Oriau gwaith achubwyr bywyd wedi'u 'cwtogi' lle bu farw bachgen ar draeth

Bu farw David Ejimofor, 15, ar ôl mynd i drafferthion ger traeth Aberafan ym Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd
Mae cwest i farwolaeth bachgen ar draeth wedi clywed fod oriau gwaith achubwyr bywyd wedi'u cwtogi yn yr ardal ers 2010.
Bu farw David Ejimofor, 15, ar ôl mynd i drafferthion ger traeth Aberafan ar 19 Mehefin 2023.
Clywodd y llys yn Neuadd y Ddinas Abertawe ddydd Mawrth, fod David wedi marw ychydig ar ôl 19:00 a bod oriau gweithio'r achubwyr bywyd yn dod i ben am 18:00.
Dywedodd Pete Rooney, o'r RNLI, eu bod wedi cymryd y gwaith o redeg gweithrediadau achubwyr bywydau ar y traeth yn 2010.
Ychwanegodd Mr Rooney fod David wedi marw o leiaf hanner milltir i ffwrdd o'u prif orsaf.

Roedd David ar y traeth gyda'i ffrindiau fel rhan o ddathliadau diwedd arholiadau TGAU a Safon Uwch
Darllenodd y crwner cynorthwyol, Ed Ramsey, dystiolaeth gan gyn-reolwr gwasanaethau achubwyr bywyd ar y traeth, Harry Worth.
Dywedodd Mr Ramsey mai'r polisi oedd "rhoi achubwyr bywyd ar y morglawdd, neu'r pier fel y caiff ei alw'n lleol - a bydden nhw'n gweithio tan 20:30 yn ystod misoedd prysur yr haf".
Yna, cwestiynodd y crwner cynorthwyol pam fod hynny wedi newid.
Atebodd Mr Rooney gan ddweud fod "achubwyr bywyd yn gweithio tan 20:00 yn y flwyddyn gyntaf i'r RNLI gymryd yr awenau".
"Ond yn dilyn adolygiad o ddata, cafodd y model cenedlaethol ei ddefnyddio - lle mae achubwyr bywyd yn gweithio rhwng 10:00 a 18:00," meddai.
Ychwanegodd Mr Rooney y "byddai'r data'n dadansoddi'r nifer o alwadau i achubwyr bywyd a gwylwyr y glannau, ac ni ddangosodd gynnydd yn yr ardal".

Dywedodd teulu David Ejimofor bod ganddo "wên heintus, natur ofalgar a brwdfrydedd diddiwedd"
Clywodd y cwest fod pedwar achubwr bywyd yn gofalu am draeth Aberafan yn ystod misoedd prysur yr haf, a'i fod wedi'i rannu'n dair ardal gan yr RNLI.
Yn yr ardal sy'n cael ei hadnabod yn lleol fel y traeth bach a'r pier y bu farw David.
Gofynnodd y crwner i Mr Rooney "os y byddai achubwyr bywyd ar y traeth bach - a fydden nhw wedi cyrraedd David yn gyflym iawn?".
Atebodd Mr Rooney y "bydden nhw wedi medru".
Yn rhoi tystiolaeth, dywedodd Mr Worth - sylfaenydd a chadeirydd clwb achubwyr bywyd Aberafan ers 1969 - fod y clwb wedi bod yn gofalu am y traeth dros gyfnod clo Covid am nad oedd yr RNLI yn gweithredu.
Yn y cyfnod yna, meddai, roedd y clwb wedi rhoi achubwyr bywyd ar y morglawdd am eu bod yn ei weld fel lle peryglus.
Ychwanegodd fod yn rhaid i oriau gwaith achubwyr bywyd gael hyblygrwydd.
"Os yw hi'n heulog, nid gweithio rhwng 10:00 a 18:00 yw'r ateb, ni allwch gael amser cyffredinol ar gyfer y wlad gyfan, oherwydd os yw'r tywydd yn dda mae angen i achubwyr bywyd weithio tan o leiaf 20:00."
Ychwanegodd: "Yn fy marn i, gallech leihau'r risg trwy staffio'r pier."
'Dylai monitro wedi digwydd y llynedd'
Clywodd y cwest fod y ddarpariaeth gan yr RNLI yn dal i fod "union yr un peth" heddiw a phryd fu farw David.
Mae'r pier yn parhau i fod yn gyraeddadwy, ond mae giatiau wedi'u cloi ac arwyddion rhybuddio.
Clywodd y llys fod y giatiau ond yn cyrraedd eich canol a bod modd dringo drostynt yn hawdd.
Cafodd cais am asesiad risg RNLI o'r traeth bach a'r pier ei roi i mewn gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot.
Casgliad yr asesiad oedd fod lefel y risg yn isel i ganolig a thra gallai achubwr bywyd gael ei ystyried, ni chafodd ei argymell. Cafodd arwyddion eu hargymell yn gryf.
Mae'r cwest yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2023