Tristwch wrth i staff profiadol adael Amgueddfa Lechi Cymru

Maggie Morris
Disgrifiad o’r llun,

Mae Maggie Morris yn gadael ei swydd wedi 26 mlynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae’n benwythnos emosiynol i staff Amgueddfa Lechi Cymru wrth i'r lleoliad gau am ddwy flynedd, gyda rhai yn gadael eu swyddi am byth.

Daw hyn yn sgil prosiect £21m i adnewyddu'r amgueddfa genedlaethol yn Llanberis.

Bydd y safle'n cau rhwng 3 Tachwedd a hydref 2026, gyda rhai staff yn symud lleoliad am y cyfnod tra bod swyddi eraill yn dod i ben.

Ymysg y rhai sy'n gadael mae Maggie Morris o Lanberis, sydd wedi gweithio yn y caffi ers dros chwarter canrif.

“Dwi yma ers 26 mlynedd felly dwi 'chydig yn drist,” meddai.

“Mae’n bechod achos os oedd o ddim yn cau faswn i ddim yn gorfod mynd - ac mae o wedi bod yn le braf i weithio.”

'Lle ydan ni am fynd rŵan?'

Mae’n dweud ei bod yn hoffi sgwrsio gyda’r bobl sy’n dod yno a bod rhai o’i chwsmeriaid cyson wedi bod yn galw draw dros y dyddiau diwetha' i ddymuno’n dda iddi.

“Mae 'na ddau sy’n dod o Manchester wedi dod yma mis yn gynt nag oeddan nhw wedi meddwl gwneud, i ddeud ta-ra a dod â chocolates i fi," meddai Maggie.

“Mae 'na ddwy ddynes sy’n dod yma bob dydd Sadwrn i gael coffi - roeddan nhw yma diwrnod o’r blaen yn deud ‘lle ydan ni am fynd rŵan?’

“Fydd o’n od. Dwi wedi gweithio efo rhai o’r bobl yma ers blynyddoedd ac mae 'na rai sydd wedi gadael yn barod.”

Disgrifiad o’r llun,

Fel brodor o Lanberis sy’n cofio chwarel Dinorwig pan oedd yn cynhyrchu llechi, mae Maldwyn Jones yn gallu siarad o brofiad gyda'r ymwelwyr.

Mae Maldwyn 'Butch' Jones yn gadael ar ôl gweithio yn yr amgueddfa ers 1995.

Mae’n un o’r staff sy’n cadw golwg ar y lle ac yn rhannu gwybodaeth efo ymwelwyr.

Ei hoff leoliad ydy Fron Haul - hen dai chwarelwyr ardal Blaenau Ffestiniog a gafodd eu hail-godi yn yr amgueddfa i gyfleu sut oedd bywyd cartref y chwarelwyr yn 1861, 1901 a 1969.

Fel brodor o Lanberis sy’n cofio chwarel Dinorwig pan oedd yn cynhyrchu llechi, mae’n gallu siarad o brofiad gyda'r ymwelwyr.

'Dwi wedi dysgu lot'

Meddai: “'Da ni’n sôn am y tai a sut oedd pobl yn arfer byw, a sut le oedd y pentref yn arfer bod a sut oedd bywyd yn arfer bod - pobl yn mynd i’r capel neu’r eglwys dair gwaith ar ddydd Sul. Dwi’n cofio’r amser yna.

“Pan neshi ddechrau roedd Hugh Richards Jones yma [prif beiriannydd olaf Chwarel Dinorwig, wnaeth sefydlu’r Amgueddfa] a ro’n i a rhai eraill yn lwcus iawn achos roedd o’n dysgu ni am y lle ac yn dangos pethau i ni.

"Neshi ddysgu lot drwy hynny ac wedyn dwi wedi dysgu mwy dros y blynyddoedd. Mae un cyn-chwarelwr yn dod yma a dwi wedi dysgu lot ganddo fo hefyd.

“Dwi ddim lawr ar y rota i weithio dydd Sul yma ond dwi am ddod yma i weld y lle yn cau - alla i ddim methu hynny.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwilym Williams wedi gweithio yn yr amgueddfa yn rheolaidd ers 17 mlynedd

Mae Gwilym Williams - mab i chwarelwr a gafodd ei fagu ym mhentref cyfagos Cwm-y-glo - wedi gweithio yn yr amgueddfa yn rheolaidd ers 17 mlynedd.

Fel aelod o'r gweithlu llanw does ganddo ddim swydd barhaol sy'n dod i ben - ond mae'r ffaith bod y lle yn cau am gyfnod hir wedi gwneud iddo benderfynu ei bod yn bryd iddo ymddeol.

“Roedd Dad yn gweithio yma pan oedd y chwarel yn dal i fynd a ro’n i’n dod yma efo fo fel trît gwylia haf - cael mynd i gwaith efo Dad,” meddai.

“Ro’n i’n gadael yma efo mwy o bres na fo.

"Roedd y chwarelwyr i gyd yn gofyn ‘hwn di dy Jermon di?’ [Jermon - un o swyddi’r chwarelwyr] - ac o’n i’n cael rhyw geiniog neu ddima' gan bawb a mynd o 'ma efo llond poced o bres.

"O’n i’n cael mynd efo bocs bwyd i’r Caban hefyd.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r amgueddfa wedi ei leoli yn hen weithdai Chwarel Dinorwig yn Gilfach Ddu, Llanberis

Bydd y prosiect £21m yn atgyweirio adeiladau Gradd I Gilfach Ddu, adeiladu caffi, canolfan addysg a man chwarae newydd.

Bydd y ffordd mae’r amgueddfa yn adrodd hanes y diwydiant hefyd yn cael ei gwella.

Er bod nifer o'r staff yn dweud ei bod yn bwysig buddsoddi i’r dyfodol, mae ansicrwydd hefyd wrth i staff profiadol adael.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Elfyn Jones-Roberts y bydd hi'n od mynd i'r gwaith ddydd Llun gyda'r safle ar gau

Un sydd yn cadw ei swydd ond yn newid lleoliad am ddwy flynedd ydy Elfyn Jones-Roberts, un o’r rheolwyr.

“Mae 'na staff da a phobl dda yma,” meddai.

“Y comments ar Tripadvisor - maen nhw i gyd yn dweud bod y staff yn barod iawn i siarad efo nhw ac ateb cwestiynau ac efo gwybodaeth am y lle.

"Alli di ddim rhoi pris ar hynny - felly gobeithio gawn ni'r staff pan fydd yn agor yn ôl.

“Mae colli gang fel hyn mae’n unigryw a reit surreal. Fydd dechrau dydd Llun efo criw cymaint llai a’r gwaith mewn lle arall yn wahanol iawn - fydd hynny yn od.

"Ond mae o’n gyffrous hefyd er bod 'na ansicrwydd ynglŷn â be' fydd o fel pan ddown ni yn ôl.”

Dywedodd llefarydd ar ran yr amgueddfa y bydd presenoldeb yn lleol drwy'r cyfnod cau, fydd yn cynrychioli'r safle a stori'r chwareli.

Mae trafodaethau gyda Chyngor Gwynedd am gael presenoldeb yn Ysbyty'r Chwarel a gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol am gael bod yng Nghastell Penrhyn.

Disgrifiad o’r llun,

Andrew Jones - neu Johnjo - ydy'r chweched genhedlaeth o'i deulu i weithio yn y chwareli

Un fydd yn gwneud arddangosfeydd hollti llechi yn y lleoliadau newydd ydy Andrew Jones.

Roedd o’n chwarelwr am 40 mlynedd ac mae wedi bod yn gweithio yn yr amgueddfa ers wyth mlynedd bellach.

Meddai: “Mae’r cau wedi bod mor bell i ffwrdd do’n i ddim rili’n meddwl am y peth - ond yn yr wythnosau diwetha' mae o wedi bod yn ychydig mwy o her achos mae o’n digwydd rŵan.

"Y peth gwaetha' ydy bod ni’n colli cyd-weithwyr, a phan fyddwn ni’n dod yn ôl fydda nhw i gyd ddim yna. Mae 'na gyfle i rai ddod yn ôl ond ddim pawb.

“Mae’r adeilad yn cau lawr ond mae’r amgueddfa yn cario 'mlaen.

"Ac mae’n rhaid ni gofio, fydd yr hanes dal yna ar ôl i ni gyd fynd - ac mae’n rhaid gwneud rhywbeth rŵan i sicrhau'r dyfodol.”