Teulu’n ofni bod Lucy Letby wedi anafu eu merch

Lucy LetbyFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Lucy Letby lofruddio saith o fabanod a cheisio llofruddio chwe babi arall rhwng 2015 a 2016

  • Cyhoeddwyd

Mae rhieni i ferch o Gymru a gafodd ei thrin pan yn fabi gan Lucy Letby yn anhapus na chawson nhw wybod am hynny gan yr awdurdodau.

Cafodd Emily Tarran ei geni yn Ysbyty Countess of Chester yng Nghaer ddiwrnod cyn i Letby gael ei symud o'r ward babanod yn 2016.

Y llynedd, fe gafodd y gyn-nyrs ei charcharu am oes am lofruddio saith babi a cheisio llofruddio chwech arall.

Mae Heddlu Sir Caer yn dweud bod eu hymchwiliad yn parhau.

‘Fy merch yn ei dwylo hi’

Daeth rhieni Emily, Nicola a David Tarran, o hyd i nodiadau meddygol eu merch yn y eu cartref yn Yr Hôb, Sir y Fflint, yn ddiweddar a chael braw o weld enw Lucy Letby ar y ddogfen.

Dywedodd Ms Tarran iddi deimlo’n “gorfforol sâl” pan welodd hi'r enw.

“Daeth fy nghalon i fy ngheg wrth feddwl am fy merch yn ei dwylo hi," meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Emily Tarran ei thrin gan Lucy Letby ddiwrnod cyn i'r gyn-nyrs gael ei symud o'r ward babanod

Cafodd Emily Tarran ei geni’n gynnar yn Ysbyty Countess of Chester ar 29 Mehefin 2016.

Oherwydd ei bod hi'n wan iawn, cafodd ei chymryd yn syth i’r uned gofal arbennig i fabanod, ble roedd hi o dan ofal Lucy Letby.

Ond cafodd y ferch fach ei symud yn ddirybudd i Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, y diwrnod canlynol.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bellach yn saith oed, mae gan Emily Tarran sawl cyflwr iechyd gwahanol

“Fe ddaeth doctor i’r ward tua 01:00 a dweud bod angen symud Emily, ond chawsom ni ddim esboniad iawn," meddai Ms Tarran, 39.

"Mi sonion nhw rywbeth am y gwelyau.

“Cyn gynted ag y cyrhaeddodd hi Ysbyty Glan Clwyd, mi wellodd ei chyflwr yn syth.”

Cafodd Lucy Letby ei hatal rhag gofalu am fabanod ar 30 Mehefin, ac mae Nicola Tarran yn poeni y gallai staff yr ysbyty fod yn amau’r gofal roedd Letby yn ei roi Emily.

“Dwi’n poeni bod staff yr ysbyty yn gwybod rhywbeth a’u bod nhw eisiau Emily allan o’r uned ar frys," meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nicola a David Tarran yn ofni y gallai Letby fod wedi niweidio eu merch

Bellach yn saith oed, mae gan Emily Tarran sawl cyflwr iechyd gwahanol ac mae ei rhieni’n ofni y gallai hynny fod yn gysylltiedig â’r driniaeth a gafodd eu merch gan Letby.

“Dwi’n poeni ei bod hi wedi cael ei niweidio mewn rhyw ffordd a bod hynny wedi effeithio arni," meddai ei mam.

'Dim cysylltiad' gan yr heddlu

Mae Ms Tarran hefyd yn anfodlon mai trwy ddamwain y daeth hi a’i gŵr i wybod bod Letby wedi trin eu merch.

Mae’n credu y dylai’r heddlu fod wedi rhoi gwybod iddyn nhw.

Yn ei hôl hi, dydy’r heddlu ddim yn credu bod tystiolaeth fod Letby wedi niweidio Emily.

Ond mae Ms Tarran yn mynnu nad oes tystiolaeth i’r gwrthwyneb ychwaith.

Disgrifiad o’r llun,

Nodiadau meddygol Emily Tarran yn enwi Lucy Letby fel un o'r staff oedd yn gofalu amdani cyn i'r baban gael ei symud i Ysbyty Glan Clwyd

Mewn ymateb, dywedodd Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Countess of Chester bod ymchwiliad ditectifs yn parhau ac mai Heddlu Sir Caer oedd orau i wneud sylw ar y mater hwn.

Dywedodd Heddlu Sir Caer “na fyddai’n briodol i ni drafod achosion unigol” tra bo'r ymchwiliad yn parhau.

“Petai unrhyw beth yn codi sy’n achosi pryder meddygol, yna byddai’r tîm ymchwilio yn cysylltu â’r teulu perthnasol.

“Os oes gan rieni unrhyw bryder ynglŷn â’u babi, gallan nhw gysylltu gyda thîm Ymchwiliad Hummingbird."

Pynciau cysylltiedig