Heddwas yn meddwl am achos Jack Lis 'bron bob dydd'
- Cyhoeddwyd
Mae heddwas ymatebodd i ymosodiad gan gi ar fachgen 10 oed yng Nghaerffili yn dweud ei fod yn dal i feddwl am y digwyddiad “bron bob dydd”.
Bu farw Jack Lis wedi i gi ymosod arno mewn tŷ yn ardal Pentwyn ym Mhenyrheol fis Tachwedd 2021.
Sarjant Ross Phillips oedd un o’r cyntaf i wynebu’r ci XL Bully.
Mae ef a Sarjant Isabelle Coulson o Heddlu Gwent wedi eu henwebu am un o wobrau Dewi Sant Llywodraeth Cymru.
Roedd Sarjant Phillips newydd ddechrau ei shifft pan ddaeth adroddiadau o ddigwyddiad ar stad Penyrheol.
“Penderfynais i fynd draw yno fy hun, oherwydd bod yr adroddiadau cyntaf yn awgrymu bod yna anafiadau difrifol," meddai.
“Wrth gyrraedd - cyn i ni hyd yn oed gyrraedd y stryd - roedd yna nifer o bobl tu allan, yn trio dal ein sylw a dangos y ffordd at y tŷ.”
Roedd hi’n “anhrefn llwyr” yno, meddai.
“Daeth yn glir yn gyflym bod plentyn yn y tŷ, a bod y ci hefyd dal tu fewn.
“Roedd yn sefyllfa hynod o beryglus. Roedd rhaid i ni achub Jack, ond hefyd atal y ci rhag dianc.”
Llwyddodd Sarjant Coulson i dynnu sylw’r ci, gan adael Sarjant Phillips mewn sefyllfa i gyrraedd Jack.
“Roedd e’n gorwedd ger y drws, yn agos i’r stafell fyw," meddai.
"'Nes i allu ei dynnu fe allan trwy’r drws, ond wrth i fi wneud hynny, daeth y ci nôl tuag at y drws hefyd.
“Llwyddais i atal y ci rhag dianc, rhoi Jack i’r parafeddygon, ac yna gafael yn y ci a’i wthio fe nôl mewn trwy’r drws.”
Bu farw Jack o’i anafiadau. Yn ddiweddarach daeth cwest i’r casgliad iddo farw o anafiadau difrifol i’w ben a’i wddf.
Ym Mehefin 2022 cafodd Brandon Hayden ac Amy Salter eu carcharu ar ôl cyfaddef eu bod yn berchen ar gi peryglus.
Hyd heddiw, mae Sarjant Phillips yn dal i feddwl am farwolaeth Jack.
“Mae’n un sydd wedi aros efo fi, a bod yn onest.
“Fel heddwas, dwi’n ymateb i nifer o ddigwyddiadau ofnadwy, a gall llawer ohonynt fod yn anodd delio â nhw, ond… roedd hyn yn hynod o anodd, oherwydd yr amodau, a cholli Jack.
“Dyna oedd y peth anoddaf i ddelio â fe.”
'Teimlad rhyfedd'
Mae Sarjant Phillips a Sarjant Coulson wedi cael eu henwebu am un o Wobrau Dewi Sant 2024 am eu dewrder.
Prif Weinidog Cymru sy’n cyhoeddi enillydd pob categori mewn seremoni arbennig yng Nghaerdydd nos Iau.
”Dwi’n hynod o ddiolchgar am yr enwebiad," meddai Sarjant Phillips.
“Ond mae’n deimlad rhyfedd achos dim ond gwneud fy ngwaith o’n i, wrth gwrs.”
Mae’n achos fydd yn aros gydag ef, meddai.
“Rwy wedi ymateb i sawl sefyllfa dros y blynyddoedd ac mae pob un yn gadael rhywbeth gyda chi,” eglura.
“Dydyn nhw ddim i gyda mor drawmatig na thrist â’r sefyllfa yma, ond rydych chi’n delio â nhw y gorau gallwch chi gyda chymorth eich cydweithwyr.”
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2021
- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2021