'Diffyg enfawr' o fenywod sy'n hyfforddi chwaraeon ar y lefel uchaf

Fe enillodd Non Stanford fedal aur ym Mhencampwriaethau'r Byd yn 2022
- Cyhoeddwyd
Mae 'na "ddiffyg enfawr" o fenywod sy'n gweithio a gwirfoddoli fel hyfforddwyr mewn chwaraeon, yn ôl cyn-bencampwr triathlon y byd.
Mae Non Stanford - sydd bellach yn gweithio gyda thîm triathlon Prydain - yn dweud mai hi yw'r unig ferch sy'n hyfforddi ar y lefel uchaf, a bod y patrwm yn gyfarwydd ar draws nifer fawr o gampau eraill.
"Fi yw'r unig ferch sy'n hyfforddi ar yr ochr Olympaidd, ac ar yr ochr Paralympaidd mae 'na un ferch arall yn gweithio... ond yn fy ngwaith o ddydd i ddydd, fi yw'r unig ferch ymhob cyfarfod," meddai.
Yn ôl Chwaraeon Cymru, mae yna "gynnydd da" yn cael ei wneud yn y maes yng Nghymru, ond "mae angen inni wella o hyd".
- Cyhoeddwyd12 Chwefror
- Cyhoeddwyd1 Chwefror
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2023
Mae ymchwil gan YouGov ar ran UK Coaching yn dangos bod canran yr hyfforddwyr benywaidd wedi gostwng o 44% yn 2022 i 38% yn 2024.
Yng Nghymru mae'r sefyllfa ychydig yn well - gyda 46% o hyfforddwyr yn fenywod a 54% yn ddynion.
Yn ôl adroddiad UK Coaching, mae menywod yn fwy tebygol o hyfforddi chwaraeon mwy creadigol fel dawns ac ioga, tra bod hyfforddwyr gwrywaidd yn fwy tebygol o hyfforddi chwaraeon tîm.

Mae angen gwneud hi'n haws i fenywod sydd â theuluoedd i weithio o fewn chwaraeon, meddai Non Stanford
Mae Non Stanford yn dweud bod angen i gyrff o fewn y byd chwaraeon wneud mwy i annog menywod i ddechrau hyfforddi.
"Mae e'n rhwystredig achos dwi'n credu bod menywod yn cynnig llawer i'r conversation, ac mae ganddyn nhw brofiadau gwahanol a syniadau gwahanol," meddai.
"Mae e'n rili bwysig i gael mwy o fenywod sy'n hyfforddi ac yn gweithio o fewn chwaraeon.
"Mae'n ddiwydiant sy'n cael ei dominatio gan ddynion, ac mae'n rhaid newid perceptions pobl a dangos fod yna le i fenywod weithio yn y byd chwaraeon.
"Mae angen gwneud mwy i'w gwneud hi'n hawdd i fenywod gael teulu a gweithio mewn chwaraeon ar y lefel uchaf."

Nia Davies yw hyfforddwr tîm pêl-droed merched dan-19 Cymru
Un arall sydd wedi torri tir newydd yw Nia Davies, hyfforddwr tîm pêl-droed merched dan-19 Cymru.
Nia oedd yr hyfforddwr benywaidd gyntaf gyda chlwb yn Uwch Gynghrair Lloegr - hynny pan oedd Abertawe yn y brif adran.
"Pan o'ch chi'n mynd i glybiau eraill, oeddech chi'n dod off y bws ac o'n nhw'n meddwl bo' fi'n physio. O'dd hynny yn agoriad llygad i rai pobl.
"Does 'na ddim digon [o hyfforddwyr benywaidd] yn y gêm ar y funud yn enwedig ar y lefel uchaf. Ond 'da chi yn gweld llawer mwy yn dod trwyddo.
"Mae 'na reolau mewn nawr i drio cynyddu, ond wedyn mae'n iawn rhoi'r rheolau yna, ond be' 'da chi'n neud i helpu nhw i gyrraedd yna?"
'Wedi ymrwymo i barhau â'r cynnydd'
Dywedodd Sarah Walters, Pennaeth Strategaeth System Chwaraeon gyda chorff Chwaraeon Cymru: "Mae hyfforddwyr yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi ein huchelgais o greu cenedl egnïol lle gall pawb gael mwynhad gydol oes o chwaraeon.
"Mae'n hanfodol felly i bob hyfforddwr deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u cefnogi i gyflawni'r rôl hyd eithaf eu gallu.
"Mae'r sefydliadau partner rydyn ni'n eu hariannu i gyflwyno chwaraeon yn rhoi blaenoriaeth fawr i fenywod er mwyn helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau hirdymor.
"Mae hyn yn cynnwys partneriaid yn cydweithio ac yn rhannu eu gwybodaeth i greu amgylcheddau hyfforddi cynhwysol sy'n addas ar gyfer anghenion pob hyfforddwr.
"Rydym yn gwneud cynnydd da yng Nghymru, ond mae angen i ni wella o hyd, ac rydym wedi ymrwymo i hynny."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ionawr
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2024