Cymraeg 2050: 'Isafswm, nid nenfwd, yw targed miliwn o siaradwyr'
![Mark Drakeford](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/3840/cpsprodpb/27cd/live/83fe7410-ea27-11ef-bd1b-d536627785f2.jpg)
"Mae gosod y targed ar sail gyfreithiol yn tanlinellu ei bwysigrwydd" meddai gweinidog y Gymraeg Mark Drakeford
- Cyhoeddwyd
Bydd deddf newydd sy'n anelu at gael miliwn o siaradwyr Cymraeg yn cael ei haralleirio i ddatgan yn glir mai isafswm, nid nenfwd, yw'r targed.
Bydd y geiriau "o leiaf" yn cael eu hychwanegu i'r targed o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru i un miliwn erbyn 2050.
Daw hyn ar ôl i Lywodraeth Cymru gytuno i welliant gan Blaid Cymru i Fil y Gymraeg ac Addysg.
Ond dywedodd Cymdeithas yr Iaith bod "gwelliannau fyddai wedi gallu cryfhau rhywfaint ar y Bil wedi eu gwrthod heddiw".
Mae arolwg blynyddol diweddaraf y llywodraeth wedi cofnodi 851,700 o siaradwyr Cymraeg, y ganran isaf i'w chofnodi ers dros wyth mlynedd.
Ond mae'r targed wedi'i seilio ar ddata'r cyfrifiad - nid arolwg y llywodraeth.
Roedd Cyfrifiad 2021 wedi dangos gostyngiad yng nghanran y siaradwyr Cymraeg i 17.8%, sef tua 538,000 o breswylwyr arferol tair oed neu'n hŷn yng Nghymru yn dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg.
'Unioni'r cam'
Mae pwyllgor plant, pobl ifanc ac addysg y Senedd wedi bod yn trafod cyfnod 2 y ddeddf ddydd Iau, sef yr ail gam o'r pedwar yn y broses o greu deddf.
Wrth gyflwyno'r gwelliant, dywedodd Cefin Campbell, AS Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru: "Mae'n desun siom bod y mwyafrif o blant a phobl ifanc yng Nghymru yn parhau i gael eu hamddifadu o'r cyfle i siarad a dysgu'r iaith a'i defnyddio hi.
"Mae'r Bil hwn yn ceisio unioni'r cam hwnnw, ac mae taith y Bil trwy'r Senedd yn foment hanesyddol gan ein bod yn deddfu, gobeithio, i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn dod yn siaradwyr Cymraeg hyderus."
Ychwanegodd: "Does dim cynnydd digonol wedi bod i gyrraedd y filiwn hyd yn hyn felly mae angen i ni sicrhau nad ydyn ni'n creu nenfwd erbyn 2050 o ran yr uchelgais."
![Cefin Campbell](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/888/cpsprodpb/5072/live/665aa300-ea1a-11ef-98b8-4512aa930084.jpg)
"Mae taith y Bil trwy'r Senedd yn foment hanesyddol," meddai Cefin Campbell
Atebodd Mark Drakeford, gweinidog y Gymraeg: "Mae gosod y targed ar sail gyfreithiol yn diogelu ei ddyfodol ac yn tanlinellu ei bwysigrwydd.
"Mae'r targed yn un heriol a bydd angen ymdrech ar draws sawl maes i'w gyflawni.
"Pwrpas y Bil yw creu'r amodau ar gyfer cyrraedd y targed. Bwriad y targed yw ysbrydoli twf, ac ni fwriadwyd iddo erioed weithredu fel cap."
Ychwanegodd bod y gwelliant gan Cefin Campbell "yn rhoi hynny tu hwnt i unrhyw amheuaeth" a bod y llywodraeth yn gefnogol.
Cafodd y bil ei gyhoeddi yn wreiddiol fel rhan o'r cytundeb cydweithio rhwng Llafur a Phlaid Cymru, sydd bellach wedi dod i ben.
Mae disgwyl i'r Bil, sydd hefyd yn anelu at ddyblu defnydd dyddiol o'r iaith erbyn 2050, dderbyn Cydsyniad Brenhinol i'w wneud yn gyfraith yn ystod haf 2025.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, cyfanswm y costau sy'n gysylltiedig â'r ddeddfwriaeth fydd £103m dros y 10 mlynedd o 2025-26, sy'n cynnwys costau'r llywodraeth, awdurdodau lleol, ysgolion, Estyn, a'r Athrofa Dysgu Cymraeg Genedlaethol a fydd yn cael ei sefydlu gan y Bil.
![Toni Schiavone](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/0485/live/f5135110-ea28-11ef-a319-fb4e7360c4ec.jpg)
"Bil sy'n cadarnhau'r status quo yw hwn yn hytrach na'r Bil gweddnewidiol sydd ei angen" meddai Toni Schiavone
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu'r pwyllgor am "wrthod nifer o welliannau a fyddai wedi cryfhau'r Bil", gan gynnwys, meddai, "gosod targedau statudol ar gyfer cynyddu'r ganran o blant mewn addysg Gymraeg, cynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg mewn ysgolion sy'n dysgu drwy'r Saesneg ar hyn o bryd, a sicrhau cyllid digonol i uwchraddio sgiliau Cymraeg y gweithlu addysg".
Dywedodd Toni Schiavone ar ran y gymdeithas bod y "system addysg yn amddifadu 80% o'n plant o'r hawl i allu defnyddio'r Gymraeg".
"Dydy Bil y Gymraeg ac Addysg fel y mae ddim yn mynd i newid hynny – Bil sy'n cadarnhau'r status quo yw hwn yn hytrach na'r Bil gweddnewidiol sydd ei angen."
Ychwanegodd: "Mae Aelodau o'r Senedd yn hoff o ddweud bod y Gymraeg yn perthyn i bawb, ond mae eu gweithredoedd yn awgrymu'r gwrthwyneb."
67% o blaid cynyddu defnydd o'r Gymraeg
Yn y cyfamser, mae arolwg barn newydd gan YouGov wedi awgrymu bod un o bob pump o Gymry (20%) yn anghytuno ag ymdrechion i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg, o gymharu â dwy ran o dair (67%) o blaid.
Mae siaradwyr Cymraeg yn fwy brwdfrydig, gyda naw o bob 10 (92%) yn cymeradwyo ymdrechion i ehangu'r defnydd o'r iaith, ond mae 63% o'r di-Gymraeg hefyd yn gefnogol.
Mae'r arolwg hefyd yn awgrymu:
Mae tri chwarter y Cymry yn dweud y dylai gwybodaeth gyhoeddus fod yn Gymraeg ac yn Saesneg;
Mae 72% yn dweud ei bod o leiaf yn weddol bwysig i blant Cymru ddysgu Cymraeg mewn ysgolion;
Mae 45% yn dweud bod y Gymraeg yn bwysicach i blant ei dysgu nag iaith dramor, yn erbyn 35% sy'n dweud bod iaith dramor yn bwysicach.
Cynhaliodd YouGov arolwg o 1,312 o oedolion yng Nghymru rhwng 13-20 Ionawr 2025.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Chwefror
- Cyhoeddwyd23 Ionawr
- Cyhoeddwyd14 Ionawr