Cyngor i ystyried dau opsiwn ar gyfer ysgol anghenion ychwanegol newydd

Protest
Disgrifiad o’r llun,

Bu nifer yn ymgyrchu yn erbyn y penderfyniad gwreiddiol i beidio bwrw ymlaen â chynllun i adeiladu ysgol newydd

  • Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Sir Gâr yn ystyried dau opsiwn ar gyfer ysgol newydd i blant ag anghenion dysgu ychwanegol yn Llanelli.

Gorymdeithiodd tua 300 o ymgyrchwyr drwy'r dref ym mis Medi y llynedd gan honni bod y cyngor sir wedi torri addewid i ariannu adeilad newydd ar gyfer Ysgol Heol Goffa.

Ond dywedodd y cyngor eu bod bellach yn edrych ar naill ai ysgol newydd i 150 o ddisgyblion, neu un â chapasiti o 250.

Bydd y ddau opsiwn yn golygu darpariaeth ehangach na'r hyn sydd eisoes yn bodoli yn Ysgol Heol Goffa.

Mae ymgyrchwyr wedi croesawu'r cyhoeddiad.

'Costau mwy cadarn'

Cafodd y cynnig i ail osod Heol Goffa ei gyflwyno sawl blwyddyn yn ôl ar safle cyn-gwaith copr Draka yn Llanelli.

Ond y llynedd fe benderfynodd y cyngor beidio bwrw ymlaen gyda'r cynnig oherwydd costau.

Fe wnaeth y penderfyniad sbarduno teimladau cryfion gan ymgyrchwyr, ac fe gomisiynodd y cyngor adolygiad annibynnol o ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol yn ardal Llanelli.

Cafodd canfyddiadau'r adolygiad ei gyhoeddi fis Chwefror a oedd yn nodi chwe opsiwn ar gyfer yr ysgol, ac anghenion dysgu ychwanegol (ADY) yn lleol.

Ysgol Heol Goffa, Llanelli

Dywedodd y cynghorydd Glynog Davies, aelod cabinet Plaid Cymru dros addysg, y bydd yn cyflwyno'r cynnig i'w gyd-weithwyr yn y cabinet.

Pa bynnag un o'r ddau opsiwn newydd fydd yn cael ei ddewis, meddai, byddai'n fwy na'r un a gafodd ei ohirio.

"Byddai'r cynlluniau cyntaf wedi golygu ysgol lai, a fyddai wedi bod yn llawn o'r diwrnod cyntaf," meddai Mr Davies.

"Yn dilyn adolygiad annibynnol a gafodd ei gomisiynu gan David Davies, cyn-arweinydd ADY, byddaf yn ystyried naill ai ysgol i 150 ar safle Ysgol Heol Goffa gyda darpariaeth i bobl awtistig yn rhan o'r brif ffrwd, neu ysgol ADY newydd i 250 o ddisgyblion, i gynnwys darpariaeth i ddisgyblion gydag awtistiaeth."

Glynog Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y Cynghorydd Glynog Davies: "Rydym yn benderfynol o sicrhau'r ddarpariaeth orau i ddisgyblion ADY ardal Llanelli"

Ychwanegodd: "Er gwaethaf pwysau ariannol enfawr, rydym yn benderfynol o sicrhau'r ddarpariaeth orau i ddisgyblion ADY ardal Llanelli, a hynny am ddegawdau i ddod.

"Dwi'n gofyn am gostau mwy cadarn, ac fel yr arfer, byddwn yn ymwneud â gyda Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau cyllid i'r cynllun."

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies ei fod wedi gobeithio gwneud ei argymhellion i'r cabinet fis Mai, ond fod y broses wedi wynebu oedi o ganlyniad i gyfraith etholiadol am fod isetholiad cyngor sir yn ward Lliedi yn Llanelli ar 29 Mai.

'Positif iawn'

Roedd Hannah Coles, cadeirydd grŵp ymgyrchu Ysgol Heol Goffa a rhiant i ddisgybl yn yr ysgol, yn croesawu'r argymhellion.

Fe ddisgrifiodd cyhoeddiad Mr Davies fel un "positif iawn".

Dywedodd: "Mae'r awdurdod lleol wedi cydnabod ein bod angen ysgol newydd. Mae hynny'n wych.

"Mae'r pwyllgor gweithredu yn awyddus i gael yr ysgol i 250 o ddisgyblion."

Dywedodd fod Ysgol Heol Goffa wedi bod yn llawn gyda rhestr aros hir, a bod y galw am addysg ADY - nid yn unig yn Sir Gâr - yn cynyddu.

"Dy'n ni ddim eisiau bod yn yr un sefyllfa ymhen degawd," meddai.

Ysgol Heol Goffa

Cafodd yr adolygiad annibynnol ei wneud gan yr ymgynghorydd David Davies - cyn-bennaeth ADY a lles yng nghyngor Bro Morgannwg.

Dywedodd fod 'na "gynnydd aruthrol" wedi bod yn nifer y plant a phobl ifanc sydd ag awtistiaeth yn ystod y ddegawd ddiwethaf yng Nghymru a thu hwnt.

Ychwanegodd fod y twf ym mhobl ifanc Cymru sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn ddigynsail.

Dywedodd adroddiad Mr Davies mai ond un unigolyn a oedd wedi mynegi diddordeb i adeiladu'r ysgol newydd ar safle gwaith copr Draka a bod y gost o'i hadeiladu llawer yn uwch na'r disgwyl.

Dywedodd fod Ysgol Heol Goffa yn cael ei chefnogi'n dda gan gymuned Llanelli "sy'n falch iawn ohoni yn amlwg", ac yn cael ei barchu'n fawr gan rieni a gwarchodwyr.

Er hyn, mae 'na bryderon am ei chyflwr.

Dywedodd yr adroddiad: "Does dim dwywaith nad yw'r awyrgylch ddysgu yn Ysgol Heol Goffa yn ffit i bwrpas ac mae'n rhaid cydnabod hwn."

Pynciau cysylltiedig