Datgelu rhedwyr ras Nos Galan 2024

Lauren PriceFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Lauren Price yw'r ferch gyntaf o Gymru i ennill pencampwriaeth bocsio byd

  • Cyhoeddwyd

Mae Lauren Price, pencampwr bocsio'r byd wedi ei datgelu fel un o redwyr dirgel ar gyfer ras enwog nos Galan.

Ers 1958 mae'r ras flynyddol yn cael ei chynnal yn Aberpennar lle mae gwesteion arbennig yn cael eu dewis i gymryd rhan ond mae eu henwau yn cael eu cadw'n gyfrinach tan y noson.

Yn draddodiadol maen nhw'n gosod torch ger bedd y rhedwr hanesyddol Guto Nyth Brân.

Mae'r digwyddiad yn denu tua 2,000 o gystadleuwyr bob blwyddyn ac hyd at 10,000 yn gwylio.

Lauren Price yw'r ferch gyntaf o Gymru i ennill pencampwriaeth bocsio byd.

Cyn i Lauren ddechrau ar ei siwrne focsio roedd hi'n rhagori mewn pêl-droed, gan chwarae dros Gaerdydd ac ennill capiau rhyngwladol i Gymru.

Hyd yma, hi yw'r unig focsiwr o Gymru i ennill medal aur Olympaidd hefyd.

Yn ymuno â Lauren ar y ras Nos Galan oedd y cyn-chwaraewraig Hoci Ria Burrage-Male.

Fe wnaeth Ria gystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad ac roedd yn Brif Swyddog Gweithredol Hoci Cymru am dros bum mlynedd.

Mae hi bellach yn Ymddiriedolwraig Cymru Women's Sport.

'Merched y Cymoedd'

Dywedodd y Cynghorydd Ann Crimmings, Cadeirydd Pwyllgor Rasys Nos Galan: "Mae'r merched yma wedi cyflawni yn eu campau ac yn bersonol. Bydd pawb sy'n gwylio ac yn cymryd rhan yn achlysur Rasys Nos Galan wrth eu boddau i gael y cyfle i weld y merched ysbrydoledig yma heno.

"Mae'n wych gallu dweud mai merched y Cymoedd yw Lauren a Ria.

"Maen nhw'n dangos yr hyn mae modd ei gyflawni diolch i waith caled ac ymroddiad.

"Rwy'n siŵr bod yna bobl ifanc yn y dorf heno a fydd yn cael eu hysbrydoli ac a fydd, gobeithio, yn parhau i ymroi i beth bynnag maen nhw'n angerddol amdano."

Mae'r ras nos Galan yn cael ei redeg dros 5km o gwmpas canol tref Aberpennar.

Mae yna ddigwyddiadau rhedeg elitaidd gwrywaidd a benywaidd, yn ogystal â rasus hwyliog a rasus plant.

Yr Athro Laura McAllister a'r cyn-chwaraewr Rygbi Gareth Thomas oedd rhedwyr dirgel y ras y llynedd.

Yn ôl yr hanes gallai Guto redeg mor gyflym fel ei fod yn dal adar yn ei ddwylo wrth iddyn nhw hedfan.

Wedi iddo redeg ras o Gasnewydd i Fedwas, bu farw ym mreichiau ei gariad, Sian o'r Siop, yn 1737.

Pynciau cysylltiedig