twll yn y cyfrifon cyhoeddus.
Bydd ei phenderfyniadau yn cael effaith fawr ar wasanaethau cyhoeddus, gweddill yr economi ac agweddau pobl tuag at Lafur.
Dyna pam mae Eluned Morgan yn dweud ei bod hi'n lobïo Downing Street ar ran Cymru.
Fe allai Ms Morgan dalu'r pris os nad yw'r pleidleiswyr yn hoffi beth sydd gan y Canghellor i'w ddweud.
Cyflawni
Addo i gyflawni blaenoriaethau'r bobl wnaeth Eluned Morgan ar ôl iddi gael ei dyrchafu ar frys fel prif weinidog.
Mewn ffordd, mae'r addewid yn gyfaddefiad nad oedd ei rhagflaenwyr wedi canolbwyntio digon ar yr hyn sy'n bwysig i bleidleiswyr.
Fe fydd Ms Morgan a'i thîm yn gobeithio gweld amseroedd aros y gwasanaeth iechyd yn gostwng yn yr ystadegau misol.
Ym Mehefin fe wnaeth nifer y bobl sy'n aros o leiaf dwy flynedd am driniaeth ddisgyn i lai nag 8,000 am y tro cyntaf ers y pandemig.
Pwy a ŵyr a fydd pleidleiswyr yn gwobrwyo Llafur am hynny, ar ôl i gynifer aros yn hir am driniaeth dros y blynyddoedd diwethaf.
Creu swyddi oedd un o addewidion eraill Ms Morgan, ac mae'r prif weinidog yn awyddus i ddangos bod trefnu uwchgynhadledd buddsoddi o dramor - fydd yn cael ei chynnal yng Nghasnewydd fis Rhagfyr - yn fuddiol.
Be' nesaf?
Mewn cyfweliad gyda fi dros yr haf fe wnaeth Eluned Morgan addo cyhoeddi gweledigaeth ar gyfer y dyfodol cyn hir.
Tybed a fydd honno'n cynnwys rhywbeth i ysbrydoli ffyddloniaid Llafur cyn yr etholiad flwyddyn nesaf?
O Reform i Rayner, mae 'na ddigon wedi bod yn y penawdau yn ddiweddar i ddiflasu aelodau'r blaid.
Mae rhai hyd yn oed wedi cwympo mas dros ddewis ymgeiswyr ar gyfer etholiad nesa'r Senedd – proses sy' dal heb orffen.
Dros yr wythnosau nesaf bydd yn rhaid i'r blaid ar lefel y DU ddewis dirprwy arweinydd i olynu Angela Rayner – cystadleuaeth sydd â'r potensial i droi'n ffrae dros ddyfodol y blaid.
Pob pleidlais yn cyfri'
Efallai bod meddyliau pawb ym Mae Caerdydd ar yr etholiad sy'n prysur agosáu, ond mae 'na waith i'w gwblhau cyn hynny.
Bydd y diwydiant bysiau yn cael ei ddiwygio gan gyfraith sy'n cael ei hystyried gan y Senedd nawr.
Dyma ddeddf – o bosib, un o'r mwyaf arwyddocaol yn hanes datganoli – a gafodd ei addo gan Lafur yn eu maniffesto yn 2021.
Ond yn ogystal ag ennill pleidleisiau ar ei chynllun ei hun, bydd yn rhaid i'r llywodraeth leiafrifol ddelio â phethau nad oedden nhw'n rhagweld bedair blynedd yn ôl, fel gwahardd rasio milgwn a phleidlais ar gymorth i farw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd7 Medi
- Cyhoeddwyd26 Awst