Diswyddo plismon am ddefnyddio grym 'peryglus' yn y ddalfa
- Cyhoeddwyd
Mae swyddog heddlu a gafwyd yn euog o gamymddwyn difrifol am ddefnyddio grym afresymol yn erbyn dyn oedd wedi ei arestio wedi cael ei ddiswyddo.
Daeth panel disgyblu i'r casgliad fod Sarjant Rhodri Davies o Heddlu'r De wedi defnyddio grym diangen ac anghymesur yn erbyn Tariq Evans.
Cafodd Mr Evans ei arestio a'i gludo i Orsaf Heddlu Canol Abertawe - lle'r oedd Rhodri Davies ar ddyletswydd - ar 24 Hydref 2022.
Dywedodd y panel hefyd fod Mr Davies, sy'n gyn-focsiwr, wedi defnyddio "techneg ataliaeth beryglus" ar Mr Evans mewn cell.
- Cyhoeddwyd21 Medi 2023
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2024
Clywodd y gwrandawiad fod Mr Evans yn "ymosodol iawn" ac yn "hynod dreisgar" tuag at swyddogion pan gafodd ei arestio, a'i fod wedi ymosod arnyn nhw cyn cyrraedd y ddalfa.
Roedd lluniau teledu cylch cyfyng gafodd eu dangos yn y gwrandawiad yn dangos nad oedd Mr Evans yn ymosodol yn gorfforol cyn iddo gael ei "dynnu i'r llawr gan y sarjant".
Dywedodd Christopher Mckay, cadeirydd y panel, fod hynny "yn arbennig o beryglus" gan fod dwylo Mr Evans mewn cyffion.
Dywedodd ei bod yn debygol bod Mr Davies wedi "cael digon" o "sylwadau sarhaus" Mr Evans ac wedi "colli amynedd gydag ef".
'Ddim yn dderbyniol nac yn ddiogel'
Yn ôl y panel, roedd y grym gafodd ei ddefnyddio gan Mr Davies i reoli Mr Evans a'r ffordd y cafodd ei dynnu i'r llawr - drwy ei daro sawl gwaith - yn ddiangen, yn anghymesur, yn afresymol ac yn anghyfreithlon.
Dywedodd Mr Mckay nad oedd Mr Evans "yn fygythiad sylweddol i neb" pan oedd Mr Davies ar ei ben, a'i fod wedi cael ei daro "mewn tymer" ac nad oedd hynny at unrhyw "ddiben plismona".
Roedd Mr Davies hefyd yn defnyddio iaith "amhriodol", meddai.
Doedd y modd y defnyddiodd Mr Davies "ataliaeth beryglus" ar wddf Tariq Evans yn y gell "ddim yn dderbyniol nac yn ddiogel", meddai.
Fe wnaeth Mr Mckay feirniadu'r ffordd darodd Sarjant Davies ben-gliniau Mr Evans, tra'r oedd yn gorwedd ar y llawr, gan ddweud nad oedd hynny yn dderbyniol.
Dywedodd Mr Mckay bod "dim digon o amser rhwng yr ergydion i ailasesu'r angen am ergydion pellach".
Nododd hefyd fod y ffaith bod rhai swyddogion wedi gweld y digwyddiad, ond ddim wedi beirniadu Mr Davies oherwydd "teyrngarwch tuag ato ac, o bosib, Heddlu'r De".
Ychwanegodd Mr Mckay fod gweithred Mr Davies yn y ddalfa yn gyfystyr â chamymddwyn difrifol, ond roedd ei weithredoedd yn y gell yn gyfystyr â chamymddwyn.
Dywedodd fod yr honiadau, "o'u cymryd gyda'i gilydd", yn gyfystyr â chamymddwyn difrifol.
'Yn groes i'w gymeriad'
Dywedodd Jonathan Walters, sy'n cynrychioli'r awdurdod a ddaeth â'r achos yn erbyn Rhodri Davies, y byddai ei ddiswyddo yn "gyfiawn".
Ond clywodd y gwrandawiad bod opsiynau eraill gan gynnwys rhybudd terfynol neu israddio'i swydd.
Dywedodd Colin Banham, sy'n cynrychioli Mr Davies, fod ei gleient yn "heddwas poblogaidd yr oedd eraill yn ymddiried ynddo", ei fod wedi rhoi "20 mlynedd o wasanaeth da i'r cyhoedd" a'i fod wedi mynd "y tu hwnt i'r galw" yn ystod ei yrfa.
Disgrifiodd Mr Banham y digwyddiad fel un "hynod ynysig ac yn groes i'w gymeriad" gan ychwanegu ei fod yn "fflachbwynt mewn gyrfa sydd fel arall yn rhagorol".
Dywedodd Christopher Mckay, cadeirydd y panel disgyblu, fod "gorsaf heddlu i fod yn lle diogel", a bod y ffordd cafodd Mr Evans ei drin yn "druenus".
Cafodd ei ddiswyddo heb rybudd.
Wrth siarad ar ôl y gwrandawiad, sydd wedi para 10 diwrnod, dywedodd mam Mr Evans, Sarah-Lee Evans, ei bod "wrth ei bodd" gyda'r canlyniad.
"Mae fy mab yn fachgen mawr, mae'n 6'8" a thua 15 stôn ond mae ganddo ADHD ac awtistiaeth bosibl, a dyna pam y gwnaeth o ymateb fel y gwnaeth o ar y pryd.
"Ers hyn mae wedi'i chael hi'n anodd cadw swyddi a pherthynas ac mae'n cael ei gefnogi gan ein tîm iechyd meddwl lleol," meddai.
"Roedd Sarjant Davies yn swyddog profiadol, ac mae gorsafoedd heddlu'n gallu bod yn llefydd eithaf tanllyd, ond dylai fod wedi delio â hyn yn well."
Dywedodd mai penderfyniad ei mab fydd a yw am geisio sicrhau iawndal gan Heddlu De Cymru neu ddim.